Skip to main content

Annogir trigolion Caergybi i gadw lle yng nghymhorthfa gyhoeddus y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru

Dyddiad

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yn llyfrgell y dref yn Neuadd y Farchnad ar Stryd Stanley ar gyfer trigolion Caergybi a’r cyffiniau o 2-4pm ar Orffennaf 24 fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd a'i gynrychiolwyr yn Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r comisiynydd yn hapus i siarad am faterion sy'n effeithio trigolion yn eu cymunedau lleol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud i siarad â'r Comisiynydd. Bydd yntau yno yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth mwyaf posib i'r cyhoedd. ⁠Bydd y sgyrsiau yn aros yn gyfrinachol a bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu cynnig awgrymiadau eraill os oes modd i asiantaethau a sefydliadau eraill ddelio â’r problemau yn well.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae fy nghymhorthfa yng Nghaergybi yn gyfle arall i gryfhau ymhellach y cwlwm sydd eisoes yn ddwfn rhyngof i a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ar draws Gogledd Cymru. Ar ôl cael fy ail-ethol yn ddiweddar, rwy’n parhau i fod yn ymroddedig i faethu perthynas agosach rhwng y cyhoedd, fy swyddfa a Heddlu Gogledd Cymru

“Eleni, mae trigolion Caergybi wedi rhannu mewnwelediadau amhrisiadwy i faterion lleol gyda mi, ac rwy’n awyddus i barhau i adeiladu’r ddeialog agored hon. Rwyf yn annog y gymuned i gyd i achub ar y cyfle hwn i leisio eu pryderon a’u syniadau’n uniongyrchol.”

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd bedwar dyletswydd, dyma'r blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona; ac i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol.  ⁠

Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm yng Nghaergybi a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.