Dyddiad
Mae clwb criced yn un o ardaloedd harddaf gogledd Cymru wedi cael help llaw gydag arian a atafaelwyd gan droseddwyr ar ôl i fandaliaid ddifetha ei gae pob tywydd.
Ym mis Mawrth y llynedd mi wnaeth fandaliaid ifanc a oedd yn cynnal parti yfed dan oed gynnau barbeciw ar y llain wiced artiffisial ar gae Ffordd yr Aber yng Nghaernarfon, sydd mewn lleoliad godidog yn edrych allan ar draws y Fenai.
Mi wnaeth hynny ddifetha wyneb y cae ac roedd yn ergyd greulon i aelodau brwd y clwb sydd wedi gweithio'n galed i wella eu cyfleusterau gan gynnwys gosod cae gwair naturiol newydd.
Ond yn awr mae’r clwb, a ffurfiwyd yn 2015 ac sydd newydd gael dyrchafiad ar ôl ennill Adran Pedwar Cynghrair Gogledd Cymru yn 2019, wedi derbyn £2,500 gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Mae'r fenter, a gefnogir hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru, yn ei wythfed flwyddyn ac mae llawer o’r dros £370,000 a ddosbarthwyd i achosion haeddiannol yn yr amser yma wedi'i sicrhau trwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr gyda'r gweddill yn dod gan y Comisiynydd.
Roedd chwaraewyr Caernarfon, sydd ar hyn o bryd yn yr ail safle yn Adran Dau, yn ymarfer ar y cae pan ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin. Mi wnaehty Comisynydd hyd yn oed fentro bowlio ychydig o beli at y batiwr Llyr Erddyn ar y llain wiced ymarfer sydd newydd gael ei hadfer.
Meddai: “Rwy’n falch iawn bod Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi gallu helpu’r clwb allan yn y llecyn agored gwych sydd ganddyn nhw yma yng Nghaernarfon.
“Mae'n bwysig rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwaraeon ac i ni ddarparu cyfleusterau yn y gymuned a all eu hatal rhag mynd i drwbwl.”
Gwyn Williams, trysorydd y clwb ac un o’r sylfaenwyr, oedd un o’r rhai mwyaf gweithgar y tu ôl i gais y clwb am arian ac meddai: “Mi wnaethon ni gyflwyno cais am y pres gyda chymorth y Tîm Plismona Cymdogaeth lleol.
“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn gyfle delfrydol i ddefnyddio enillion troseddwyr i’n digolledu ni am ddigwyddiad a oedd yn weithred droseddol.
“Rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned leol ac ers ennill y gynghrair a chael dyrchafiad mae’n ofynnol i ni chwarae criced ar gae gwair ond rydyn ni’n defnyddio’r cae artiffisial ar gyfer ymarfer ac ar gyfer ein gemau 20/20 ar ddyddiau Mercher.
“Mae’n cymryd llawer o waith i baratoi popeth ar gyfer criced - treuliodd ein cadeirydd, Grant, dridiau ar ddechrau’r tymor dim ond yn rholio’r cae.”
Dywedodd Grant Peisley, alltud o Awstralia sy’n byw yng ngogledd Cymru: “Roeddem yn teimlo ein bod wir yn cyrraedd rhywle wrth ennill dyrchafiad ond yna daeth y fandaliaeth.
“Rydym wedi cadw’n bositif ac wedi parhau i chwarae ac mae’r canlyniadau wedi dod ac rydyn ni’n cael tymor da iawn arall.
“Mae'r arian wedi bod yn hanfodol i ni serch hynny a phe na byddem wedi gallu cael gafael ar yr arian hwn yna efallai y byddem wedi gorfod rhoi’r gorau iddi.
“Rŵan gallwn ddal ati ac mae gennym gynlluniau cyffrous i adeiladu pafiliwn newydd gyda golygfeydd gwych draw i Ynys Môn.”
Ychwanegodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT: “Mae Eich Cymuned, Eich Dewis, sy'n cael ei redeg ar y cyd efo’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, yn gofyn i'r cyhoedd bleidleisio dros yr achosion da fydd yn cael eu hariannu.
“Eleni, roedd gennym y pot ariannol mwyaf erioed, sef £60,000, a bwriwyd y nifer uchaf erioed o bleidleisiau, sef 32,000 ledled y Gogledd, gan gynnwys ar gyfer cricedwyr Caernarfon, ac mae hynny’n tanlinellu lefel yr ymgysylltiad cymunedol cadarnhaol y mae PACT yn ei gyflawni.”
Dywedodd y Rhingyll Heddlu Non Edwards, sy’n arwain y tîm plismona cymdogaeth lleol: “Mae llawer o bobl yn defnyddio’r ardal hon ac mae’n golygu llawer i’r gymuned felly rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu helpu’r clwb criced.
“Maen nhw’n griw o hogia da ac mae’n wych eu cefnogi nhw ar ôl i’r achos yma o ddrwgweithredu eu hatal rhag defnyddio eu cae.”