Skip to main content

Annog pobl Gogledd Cymru i ddweud faint wnân nhw dalu am blismona

Dyddiad

AD at desk

27/11/23: Mae plismona cymunedau yng Ngogledd Cymru yn fater hanfodol i bawb. Rhwng heddiw a 7 Ionawr, mae Andy Dunbobbin sef Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gofyn i bobl y rhanbarth ddweud faint o arian maen nhw'n barod i dalu am y gwaith mae'r heddlu yn ei wneud er mwyn cadw ein cymdogaethau'n saff. 

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yng Ngogledd Cymru o Lywodraeth y DU a daw'r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor. Mae'r swm mae pobl yn ei dalu yn eu treth gyngor yn dibynnu ar y praesept a osodir gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Bydd pobl yn gallu rhoi eu barn mewn holiadur ar-lein neu ar bapur. Mae cwestiynau ar yr opsiynau am y swm sy'n cael ei wario ar blismona, ynghyd â pha flaenoriaethau mae pobl eisiau gweld Heddlu Gogledd Cymru'n canolbwyntio arnyn nhw. Bydd trigolion hefyd yn gallu dweud sut maen nhw'n graddio plismona yn eu cymunedau eu hunain yn fwy cyffredinol. 

Yn dilyn cau'r arolwg, bydd y canlyniadau'n cael eu hastudio, a bydd Andy Dunbobbin yn cynnig lefel y praesept i'r Panel Heddlu a Throsedd mewn cyfarfod ar 29 Ionawr 2024. Bydd y swm sy'n cael ei dalu gan bobl yna'n newid fis Ebrill, ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf sef 2024/25.

Ers 2010, fel rhan o'i ymroddiad i gynnig y gwerth gorau posibl i bobl Gogledd Cymru, mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi gwneud arbedion sy'n gyfanswm o £42.799m. Ond mae'n debygol bod angen cynnydd o £21.78 yn y dreth gyngor yn y praesept er mwyn creu cyllideb ddigyfnewid yn y flwyddyn nesaf, heb doriadau. 

Fodd bynnag, mae Andy Dunbobbin yn ymwybodol o bwysau presennol ar gyllidebau cartrefi. Drwy ei ymgynghoriad, mae'n awyddus gwybod pa lefel o ran cynnydd yn y dreth gyngor y byddai trigolion yn ei gefnogi.

Dywedodd y Comisiynydd: "Fel gŵr a thad, ac fel rhywun sy'n dal i fyw yng nghalon y gymuned y gwnes i dyfu fyny ynddi, dwi'n gwybod fod diogelwch pobl yn hollbwysig. Ond dwi hefyd yn gwybod faint o dan faint o bwysau mae teuluoedd a phobl heddiw. 'Da ni gyd yn dibynnu – ac mi ddyla' ni helpu – ein gilydd, lle bynnag a phryd bynnag gallwn ni. Ond mae diogelwch ein cymdogaethau ni'n dibynnu ar wasanaeth heddlu effeithiol sydd wedi'i ariannu'n dda.   

"Lle bynnag dwi'n teithio yng Ngogledd Cymru, o Ynys Môn i Wrecsam, Llanrwst, Pwllheli a'r Bermo, dwi'n gwybod faint mae pobl yn gwerthfawrogi gwaith Heddlu Gogledd Cymru a'i swyddogion a'i staff. Ond mae'r gwaith gwerthfawr hwn yn costio. Fy nyletswydd i ydy gweithio allan faint ddylai'r gost fod ar ran trigolion. Dyma pam dwi eisiau trigolion helpu ysbrydoli fy mhenderfyniad i. Buaswn i'n annog pobl Gogledd Cymru ymuno yn fy ymgynghoriad i a dweud wrthyf i am yr hyn maen nhw'n barod, ac yn gallu ei dalu er mwyn ariannu plismona yn ein cymuned ni."

Ynghyd ag ariannu'r gwasanaeth heddlu, mae'r arian sy'n cael ei godi drwy'r dreth gyngor hefyd yn galluogi'r CHTh ariannu gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru. Mae'r Gwasanaethau a Gomisiynir hyn yn gwneud gwaith gwerthfawr o fewn ein cymuned i gynorthwyo dioddefwyr trosedd a chynorthwyo troseddwyr i leihau aildroseddu. Enghreifftiau o'r gwasanaethau hyn ydy DASU, RASASC a Gorwel sy'n helpu dioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn merched a genethod. Enghraifft arall ydy Checkpoint Cymru, sy'n anelu ymdrin ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a rhoi dewis amgen credadwy i erlyniad.

Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd. Maen nhw’n gosod blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru drwy'r Cynllun Heddlu a Throsedd. Maen nhw’n penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cynnwys gosod lefel argymelledig y braesept i'r Panel Heddlu a Throsedd ei chymeradwyo. Maen nhw i wrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona a dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu.

Mae ymgynghoriad ac arolwg y CHTh yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg (a Darllen Hawdd). Mae copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a gorsafoedd heddlu ledled Gogledd Cymru. Gall trigolion hefyd e-bostio neu ysgrifennu er mwyn gofyn am gael derbyn copi. Bydd cynrychiolwyr o swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn bresennol hefyd mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru drwy gydol cyfnod yr arolwg, yn sgwrsio hefo pobl yn y cnawd er mwyn cwblhau'r arolwg. 

Mae'r arolwg yn dechrau ar 27 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 7 Ionawr 2024.

Gall trigolion lenwi'r ffurflen drwy'r dolenni canlynol:

Cymraeg https://www.surveymonkey.co.uk/r/praesept23_schth
Saesneg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/opcc_precept23

Gall trigolion hefyd fynd ar www.northwales-pcc.gov.uk yn ystod y cyfnod ymgynghori a llenwi arolwg byr er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed. Er mwyn derbyn copi papur drwy'r post, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy'r ffyrdd canlynol: 

E-bost: OPCC@northwales.police.uk 

Ffôn: 01492 805486

Swydd: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu. Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW