Skip to main content

Annog trigolion archebu lle yn y gymhorthfa gyhoeddus ar-lein gyntaf gan y CHTh a HGC

Dyddiad

Dyddiad

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal eu cymhorthfa gyngor ar-lein gyntaf erioed ar Microsoft Teams ar 10 Medi 2024 rhwng 5:30pm a 7:30pm. Mae hyn yn rhan o berwyl y CHTh i ddod â phlismona yn agosach at bobl y rhanbarth. Bydd y fenter hon yn galluogi pobl leol drafod plismona yn eu cymunedau a chodi pryderon neu sylwadau sydd ganddynt hefo'r Comisiynydd a'i gynrychiolwyr yn Heddlu Gogledd Cymru, o foethusrwydd eu cartrefi eu hunain.

Cyn iddo gael ei ail-ethol yn ddiweddar yn CHTh, ail-gadarnhaodd Andy Dunbobbin ei ymrwymiad i fod yn Gomisiynydd gweladwy a chyfrifol ar gyfer y rhanbarth a bod ar gael ac yn hawdd mynd ato i drigolion. Hefo hyn mewn golwg, bydd y Comisiynydd a swyddogion yn hapus trafod materion sy'n effeithio ar drigolion yn eu cymuned leol eu hunain drwy'r fformat ar-lein newydd hwn.

Mae'r comisiynydd yn hapus i siarad am faterion sy'n effeithio trigolion yn eu cymunedau lleol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud i siarad â'r Comisiynydd. Bydd yntau yno yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth mwyaf posib i'r cyhoedd. ⁠Bydd y sgyrsiau yn aros yn gyfrinachol a bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu cynnig awgrymiadau eraill os oes modd i asiantaethau a sefydliadau eraill ddelio â’r problemau yn well.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r gymhorthfa ar-lein hon sydd ar y gweill yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion ni gryfhau’r cysylltiad rhyngof i a’r cymunedau ‘da ni’n eu gwasanaethu nhw ar draws Gogledd Cymru. Drwy elwa ar y fformat digidol hwn, ‘da ni’n ei gwneud hi'n haws i drigolion leisio'u barn, waeth beth fo'u lleoliad neu eu hamgylchiadau. Er enghraifft, os ydyn nhw’n byw mewn ardal wledig, neu os oes ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu neu waith sy’n golygu nad ydyn nhw wedi gallu cyrraedd lleoliadau meddygfeydd blaenorol yn bersonol mae dull arloesol yn dangos ein hymrwymiad ni i hygyrchedd a’n gallu ni addasu wrth wasanaethu pobl Gogledd Cymru.”

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd bedwar dyletswydd, dyma'r blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona; ac i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol.  ⁠

Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd staff o’i dîm a Heddlu Gogledd Cymru hefo’r CHTh yn ystod y digwyddiad ar-lein, a fydd yn helpu hwyluso’r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.