Skip to main content

Bydd y penderfyniad i beidio sefydlu ystafelloedd cyffuriau yn arwain at fwy o farwolaethau, yn ôl pennaeth heddlu

Dyddiad

Bydd y penderfyniad i beidio sefydlu ystafelloedd cyffuriau yn arwain at fwy o farwolaethau, yn ôl pennaeth heddlu

Bydd mwy o bobl yn marw yn ddiangen o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chyflwyno cyfleusterau arbennig lle gall y rhai sy’n gaeth i gyffuriau chwistrellu eu hunain mewn lle diogel a hylan.

Dyna farn Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sy’n dweud bod y penderfyniad i wrthod hyd yn oed ystyried sefydlu prosiect peilot ar gyfer Ystafell Defnyddio Cyffuriau yn mynd yn hollol groes i’r holl dystiolaeth.

Yn ôl Mr Jones, roedd yn siomedig iawn, ond heb ei synnu gan benderfyniad Victoria Atkins, y Gweinidog dros Drosedd, Diogelu a phobl Agored i Niwed, ar adeg pan fo marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn uchel iawn.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae teitl swydd y Gweinidog yn jôc gan fod pobl sy’n cael eu dal gan broblemau cymryd cyffuriau yn amlwg yn agored i niwed ac nid yw’n gwneud dim i’w diogelu. A dweud y gwir mae’n gwneud y gwrthwyneb i hynny.

“Yn fy marn i does dim amheuaeth y bydd pobl yn marw yn ddiangen o ganlyniad i’r penderfyniad dall hwn sy’n seiliedig ar ddogma ac nid ar synnwyr cyffredin.”

Mewn llythyr at Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gorllewin Canolbarth Lloegr, David Jamieson, mi wnaeth Ms Atkins ailadrodd nad oedd gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i gyflwyno Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau “ar sail peilot neu fel arall”.

Meddai: “Nid yw’r Llywodraeth yn barod i ganiatáu neu gymeradwyo gweithgaredd sy’n hyrwyddo’r fasnach gyffuriau anghyfreithlon a’r niwed y mae’r fasnach honno yn ei achosi i unigolion a chymunedau.”

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gefnogwr hirdymor i sefydlu Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau ac mae wedi bod ar daith ymchwil i’r Swistir i weld ystafell o’r fath ar waith

O ganlyniad, cred Mr Jones y dylid trin defnyddio cyffuriau problemus fel mater meddygol ac nid fel trosedd.

Mae 2,500 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn digwydd bob blwyddyn yn y DU a dywed y Comisiynydd y byddai sefydlu Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau o fudd i ddefnyddwyr cyffuriau unigol a chymunedau lleol.

Meddai Mr Jones: “Mae yna dystiolaeth ddigamsyniol y gall ystafelloedd defnyddio cyffuriau achub bywydau oherwydd bod nifer y marwolaethau o orddos wedi gostwng yn ddramatig mewn llefydd fel y Swistir lle mae ganddyn nhw ymagwedd fwy goleuedig ac effeithiol.

Maen nhw’n lleihau rhannu nodwyddau a sbwriel sydd, yn ei dro, yn lleihau’r risg o heintiau firws sy’n cael eu cludo yn y gwaed.

Ffaith arall bwysig, yw eu bod hefyd yn lleihau’r pwysau ar yr holl wasanaethau brys. Felly mae pawb ar eu hennill.

Mi wnes i weithio fel swyddog heddlu am dros 30 mlynedd a gweld a’m llygaid fy hun y niwed torcalonnus y mae cyffuriau’n ei achosi i’r rhai sy’n gaeth, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae’n gylch dieflig hunan-ddinistriol. Mae pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn aml yn dwyn er mwyn gallu prynu ei ‘ffics’ nesaf. Maen nhw wedyn yn cael eu harestio, eu herlyn a’u hanfon i’r carchar. Maen nhw’n dod allan o’r carchar yn dal yn gaeth ac mae’r cylch yn ailddechrau yn union fel fersiwn arswydus o ‘Groundhog Day’.

Gall Ystafell Defnyddio Cyffuriau leihau troseddau oherwydd bydd yn rhyddhau swyddogion yr heddlu i ganolbwyntio ar droseddau difrifol, gan roi cyfle i helpu’r rhai sy’n cymryd cyffuriau i fynd i’r afael â materion eraill fel tlodi a digartrefedd.

Yn hytrach na pharhau â’r rhyfel fethiannus yn erbyn cyffuriau, dylem roi rhywle ddiogel i ddefnyddwyr problemus i fynd yn hytrach na gorfod chwistrellu mewn mannau cyhoeddus a tharfu ar bobl eraill, gan gynyddu ofn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd eu hymddygiad.”