Skip to main content

Arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr yn darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT

Dyddiad

Arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr yn darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT

Mae clwb ieuenctid sy'n darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT+ deimlo'n gyfforddus a hapus wedi derbyn hwb - diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Mae elusen GISDA yng Ngwynedd, sy'n cefnogi pobl ifanc o bob cwr o'r sir, yn ogystal â rhannau eraill o'r rhanbarth, wedi bod yn rhedeg y clwb pythefnosol o'u canolfan yng Nghaernarfon ers 2017 ar ôl adnabod yr angen am leoliad lle mae'r rhai sy'n adnabod eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a 'plws', sy'n cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill, fynegi eu hunain yn rhydd a darparu cefnogaeth i'w gilydd.

Yn awr, diolch i grant o £2,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gall GISDA gyflogi gweithiwr prosiect i gefnogi'r clwb ieuenctid sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n denu mwy na 60 o bobl ifanc o 12-25 oed .

Daw’r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd â chyfanswm o £61,901 ynddi eleni ac sy’n cynnwys dau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.

Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.

Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.

Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.

Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Yr ymgeisydd llwyddiannus arall yng Ngwynedd oedd Academi West End ym Mangor a dderbyniodd £2,500 i weithio gyda gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor a'r Heddlu i greu ardaloedd mwy diogel i blant lleol.

Mae GISDA yn darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc sy’n agored i niwed a digartref trwy amrywiaeth o wahanol brosiectau, ac mae gan yr elusen ddwy hostel ym Mlaenau Ffestiniog a Chaernarfon yn ogystal â dau dŷ wedi eu dodrefnu'n llawn yn Nolgellau.

Wrth siarad am y clwb ieuenctid LHDT +, dywedodd arweinydd y tîm, Lee Duggan: “Yr ymateb llethol a gawn gan bobl ifanc yw eu bod nhw’n gymuned ac mae hyn yn rhywle y gallan nhw deimlo'n ddiogel i fynegi eu hunain.

Mae'r rhain yn bobl ifanc sydd ar y cyrion ond mae'r clwb yn rhoi llwyfan iddyn nhw fod yn nhw eu hunain a bod yn agored. Mae'n rhywbeth maen nhw'n ei werthfawrogi.

Mae gennym dros 60 o bobl ifanc ac fel arfer mae tua 40 yn troi fyny ar y noson. Maen nhw’n dod o bob man.

Mae gennym grŵp sy'n teithio o Blaenau i'r clwb ac chriwiau eraill sy'n dod yr holl ffordd o Ynys Môn, Conwy a hyd yn oed cyn belled â'r Rhyl. Yn draddodiadol rydym yn darparu ystod o wasanaethau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ond rydym hefyd yn cael pobl yn dod i’r clwb sydd mor ifanc â 12 oed.

Mae'n dangos angen a gwerth y clwb, a’r ffaith bod angen creu mwy mewn ardaloedd eraill."

Mae'r grant o £2,500 wedi galluogi'r elusen i gyflogi gweithiwr prosiect am 10 awr yr wythnos sydd â phrofiad i sylwi unrhyw risg neu fregusrwydd ac i arwain pobl ifanc yn briodol.

Bydd y rôl hefyd yn galluogi'r clwb i feithrin cysylltiadau gyda gwasanaethau perthnasol eraill a dod o hyd i ffyrdd o gael arian fel y gallai fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Dywedodd Lee: "Rydym yn awyddus i adeiladu rhwydweithiau gyda sefydliadau, ysgolion, prifysgolion a chlybiau ieuenctid eraill.

Bydd yr aelod newydd o staff hefyd yn cydlynu teithiau a chodi arian ar raddfa fach fel y gall y bobl ifanc gymryd perchnogaeth. Mae angen i ni weld beth arall y gallwn ei wneud i wneud y clwb yn gynaliadwy.

Gallwn gael ychydig mwy o strwythur nawr a sefydlu cynllun ar gyfer digwyddiadau ar gyfer y misoedd nesaf.

Mae'r grant hwn yn hanfodol i ni. Nid yw'r gwasanaeth yn gynaliadwy i'w redeg gan wirfoddolwyr yn unig. Roedd yn anodd dychmygu peidio â chadw'r clwb."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.

Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus

Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.

Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.

Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”

Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.

Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.

Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.

Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu.

Lyndsey Thomas o GISDA yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett ar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.