Skip to main content

Annog trigolion Porthmadog archebu lle yng nghymhorthfa gyhoeddus y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad
PCC

Mae Andy Dunbobbin sef Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyhoeddus yn llyfrgell y dref yng Nglaslyn, Stryd y Llan, ar gyfer trigolion Porthmadog a’r cyffiniau, o 2-4pm ar 4 Rhagfyr. Mae’r digwyddiad yn rhan bwysig  o ymgyrch y CHTh i ddod â phlismona yn agosach at bobl y rhanbarth. Bydd y gymhorthfa yn galluogi pobl leol  drafod plismona yn eu cymunedau a  chodi unrhyw bryderon neu sylwadau sydd ganddyn nhw efo’r Comisiynydd a chynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru.

Cyn ei ail-ethol fel CHTh ym mis Mai 2024, mi wnaeth Andy Dunbobbin ailddatgan ei ymroddiad i fod yn Gomisiynydd amlwg a chyfrifol ar gyfer y rhanbarth, a  bod ar gael ac yn groesawgar i breswylwyr. Gyda hyn mewn golwg, mi fydd y Comisiynydd a swyddogion yn hapus  trafod materion sy’n effeithio ar drigolion yn eu cymunedau.

Mae gan y rhai sy’n dod 20 munud i siarad yn bersonol efo’r Comisiynydd, a fydd yng nghwmni cynrychiolwyr o’i swyddfa a Heddlu Gogledd Cymru. Bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu darparu cyfeirio pellach os gall mater gael ei drin yn fwy priodol gan asiantaethau a sefydliadau eraill. Er mwyn sicrhau preifatrwydd, ni fydd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “’Dwi’n falch fy  mod yn ymgysylltu’n uniongyrchol efo trigolion Porthmadog a’r cyffiniau ynglŷn â materion sy’n bwysig iddyn nhw, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae fy nghymorthfeydd yn gyfle i’r gymuned leisio’i pryderon a rhannu eu syniadau. Mae hyn i gyd ynglŷn â dod â phlismona yn agosach at y bobl ‘da ni’n eu gwasanaethu. ‘Dwi’n edrych ‘mlaen at gyfarfod trigolion, clywed eu safbwynt, a chydweithio er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau bod yn lle diogel a bywiog i fyw. ‘Dwi’n annog unrhyw un sydd eisiau, i archebu lle a sicrhau cael dweud eu dweud.”

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd bedair prif ddyletswydd sef gosod blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru; gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona; a dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol.  ⁠

Sut mae’r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm ym Mhorthmadog, a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, a  sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol, mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.