Skip to main content

Canolfan diogelwch plant sy'n achub bywydau yn croesawu ei 100,000fed ymwelydd

Dyddiad

091221- Danger Point -1

Mae canolfan diogelwch plant arloesol yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes - gan groesawu ei 100,000fed ymwelydd.

Mae PentrePeryglon, a sefydlwyd yn 2005, yn ganolfan ryngweithiol ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid lle gall pobl ifanc weithio trwy sefyllfaoedd bywyd go iawn i ddeall risg a dysgu sut i gadw eu hunain yn ddiogel.

Cynlluniwyd y ganolfan yn Nhalacre fel set ffilm, lle gall ymwelwyr deithio o'u cartref i'r traeth, cefn gwlad, maes chwarae a llu o leoliadau eraill i archwilio sefyllfaoedd peryglus, gan gynnwys seiberfwlio a chadw'n ddiogel ar-lein.

Mae arddangosfeydd newydd yn cynnwys un am gydraddoldeb ac amrywiaeth ac un arall am fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd trwy ailgylchu a lleihau'r defnydd o blastig untro.

Roedd cyflawni'r garreg filltir bwysig o 100,000 o ymwelwyr yn cyd-daro ag ymweliad gan ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Iȃl, yn Llandegla, a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sy'n darparu cyllid ar gyfer y ganolfan allweddol bwysig.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae PentrePeryglon yn gwneud gwaith hanfodol oherwydd does dim pwysicach na chadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar hynny.

“Yr hyn sy’n wych am y ganolfan yw ei bod yn cyfleu’r neges mewn ffordd effeithiol, ryngweithiol a pherthnasol iawn y gall plant a phobl ifanc uniaethu â hi. Mae hynny'n golygu bod y gwersi pwysig hyn yn glynu a'u bod yn mynd â’r gwersi hynny adref efo nhw.

“Rwy’n falch iawn o fod yma ar y diwrnod y mae’r ganolfan wedi croesawu’r 100,000fed plentyn neu berson ifanc i ymweld â’r lle sy’n tanlinellu gymaint y mae’r ganolfan wedi ei gyflawni.”

Yn ôl rheolwr y ganolfan, Julie Evans, does dim amheuaeth bod y gwersi a ddysgwyd yn PentrePeryglon wedi arbed llawer o fywydau dros y blynyddoedd - ond mae’n amhosib cyfrif faint.

Yr hyn maen nhw'n ei wybod, meddai, yw bod y plant yn mynd â'r gwersi hynny adref gyda nhw ac yn addysgu eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau am ddiogelwch yn y cartref, mewn lleoliadau eraill ac ar-lein.

Meddai: “Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi newid ymddygiad plant oherwydd ein bod ni'n profi eu gwybodaeth cyn ac ar ôl mynd o gwmpas y pentre er mwyn gweld a ydyn nhw wedi cofio'r holl wybodaeth maen nhw wedi'i hennill yma.

“Rydyn ni hefyd yn gofyn iddyn nhw esbonio i ni sut y maen nhw wedi defnyddio'r wybodaeth honno mewn bywyd go iawn, beth maen nhw wedi'i wneud yn wahanol, sut efallai eu bod nhw wedi achub bywydau gartref trwy newid eu trefn gyda'r nos, diffodd pethau, profi larymau mwg ac ati.

“Yna byddwn hefyd yn cynnal cwis rhieni lle rydyn ni’n gofyn iddyn nhw a ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol, a ydyn nhw wedi sylwi ar unrhyw newid yn ymddygiad eu plentyn ac rydyn ni wedi cael rhai ymatebion da iawn o hynny hefyd.

“Mae neiniau a theidiau yn dweud bod yr wyrion yn eu dysgu am yr hyn y dylen nhw ac na ddylen nhw ei wneud o ran diogelwch.”

Dywedodd Lloyd Fitzhugh, Cadeirydd Ymddiriedolwyr PentrePeryglon: “Mi fyddwn i’n awgrymu nad oes unrhyw beth o ran iechyd a diogelwch nad ydym yn delio ag ef yma.

“Er enghraifft, rydyn ni'n gwneud pwynt o fod yn hollol gyfoes o ran y materion rydyn ni’n eu trafod, siarad â'r heddlu, siarad â'r gwasanaeth tân, siarad â'r ysgolion hefyd, i weld beth maen nhw ei eisiau ac mae hynny'n helpu i yrru'r agenda.

“Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod pob plentyn, pob oedolyn sy’n dod yma yn cael argraff anhygoel o dda. Yn amlach na pheidio, mi fyddan nhw’n dod yn ôl naill ai fel ysgol neu efallai yn ystod gwyliau'r ysgol gyda'u brodyr a'u chwiorydd."

Dywedodd Huw Rowlands, pennaeth Ysgol Dyffryn Iȃl: “Mae PentrePeryglon yn gwneud pethau mewn ffordd na allwn ei efelychu yn yr ystafell ddosbarth, felly er enghraifft pan fyddan nhw’n mynd y tu mewn i'r cerbyd trên, mae mor real, y sŵn hefyd. Mae fel set rhaglen deledu.

“Pan ewch chi i mewn i'r gegin mae'r plant yn gwybod a phan ewch chi i mewn i ardal yr ystafell fyw, maen nhw'n gallu gweld y gwifrau yno ac mae'n eu cael nhw i feddwl.

“Mae Ysgol Dyffryn Iȃl mewn ardal wledig ac mae'r ganolfan hefyd yn ymdrin â pheryglon posib cefn gwlad hefyd.

“Yn yr ysgol mae gennym ddyletswydd gofal ar gyfer yr holl blant hyn ac mae PentrePeryglon yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth gadw ein disgyblion yn ddiogel.”