Dyddiad
26/09/2022: Mae'r ddau sefydliad cyntaf i dderbyn arian drwy gynllun newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i helpu taclo troseddau wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Gwnaeth RASASC NW (Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol), a sefydliad i bobl ifanc Youth Shedz, gais am arian o'r gronfa Arloesi i Dyfu a ddatgelwyd gan CHTh ym mis Ebrill 2022 i dargedu a buddsoddi mewn prosiectau yn delio ag achosion troseddau ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd a dyfeisgar o atal drwg weithredu.
Mae cefnogaeth a therapi RASASC NW yn lleddfu effeithiau tymor byr a thymor hir cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru. Maent yn gweithio gyda dioddefwyr i ganfod ffordd i ymdopi gyda'u profiadau a symud ymlaen er mwyn gwella, gan gynyddu eu gwytnwch a gwella eu bywydau yn y dyfodol.
Mae atgyfeiriadau wedi bod yn cynyddu ers nifer o flynyddoedd a 2021-22 oedd y mwyaf a dderbyniwyd yn ei hanes. Mewn ymateb i'r cynnydd mewn atgyfeiriadau, anghenion iechyd meddwl cymhleth a chynnig ymwybyddiaeth mae staffio a gwasanaethau RASASC NW wedi tyfu i ateb gofynion y sefydliad a'r dioddefwyr.
Mae'r arian a dderbyniwyd gan RASASC NW gan Arloesi i Dyfu yn galluogi'r sefydliad i barhau i gyflenwi cefnogaeth therapiwtig arbenigol i blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin plant, cam-drin rhywiol neu drais.
Sefydlwyd Youth Shedz gan Scott yn 2018 ac mae chwe sied wedi ei sefydlu (sy'n cynnwys prosiect allanol), mewn trefi ar draws Gogledd Cymru fel Dinbych, Bae Cinmel ac yn ddiweddar Caergybi gyda 50 aelod ar draws Gogledd Cymru. Mae cael sied o’r fath mewn tref yn lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan ei fod yn cynnig lle i bobl ifanc gymdeithasu a chael rhywbeth i wneud. Nod Youth Shedz yw cyrraedd pobl ifanc sy'n llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau prif ffrwd.
Fis Tachwedd 2021, helpodd Youth Shedz sefydlu eu partneriaeth drwyddedig cyntaf - Youth Shed yn Llysfaen gyda Chymdeithas Bêl-droed Llysfaen. Mae dull o redeg Youth Shedz sydd eisoes wedi eu sefydlu ac yna yn helpu elusennau eraill neu bartneriaid i sefydlu eu siediau eu hunain yn un y bydd y sefydliad yn gobeithio y bydd yn ei alluogi i barhau i dyfu. Mae'r syniad o ddatblygu'r dull hwn yn dilyn partneriaeth lwyddiannus gyda Gweithredu Cymunedol Abergele a sefydlu Youth Shed Abergele. Nod y prosiect yw rhannu egwyddorion ac ethos Youth Shedz Cymru ond i alluogi'r prosiect i dyfu'n organig i siwtio'r bobl ifanc a'r gymuned - dull cyd-ddatblygu go iawn.
Nod Youth Shedz yw defnyddio'r arian o Arloesi i Dyfu i helpu sefydlu tri sied trwyddedig ar draws Gogledd Cymru, yn cefnogi pum person ifanc o leiaf ymhob lleoliad. Bydd adborth ar lwyddiant y prosiect a sut mae pobl ifanc wedi elwa ohono yn cael ei gasglu gan yr heddlu, ysgolion a chymdeithasau tai. Yn y tymor hir, y nod yw i bobl gael cymorth i gael swyddi amser llawn a rhan-amser, neu le mewn coleg neu brentisiaeth.
Mae'r fenter Arloesi i Dyfu yn ategu'r blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd â'i Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o brosiectau sydd ar gael i Arloesi i Dyfu yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. Y peth mwyaf pwysig yw eu bod yn cynnig dulliau newydd a dyfeisgar o ddatrys y problemau a all arwain at droseddu.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae'n fraint i gyhoeddi'r ddwy fenter gyntaf i dderbyn arian fel rhan o fenter Arloesi i Dyfu a hoffwn longyfarch Youth Shedz a RASASC NW ar eu llwyddiant.
"Rwyf yn benderfynol o helpu cefnogi prosiectau cyffrous, dyfeisgar a buddiol i helpu taclo troseddau ar draws y rhanbarth. I wneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi mewn prosiectau ar lefel gymunedol sy'n meddwl ac yn gweithredu mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar i atal troseddau o'r cychwyn. Mae Youth Shedz a RASASC NW wedi cyflwyno cynigion cryf ac uchelgeisiol o gwmpas sut y maent am wneud gwahaniaeth a chryfhau'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. "Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn ymroi i gyflawni cymdogaethau diogelach yng Ngogledd Cymru, er mwyn cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau system cyfiawnder troseddol teg ac effeithiol i bawb.
Buaswn yn annog unrhyw sefydliad sy'n meddwl eu bod yn gweddu i feini prawf i Arloesi i Dyfu i gysylltu ag ymgeisio, fel y gallent weithredu gyda ni er mwyn ychwanegu at eu gwaith da a chyflawni'r cymdogaethau diogelach rydym i gyd yn dymuno eu gweld."
Dywedodd Fflur Emlyn, Pennaeth Gweithrediadau, RASASC NW: “Hoffai RASASC NW ddiolch i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd am yr arian ychwanegol gan gronfa Arloesi i Dyfu, sy'n sicrhau bod RASASC NW yn parhau i gyflenwi cefnogaeth therapiwtig arbenigol a chwnsela i blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael eu cam-drin.
“Mae atgyfeiriadau i'r ganolfan yn cynyddu yn ddifrifol, mae hyn yn benodol yn ein gwasanaethau plant, nid yn unig mae'r nifer o blant a phobl ifanc sy'n dod atom wedi dyblu o gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf ond mae gan blant sy'n derbyn ein gwasanaethau anghenion iechyd meddwl mwy difrifol a phroblemau diogelu mwy difrifol sy'n galw am gefnogaeth ac ymyrraeth ychwanegol.
"Bydd y gronfa hon yn cyfrannu at y sicrwydd y bydd RASASC NW yn ateb gofynion dioddefwyr er gwaethaf yr heriau maent yn eu hwynebu."
Dywedodd Scott Jenkinson, Sefydlydd Youth Shedz: "Rydym yn hynod ddiolchgar am yr arian hwn gan y bydd yn ein galluogi i ddatblygu'r syniad ar draws Gogledd Cymru mewn ardaloedd ble mae diddordeb gwirioneddol mewn sefydlu sied. Ein gweledigaeth yw "Sied Ieuenctid ymhob tref" ac yn barod mae diddordeb ar hyd arfordir Gogledd Cymru o Gaergybi i Fflint/Bwcle a thu hwnt i Lannau Mersi ac i lawr i'r De. Mae gweithio ar y cyd â'r Heddlu wedi cryfhau ein gwaith yn y gymuned, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y berthynas waith sy’n helpu Youth Shedz i dyfu."
Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun Arloesi i Dyfu i gefnogi prosiectau hyd at flwyddyn, gyda'r pwyslais ar fenter. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ar draws dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000.
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Arloesi i Dyfu ac am sut i ymgeisio, ewch ar: Gwefan SCHTh.