Dyddiad
Mae cronfa o £60,000 a gasglwyd oddi wrth droseddwyr ar gael i helpu mynd i'r afael â'r broblem sydd ar gynnydd sef Llinellau Cyffuriau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, bydd enillion y troseddwyr yn cael eu hailgylchu er lles y gymuned mewn cyfres o fentrau atal troseddau ar draws yr ardal.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis unwaith eto yn cynnig arian i'r Gronfa Gymunedol ar gyfer grwpiau lleol ac mae Mr Arfon Jones, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn annog grwpiau lleol i wneud cais am yr arian.
Mae'n cael ei drefnu ar y cyd gyda Mr Jones, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).
Mae'r arian ar gyfer y gwobrau yn dod yn rhannol o'r arian a atafaelwyd gan y llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Bydd chwe sir y rhanbarth yn derbyn £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un i ddau sefydliad sy'n gweithredu mewn tair sir neu rhagor.
Hefyd eleni, diolch i arian ychwanegol oddi wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru bydd dau grant newydd o £10,000 ar gael.
Mae'r grantiau mwy wedi eu cynllunio i noddi prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r bygythiad o Linellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu darbwyllo a'u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws yr ardal.
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw Ionawr 18 a bydd y grwpiau llwyddiannus yn cael eu dewis gan y cyhoedd.
Mae'r ffurflenni cais ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru gyda dolen iddynt ar wefan Comisiynydd yr Heddlu. Dewisir y rhestr fer gan banel arbennig ac agorir y pleidleisio ar Chwefror 4 tan Fawrth 1 gyda'r bleidlais honno yn penderfynu'r enillydd.
Meddai Mr Jones, sy'n gyn-arolygydd: “Penderfynais roi mwy o arian eleni oherwydd bygythiad cynyddol Llinellau Cyffuriau sy'n cynnwys cam-fanteisio troseddol ar blant a phobl ifanc.
Mae'r rhwydweithiau cyffuriau hyn yn cael eu rhedeg yn aml gan droseddwyr o'r tu allan i'r ardal drwy linellau ffôn symudol sy'n darbwyllo pobl fregus i weithredu fel gwerthwyr cyffuriau.
Mae trais a bygythiadau yn thema gyffredin a'r enw a roddir i'r rhwydweithiau hyn yw Llinellau Cyffuriau."
Mae llawer y gall y trydydd sector a sefydliadau cymunedol wneud yn enwedig yn nhermau codi ymwybyddiaeth ymysg y dioddefwyr eu hunain.
“Mae'n bwysig iawn rhybuddio pobl ifanc o'r peryglon o gael eich rhwydo gan y gangiau hyn.
Mae Llinellau Cyffuriau yn bla cynyddol nid yn unig yn yr ardal hon ond ar draws y DU gyfan. Un o fy mhrif flaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw ei daclo."
Cefnogir ei neges gan y Dirprwy Brif Gwnstabl, Neill Anderson: “Mae cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn anelu yn union at yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.
“Mae ‘na gymaint o grwpiau cymunedol allan yna, ac mae'r fenter hon yn ymwneud â'r heddlu a'r gymuned, yn gweithio gyda'i gilydd i wneud pethau yn well i bobl gogledd Cymru, gyda'r fantais bod peth o'r arian yn dod oddi wrth droseddwyr.
Mae hyn i gyd yn cyd-fynd gydag amcanion cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Tra bod llawer o weithgaredd wedi bod yn ymwneud â dedfrydu troseddwyr ym maes Llinellau Cyffuriau, ac rydym wedi bod yn llwyddiannus yn y maes hwnnw, mae’r cynllun hwn yn ymwneud ag atal.
Mae grwpiau allan yna a allai helpu pobl ifanc i aros ar y llwybrau iawn er mwyn osgoi rhwydweithiau'r Llinellau Cyffuriau.
Wedi iddynt gael eu tynnu i mewn, maent yn cael eu hecsbloetio a'u bywydau'n cael eu dinistrio. Mae'r effaith arnynt yn ddychrynllyd ac mae cysylltiadau yno i gaethwasanaeth modern."
Meddai rheolwr prosiect PACT Dave Evans: “Rhaid i bob cais edrych ar gynllun trosedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac ystyried sut y gall eu cais gefnogi un neu fwy o'r pum blaenoriaeth sydd yng nghyflwyniad y cynllun.
Mae angen iddynt hefyd siarad â'u Tîm Plismona Cymdogaethau Diogelach drwy eu SCCH neu yn uniongyrchol drwy eu harolygydd lleol a fydd yn gorfod rhoi sêl bendith i'w cais cyn iddo ddod gerbron panel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae hyn yn llesol i gymdeithas oherwydd daw daioni yn sgil drygioni. Dyma'r chweched flwyddyn i ni gynnal y gronfa hon a bob blwyddyn mae safon y ceisiadau yn gwella a'r effaith y mae'r arian yn ei gael o fewn ein cymunedau yn hollol ffantastig. Rydym wedi gweld y manteision i gymunedau ac i unigolion o gael yr arian hwn.
Mae gan bobl Gogledd Cymru eu llais yn hyn i gyd. Nhw sy'n penderfynu pwy sy'n mynd i fod yn llwyddiannus ymhob categori. Y mwyaf o bleidleisiau y gallwch eu sicrhau drwy eich rhwydwaith o gefnogwyr gorau'n byd. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau eu bod yn annog eu cefnogwyr i bleidleisio ar gyfer eu prosiect penodol."
Ffurflen Gais -Eich Cymuned Eich Dewis 2018-19 Ffurflen Gais
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi eu cwblhau drwy e-bost i yourcommunityyourchoice@nthwales.pnn.police.uk erbyn 5pm ar y dyddiad cau Ionawr 18. Am fwy o wybodaeth ewch i www.north-wales.police.uk.