Skip to main content

Beiciau trydan i gynorthwyo torri'r cylch trosedd yn Wrecsam

Dyddiad

Wrexham bikes

Ymunodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â swyddogion o heddlu Dinas Wrecsam ar ddydd Mercher 11 Ionawr am ddigwyddiad arbennig yn siop Alf Jones Cycles yng Ngresffordd er mwyn nodi trosglwyddo pedwar beic trydan a gaiff eu defnyddio gan swyddogion lleol yn y frwydr yn erbyn trosedd. 

Mae'r beiciau trydan wedi'u talu amdanynt gan ddefnyddio arian o'r gronfa Strydoedd Diogelach, rhaglen £75 miliwn o'r Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal troseddau mewn cymdogaethau. Nod y prosiect ydy cynorthwyo ardaloedd sy'n dioddef trosedd ledled Cymru a Lloegr, fel byrgleriaeth ddomestig, lladrad, dwyn, trosedd cerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys yn yr economi nos.  

Tra mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymateb yn briodol a chyflym i argyfwng, mae gwasgariad daearyddol Wrecsam yn golygu y gall gymryd yn hirach i gyrraedd lleoliad mân droseddau ar droed os nad oes ganddynt fynediad at gerbyd. Bydd defnyddio beiciau trydan gobeithio'n lleihau'r amser y gall gymryd i gyrraedd digwyddiad a gwella'r amser ymateb o'r tîm plismona cymdogaethau. 

Bydd y beiciau hefyd yn galluogi swyddogion dargedu ardaloedd anodd eu cyrraedd fel parciau, alïau a stadau tai sydd ddim yn hygyrch gyda cherbyd. Byddant hefyd yn gallu rhwystro pobl sydd ynghlwm mewn digwyddiad a chael presenoldeb amlycach o fewn y gymuned, gan wella cyfleoedd ymgysylltu gyda'r cyhoedd wrth batrolio ardaloedd lle nodir patrwm o fyrgleriaethau. 

Nid yn unig hynny, ond bydd y beiciau yn cynorthwyo i fodloni targedau cenedlaethol ynghylch sector cyhoeddus gwyrddach ac ôl troed carbon is. I'r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y dylai'r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn sero net erbyn 2030. 

Adeiladwyd y beiciau yn Alf Jones Cycles ac mae bob beic wedi'i addurno â lifrai Heddlu Gogledd Cymru. Ceir hefyd helmed, daliwr potel ddŵr, cawell a phwmp troed.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymweld â Gresffordd heddiw i weld trosglwyddo'r beiciau trydan hyn. Rwyf yn gwybod eu bod yn amhrisiadwy wrth ymgysylltu gyda'r gymuned leol ac wrth ymladd trosedd yn Wrecsam. Mae plismona cymunedol yn hynod bwysig i mi. Mae rhan o hyn yn golygu fod heddluoedd yn mynd allan ymysg trigolion a bod mor hygyrch â phosibl. 

"Ynghyd â galluogi swyddogion i gyrraedd llefydd na fyddai cerbydau ymateb efallai ddim yn gallu cael mynediad atynt, fel alïau, mae gan y beiciau newydd hefyd y fantais o fod yn well i'r amgylchedd a rhoi'r cyfle i swyddogion gael ymarfer corff ar yr un pryd. Rwyf yn ddiolchgar i'r tîm yn heddlu Wrecsam a'r Cyngor Bwrdeistref Sirol am eu hymrwymiad i sicrhau'r beiciau hyn ac i Alf Jones am eu hadeiladu nhw. Mae bob amser yn bleser gweld gwasanaethau busnesau lleol yn cael eu defnyddio er mwyn cynorthwyo yn y frwydr yn erbyn trosedd."

Dywedodd yr Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein swyddogion lleol yn Wrecsam yn falch iawn o dderbyn y beiciau trydan hyn gan y byddant yn eu galluogi nhw gyrraedd digwyddiadau’n gynt ac ymgysylltu ymhellach gyda thrigolion. Fel swyddogion, rydym yn awyddus hefyd i gynorthwyo gyda lleihau ein ôl troed carbon mewn unrhyw ffordd y gallwn. Mae Wrecsam eisoes yn gymuned ddiogel, ond dylem bob amser edrych am ffyrdd newydd o wneud ein dinas hyd yn oed yn fwy diogel. Rwyf yn siŵr y gwnaiff y beiciau newydd sbon hyn gyfrannu at gyflawni’r nod hwn.”

Dywedodd Pete Calkin, Cyfarwyddwr Alf Jones Cycles: “Fel prif siop feiciau Gogledd Cymru a’r un mwyaf hirhoedlog, rydym yn falch o gydweithredu gyda Heddlu Gogledd Cymru a chyflenwi beiciau trydan er mwyn i swyddogion barhau i ddarparu eu gwasanaeth hanfodol i’n cymunedau. Cawsom ein sefydlu yn 1955 a, dros y blynyddoedd, rydym bob amser wedi bod yn fodlon cydweithredu gydag awdurdodau a busnesau lleol er mwyn cynyddu diddordeb mewn seiclo a chymryd rhan mewn mentrau cymdeithasol a chymunedol lleol. Mae’r cydweithrediad hwn ond yn gwella hynny.”

Gweithiodd tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam, Stepping Stones, Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ysgolion, gwasanaethau cyfiawnder a phartneriaid y trydydd sector i sicrhau fod y cynnig wedi cael cymaint o gymorth a phosibl.