Skip to main content

Annog trigolion Gogledd Cymru gadw llygad allan am dwyll rhamant ar Ddydd San Ffolant

Dyddiad

Paru ar-lein ydy'r ffordd fwyaf ffasiynol o gyfarfod rhywun o bell ffordd. Wrth i Ddydd San Ffolant nesáu, mae'n amser prysur o'r flwyddyn i gyplau newydd a phrofiadol. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu ei bod yn amser prysur i droseddwyr seiber sy'n dynwared edmygwyr er mwyn dwyn arian neu hunaniaeth pobl, neu'r ddau.

Dyna pam fod Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru; Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru; a Chanolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus hefo Get Safe Online er mwyn rhoi awgrymiadau a chyngor i drigolion ar baru'n saff ar-lein. Mae Get Safe Online yn brif ffynhonnell gwybodaeth deg, ffeithiol a hygyrch ar ddiogelwch ar-lein yn y DU.

Dywedodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Cam-drin Ariannol yn Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae twyll rhamant yn drosedd hynod greulon sy'n gadael ei hôl, sy'n dinistrio dioddefwyr yn ariannol ond hefyd yn emosiynol.

"Mewn sawl achos, nid ydy dioddefwyr yn cael cais uniongyrchol i drosglwyddo arian, gan y byddai llawer yn gweld hyn yn syth fel rhybudd. Yn hytrach, bydd troseddwyr yn targedu natur hael eu dioddefwyr a chreu sefyllfa ffug lle mae'r dioddefwr yn teimlo'r angen i helpu drwy gynnig anfon pres. 

"Mae'n anodd yn aml i ddioddefwyr dderbyn realiti'r sefyllfa unwaith maen nhw'n dod yn ymwybodol fod yr un roedden nhw'n ymddiried ynddynt yn llwyr wedi dweud celwydd ac wedi'u camddefnyddio. Mae hyn wedyn yn arwain at ddioddefwyr yn teimlo eu bod nhw'n gyfrifol am eu colled ac yn cywilyddio am yr hyn maen nhw wedi'i wneud. 

"Mae dioddefwyr hefyd yn teimlo y byddan nhw'n cael eu beio am 'goelio' y fath drosedd a chael eu hystyried yn ffyliaid neu'n wirion. Ond y gwir ydy bod llawer o ddioddefwyr yn cael eu rhwydo gan dechnegau soffistigedig dros gyfnod sylweddol gan dwyllwyr. Buaswn i'n annog unrhyw un sydd wedi dioddef y math hwn o dwyll i'w riportio a chael mynediad at yr help sydd ar gael."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Un o'm prif flaenoriaethau o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru ydy helpu dioddefwyr a chymunedau. Wrth iddi nesáu at Ddydd San Ffolant, mae'n gyfnod lle mae llawer o bobl yn penderfynu chwilio am gysylltiadau newydd a pherthynas newydd. Ond tra mae llawer o bobl allan yna yn y byd paru'n chwilio am ramant yn ddiniwed, mae rhai yn chwilio am resymau llai cadarnhaol. Buaswn i'n annog holl drigolion Gogledd Cymru gadw llygad allan am dwyll rhamant. Dilynwch gyngor yr heddlu o ran cadw eich hun yn saff."

Fe wnaeth Karen Walker, Gweithiwr Achos Twyll, Cymorth Dioddefwyr gynghori: "Mae'r iaith a'r seicoleg sy'n cael ei defnyddio gan dwyllwyr yn aml yn soffistigedig. Mae camddefnyddio emosiynol yn teimlo'n real iawn i ddioddefwyr pan maen nhw'n chwilio am gyfeillgarwch, cwmnïaeth neu ramant go iawn. Mae'r math hwn o dwyll yn newid bywydau go iawn ac yn lleihau ymddiriedaeth mewn dynol ryw. Dwi'n gobeithio y bydd pobl dal i riportio ac estyn allan am help."

