Skip to main content

Caniatâd i ddymchwel hen orsaf heddlu yn Wrecsam

Dyddiad

Pennaeth yr heddlu'n galw am ddedfrydau llymach i bedoffiliaid

Mae corff cadwraeth wedi rhoi caniatâd i ddymchwel yr hen orsaf heddlu yn Wrecsam.

Roedd CADW wedi bod yn ystyried gwneud yr adeilad aml-lawr yn un rhestredig, fyddai wedi rhwystro’r cynlluniau i ddymchwel yr adelad concrid arddull ‘brutal’ er mwyn gwneud lle ar gyfer archfarchnad.

Bellach maent wedi datgan nad yw’r adeilad yn deilwng o gael ei restru am ei nodweddion pensaernïol neu hanesyddol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gadael yr adeilad gan nad ydynt angen yr orsaf mwyach.

Mae Cyfleuster Rheoli a Dalfa Rhanbarth y Dwyrain eisoes yn weithredol yn Llai.

Mae disgwyl i orsaf heddlu newydd i agor yng nghanol y dref mewn hen oriel gelf yn Llyfrgell Wrecsam, sy’n cael ei addasu at y diben hynny, ac yn y cyfamser mae’r swyddogion heddlu lleol wedi’u lleoli mewn safle dros dro gerllaw.

Byddai rhestru’r adeilad wedi amddiffyn yr adeilad rhag cael ei ddymchwel a rhwystro cynlluniau i ailddatblygu’r safle.

Mae cwmni archfarchnad wedi cytuno i brynu’r safle ond roedd y cytundeb yn amodol ar gael caniatâd cynllunio i adeiladu siop newydd ar y safle.

Byddai hynny wedi bod yn amhosib heb ddymchwel yr adeilad nad oedd “yn addas i'r diben” ac roedd celloedd yno nad oedd yn cwrdd â’r anghenion presennol.

Cymaint oedd y pryder, nes i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes ysgrifennu llythyr ar y cyd at Jason Thomas, y Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder.

Rhybuddiodd y ddau pe byddai’r bwriad i ddymchwel yn cael ei rwystro, byddai’r golled ariannol o’r gwerthiant wedi cael “effaith uniongyrchol ar wasanaeth heddlu Gogledd Cymru”.

Mewn llythyr ymddiheurodd Dirprwy Gyfarwyddwr Cadw am yr oedi wrth ymateb.

Nodiodd y llythyr: “Ar ôl llawer o ystyriaeth gallaf gadarnhau nad ydym yn credu fod yr adeilad yn cwrdd â’r anghenion i gael ei restru.

Rydym yn cydnabod bod yr adeilad yn enghraifft brin ac anarferol (ac o bosib unigryw) o ddyluniad slab a phodiwm yng Nghymru sy’n gwneud datganiad pensaernïol mynegiannol.

Ond, mae ei ffurf yn gysylltiedig â moderniaeth ryngwladol ac, ar ôl ystyried a chymharu gydag esiamplau allweddol arall, mae wedi bod yn angenrheidiol i gymharu’r adeilad yma gydag enghreifftiau eraill sydd â’r un nodweddion dylunio sylfaenol mewn mannau arall yn y DU.

Gallaf gadarnhau yn ôl triniaeth ffurf, deunyddiau a dylunio, nid yw’r adeilad yn cymharu’n ffafriol gydag adeiladau o ddyluniad tebyg sydd yn fwy soffistigedig a chain.

Rydym hefyd yn nodi nad oedd y ffurf slab a phodiwm yn arbennig o flaengar o ran pensaernïaeth erbyn i'r adeilad gael ei adeiladu yn 1976, felly nid ydym o’r farn bod yr adeilad yn cwrdd â’r anghenion i’w restru fel esiampl allweddol o adeilad dinesig wedi'r rhyfel.

Wedi dweud hynny, mae’n glir bod yr adeilad o ddiddordeb ac rydym yn falch fod y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hanesyddol a Hynafol Cymru yn y broses o drafod cael mynediad i gynnal arolwg fel bod modd cadw cofnod ohono.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Rydym yn falch i glywed bod y rhwystr posib yma wedi cael ei symud.

Mae’r hinsawdd ariannol yn ddigon anodd fel y mae, felly mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n ddiolchgar i Cadw am eu synnwyr cyffredin wrth wneud eu penderfyniad.”