Dyddiad
Heddiw (12/1/23) ceir lansiad adolygiad annibynnol i blismona'r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru. Gorchmynnwyd yr adolygiad fis Mai 2022 gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin a thra bod y testun yn pwysleisio bod gweithredoedd Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn arfer da, mae hefyd yn gwneud awgrymiadau i'r Heddlu ar sut i blismona hela ar draws yr ardal.
Paratowyd yr adroddiad hwn gan aelodau Cyfiawnder - Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a wnaeth ofyn am farn y rhai o blaid hela a rhai sy'n gwrthwynebu hela, yr heddlu ac eraill sy'n ymwneud â'r mater.
Mae'r adolygiad yn edrych ar heriau gorfodi sydd ynghlwm â Deddf Hela 2004 ar gyfer yr heddlu; arfer da yng nghyswllt plismona gwahardd ar hela; pa mor dda mae Heddlu Gogledd Cymru yn perfformio yng nghyswllt hela llwynogod yn anghyfreithlon a digwyddiadau yn ymwneud â hela sy'n dod at eu sylw; pa mor dda mae'r Heddlu yn cydymffurfio â'r Safonau Cenedlaethol ar gofnodi, ymateb, ymchwilio ac erlyn digwyddiadau yn ymwneud â hela.
Mae'r adolygiad yn nodi nad yw hela llwynog yn flaenoriaeth blismona genedlaethol ac yn y gorffennol mae hyn wedi dylanwadu ar ymateb Heddlu Gogledd Cymru i'r mater. Bydd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio bod gwaith yr Heddlu yn plismona'r Ddeddf Hela yn dilyn canllawiau arferion da. Mae hefyd yn pwysleisio hyd at 12 mis cyn yr adolygiad bu Heddlu Gogledd Cymru yn "adfywio eu dulliau a'u harferion yn ymwneud â gorfodi'r gwaharddiad hela a digwyddiadau yn ymwneud ag e."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fy ngwaith i fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd yw sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru'r gwasanaeth heddlu gorau posibl, ble bynnag y maent yn byw. Mae troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn arbennig o bwysig i mi oherwydd yr effaith y gall troseddau fel hyn gael ar ein cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru.
"Mae nifer o bobl gyda gwahanol farn ar hela wedi codi'r broblem hon gyda mi ac rwyf wedi comisiynu'r adolygiad hwn i weld sut mae'r Ddeddf Hela yn cael ei blismona yng Ngogledd Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi'r heddlu o dan y chwyddwydr i weld a ydynt yn plismona'n effeithiol a ble gellir gwneud gwelliannau.
“Tra bod y canfyddiadau yn dangos bod Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud gwaith effeithiol yn plismona'r Ddeddf Hela ac yn cadw'r ddysgl yn wastad ar y ddwy ochr, mae'r adroddiad hefyd yn argymell nifer o newidiadau wrth weithredu. Byddaf nawr yn gweithio gyda'r Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i weld sut y gellir rhoi'r argymhellion hyn ar waith.
“Hoffwn ddiolch i'r tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam am eu gwaith yn cwblhau'r adolygiad hwn mewn modd pragmatig, proffesiynol a diduedd. Hoffwn hefyd ddiolch o galon i'r cyhoedd a gymerodd ran a mynegi eu barn."
Dywedodd yr Athro Iolo Madoc Jones o Gyfiawnder - Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Hoffai'r tîm ymchwil a mi ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a gynorthwyodd ar yr adolygiad annibynnol hwn drwy rannu eu profiadau o sut mae'r Ddeddf Hela yn cael ei weithredu a sut mae digwyddiadau yn gysylltiedig â hela yn cael eu plismona. Mae'r sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn anelu at fod yn adnodd ar gyfer darparwyr gwasanaeth ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol er mwyn adnabod, hyrwyddo ac ymchwilio arfer da yn y meysydd hynny. Ein nod drwy gydol yr ymchwil a'r adolygiad yw gweithio i'r safon uchaf o uniondeb academaidd er mwyn sicrhau bod ein casgliadau ac argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r broses yn gwneud i ni ddod i'r casgliad bod cyhuddiadau o hela llwynogod yn anghyfreithlon yn cael eu hymchwilio mewn modd rhesymol ar hyn o bryd."
Disgwylir y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn adolygu'r canfyddiadau ac yn cyflwyno cynllun gweithredu i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar sut i roi'r argymhellion ar waith.
Er mwyn darllen yr adolygiad llawn a'i argymhellion, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yma.