Fe ychwanegodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online:  “Mae paru ar-lein yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd. Mae'n gyfleus, yn rhoi llawer o ddewis ac yn hwyl. Ond mae bob amser yn synhwyrol fod yn wyliadwrus am  fygythiadau posibl. Os 'da chi'n paru ar-lein yng Ngogledd Cymru, cadwch yn saff a darllenwch ein deg prif awgrym er mwyn osgoi twyll rhamant. Os 'da chi eisiau darllen mwy am gadw'n saff ar-lein, ewch ar ein gwefan ni sef getsafeonline.org"

Deg prif awgrym Get Safe Online am baru ar-lein:

  • Dewiswch wefan neu ap paru dibynadwy a pheidiwch â chael eich temtio oddi ar y gwasanaeth negeseuon hyd nes eich bod chi'n hyderus fod eich edmygwr yr hyn maen nhw'n ddweud ydyn nhw, a'ch bod chi'n ymddiried ynddyn nhw'n llwyr.
  • Lleihewch y siawns o'ch cyfrif yn cael ei hacio, drwy ddefnyddio manylion mewngofnodi saff ac unigryw ar wefannau ac apiau paru. 
  • Ymchwiliwch yr unigolyn, nid y proffil. Gofynnwch ddigon o gwestiynau, meddyliwch a gweithredwch yn rhesymegol a gan bwyll. Gall hyn eich helpu chi osgoi problemau fel twyll, blacmel neu gael eich defnyddio am ryw.
  • Chwiliwch am rywun i baru yn ôl eu henw, lluniau proffil neu unrhyw ymadroddion sy'n cael eu defnyddio o hyd a'r term 'twyll paru/dating scam', 'twyll rhamant/romance scam' neu 'swyno drwy dwyll/catfish'. Chwiliwch y llun o chwith er mwyn gwirio os ydy'r llun proffil yn ddilys neu os mai llun rhywun arall ydy o. Dechreuwch drwy chwilio ‘Search with an image on Google’.
  • Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw un sydd i'w gweld yn orawyddus neu sydd yn eich rhuthro chi, gan y gall hwn fod yn arwydd fod ganddyn nhw resymau eraill.
  • Os ydy rhywun 'da chi wedi'i gyfarfod ar-lein yn gofyn i chi anfon pres, manylion banc neu gyfrineiriau, peidiwch â gwneud, beth bynnag ydy eu stori hen dro neu reswm arall pan maen nhw angen y pres. 
  • Gall datgelu manylion personol fel enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad cartref neu enwau, manylion a lleoliadau aelodau o'r teulu arwain at dwyll, dwyn hunaniaeth neu niwed personol hyd yn oed.
  • Dydy anfon lluniau neu fideos personol ohonoch eich hun at rywun 'da chi wedi'i gyfarfod ar-lein ddim yn cael ei argymell. Gall hyn arwain at flacmel neu niwed i enw da. Ni fyddwch chi fyth yn gallu bod yn siŵr pwy fydd yn gweld y cynnwys. Cofiwch hefyd nad ydy pob perthynas yn parhau am byth.
  • Gorffennwch y sgwrs ac ataliwch unrhyw un sy'n dweud wrthych chi beidio sôn amdanyn nhw wrth eich ffrindiau a'ch teulu. Efallai eu bod nhw'n trio eich ynysu neu eich gorfodi chi.
  • Dywedwch wrth ffrind neu aelod o'r teulu lle 'da chi'n mynd cyn paru hefo rhywun ar-lein yn y cnawd am y tro cyntaf. Trefnwch eich trafnidiaeth eich hun i'r cyfarfod ac oddi yno, gan gyfarfod mewn lle prysur, cadwch eich ffôn ymlaen a threfnu i rywun eich ffonio chi er mwyn rhoi cyfle i chi wneud eich esgusion a gadael yn gynnar. 

Stori dioddefwr gan Gymorth Dioddefwyr

Dyn 65 oed, Wrecsam

Fe wnaeth y dioddefwr ymuno efo gwefan o'r enw Badoo gan chwilio am ffrind. Fe wnaeth dderbyn neges gan rywun a gofynnwyd iddo fo symud drosodd i WhatsApp. Roedden nhw 'di bod yn siarad efo'i gilydd ers mis Mawrth 2023 ac fe gafodd yr adroddiad ei wneud i'r heddlu ym mis Ionawr 2024. 

Roedd y dioddefwr yn unig, yn byw ei hun heb gyswllt teulu gan eu bod nhw wedi ymbellhau yn dilyn marwolaeth ei fam. Mae wedi rhannu ei fod yn dioddef o iselder, hefo anghenion iechyd meddwl ac yn teimlo'n ynysig. 

