Skip to main content

Bydd mwy o blismyn ar y strydoedd yn rhoi tawelwch meddwl i bobl hŷn a bregus

Dyddiad

200921 PCC Llangollen-7

Bydd addewid i roi mwy o blismyn ar y strydoedd yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl oedrannus a bregus yng ngogledd Cymru, yn ôl un aelod blaenllaw o’r Senedd.

Mae'r addewid i gynyddu nifer y swyddogion heddlu a staff wedi'i gynnwys yn y cynllun plismona newydd a ddrafftiwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd newydd y rhanbarth, Andy Dunbobbin.

Roedd cryfhau plismona cymdogaeth yn flaenoriaeth allweddol ym maniffesto Mr Dunbobbin pan gafodd ei ethol ym mis Mai eleni.

Croesawyd y newyddion gan Ken Skates, AS De Clwyd, yn ystod taith o gwmpas Llangollen gyda Mr Dunbobbin.

Dywedodd Mr Skates: “Rhoddodd pawb yn y Blaid Lafur ledled gogledd Cymru ac yn wir ymhellach i ffwrdd ar draws Cymru floedd o lawenydd pan ddaeth y newyddion am fuddugoliaeth Andy.

“Mae Andy yn boblogaidd iawn o fewn y blaid felly roedd pawb wrth eu boddau gyda'i lwyddiant.

“Mae'n ddiffuant, yn ddibynadwy ac yn angerddol am gymunedau. Bydd yn dod â phrofiad aruthrol a sgiliau gwych i'r rôl ac mae wedi'i wreiddio mor ddwfn yn y gymuned hefyd.

“Mae Andy yn angerddol dros ogledd Cymru ac am ddiogelwch ac ymdeimlad o berthyn pobl felly does gen i ddim amheuaeth y bydd yn Gomisiynydd gwych.

“Mae ei Gynllun Heddlu a Throsedd cyntaf yn hynod uchelgeisiol ond mae’n ymateb i’r pryderon allweddol sydd gan drigolion ledled y Gogledd ac yn mynd i’r afael â’r pryderon hynny - a bod angen cynllun cryf iawn arnom ar gyfer plismona cymdogaeth.

“Rwy’n gwybod bod pobl yn aml yn edrych yn ôl yn hiraethus at oes pan oedd gennym orsafoedd heddlu ar draws ein cymunedau a’r hyn y mae pobl yn yr oes fodern ei eisiau yw presenoldeb heddlu ar lawr gwlad.

“Dyna’n union y mae Andy yn ei addo gyda chynnydd mewn plismona gweladwy sydd mor bwysig, yn enwedig i bobl agored i niwed a’r henoed. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y bydd pobl yn ymateb iddo yn dda iawn iddo.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae ei rhan trwy ariannu 100 o SCCHau ychwanegol ar draws Cymru.

“Roedd yn addewid allweddol i Lafur Cymru yn yr etholiad diweddar ac rwy’n falch iawn bod rhanbarth Gogledd Cymru yn cael 20 o bobl ychwanegol er mwyn cadw ein pobl a’n cymunedau yn ddiogel ac unwaith eto mae’n ymateb i bryderon allweddol y mae pobl wedi’u mynegi. Mae'n hynod bwysig i les pobl.

“Dangosir gwerthoedd arweinydd yn y polisïau y mae’n eu hyrwyddo ac mae cynllun Andy yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol, diogelwch a lles, yn enwedig ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

“Fel enghraifft, bydd sefydlu Panel Dioddefwyr yn hynod fuddiol wrth fynd i’r afael â phryderon dioddefwyr a’u pryderon wrth symud ymlaen.”

Yn ôl Mr Dunbobbin, roedd yn falch o ymuno â'r AS ar gyfer taith o amgylch Llangollen yn enwedig gan fod Mr Skates mor angerddol am y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rwy’n rhannu’r angerdd hwnnw oherwydd bod ein cymunedau yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud ac mae gan blismona ran enfawr i’w chwarae ledled gogledd Cymru.

“Mae'n bwysig iawn cael dealltwriaeth dda o'n cymunedau a sut y gallwn gefnogi ein gilydd.

“Mae gan bob cymuned ei heriau ei hun ond mae'n ymwneud â chydweithio i wella pethau mewn ysbryd o bartneriaeth.

“Rhoddais lawer iawn o amser ac ymdrech i ysgrifennu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd oherwydd roeddwn i eisiau sicrhau fy mod yn cwmpasu popeth a oedd yn bwysig iawn i bobl y Gogledd.

“Yn ystod yr ymgyrch etholiadol roedd yn amlwg mai’r brif flaenoriaeth i gymunedau oedd gwelliannau gweladwy felly plismona cymdogaeth yw conglfaen fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

“Mae Timau Plismona Cymdogaeth Lleol yn darparu’r gwelededd a’r sicrwydd ond maen nhw hefyd yn cael eu hystyried yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth er mwyn mynd i’r afael â’r troseddu mwyaf difrifol a throseddu cyfundrefnol.

“Er mwyn mynd i’r afael â materion yn amrywio o ddelio mewn cyffuriau yn ein trefi i droseddau gwledig ar ein ffermydd, mae’n hanfodol bod gan bob un o’n cymunedau yng ngogledd Cymru berthynas a phrofiadau cadarnhaol gyda’u heddlu lleol, gan helpu i chwalu’r rhwystrau presennol a grymuso preswylwyr i ddweud eu dweud ar ble y dylem ni fel gwasanaeth fod yn canolbwyntio ein hymdrechion.”