Fe wnaeth o rannu gwybodaeth hefo'r un roedd yn feddwl oed dyn mynd i berthynas hefo nhw, ac fe wnaeth hi ddechrau gofyn am bres, gan ddweud wrtho fo ei fod ar gyfer rhoi blaendal am gartref gyda'i gilydd. Fe wnaeth o anfon arian parod, talebau rhoddion Apple, gemwaith ac iPhone.

Byddai'r ddynes yn gofyn i'r eitemau gael eu postio at gyfeiriadau ei hewythr ac roedd pum cyfeiriad i gyd. Fe wnaeth golli £25,000 i gyd. Pan wnaeth Cymorth Dioddefwyr gysylltu hefo fo, fe wnaeth ymateb i'r cyswllt cychwynnol gan ofyn am help hefo eiriolaeth hefo'r heddlu a help hefo effaith emosiynol y sefyllfa y mae ynddi.

Mae'r dioddefwr wedi egluro'n fanwl nad y flaenoriaeth ydy colli'r pres, ond y celwyddau a'r twyll mae'n teimlo ei fod wedi'i ddioddef ac effaith emosiynol hyn ar ei fywyd. Mae'n dal i gredu rhywfaint fod hon yn berthynas go iawn ac y bydd yn arwain at fywyd gwell a rhywun i rannu ei amser hefo nhw. Mae'n parhau mewn cyswllt hefo hi, ac mae wedi rhwygo'n emosiynol. Tra mae wedi rhoi gwybod i'r heddlu, mae'n teimlo'n euog iawn y bydd hi'n cael ei harestio ac mewn trafferthion.

Yn ystod galwadau Cymorth Dioddefwyr hefo fo, mae'r dioddefwr wedi dweud y byddai'n hoffi mynd i gyfeiriad y ddynes yn y cnawd i weld os ydy hi'n bodoli a gweld os oes dyfodol iddyn nhw.  Mae Cymorth Dioddefwyr a'r dioddefwr wedi siarad yn fanwl am yr effaith mae twyll rhamant wedi'i gael ar bobl a sut mae'r twyllwyr yn defnyddio iaith er mwyn bachu pobl i'r rhamant a'i fregusrwydd.  Mae wedi derbyn ei fod angen edrych ar ôl ei hun gyntaf a chyfyngu'r cyswllt hefo'r ddynes. 

Mae'r dioddefwr yn sgwrsio mewn galwadau wythnosol hefo Cymorth Dioddefwyr. Mae wedi dweud ei bod o gymorth siarad hefo rhywun sy'n deall. Tra mae dal wedi rhwygo'n emosiynol, mae'r ffaith ei fod wedi estyn allan am gymorth yn gam cadarnhaol iddo'n creu cadernid ac yn dod drwy'r dioddefaint hwn.

Yr hyn i'w wneud os byddwch yn dioddef twyll rhamant

Os ydy'r drosedd ar waith ac mae rhai o dan amheuaeth yn bresennol, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffoniwch 999.

Fel arall, dylech riportio'r mater wrth  Action Fraud  ar 0300 123 2040 neu ar www.actionfraud.police.uk. Action Fraud ydy'r ganolfan hysbysu genedlaethol am dwyll ledled Cymru a Lloegr.

Canolfan Cymorth Dioddefwyr

Mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn comisiynu ei gwaith, yma i wrando a chynnig cymorth, ac fe'ch anogir i ddefnyddio eu gwasanaethau.

Mae'r staff yn y ganolfan yn deall yr embaras a'r cywilydd mae dioddefwyr yn ei deimlo ar ôl profi twyll.  Mae rhai pobl yn beio eu hunain, ond nid dioddefwyr sydd ar fai.

Peidiwch a phetruso cysylltu â'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr os ydych wedi dioddef twyll ac os hoffech wybod mwy am sut y gallent eich cynorthwyo.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan dwyll yng Ngogledd Cymru, ffoniwch dîm eich Canolfan Cymorth Dioddefwyr lleol ar 0300 303 0159. Oriau agor yw dydd Llun – dydd Gwener 8.00am-8.00pm a dydd Sadwrn 9.00am-5.00pm.