Skip to main content

Cerdded yn gwneud lles i grŵp o Wrecsam

Dyddiad

YC YC

Fe wnaeth grŵp cymunedol lleol yn Wrecsam groesawu Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd ac Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar gyfer ymweliad ar 16 Mawrth.  Mae Cerddwyr Nordig Erddig yn hyrwyddo ffitrwydd a lles drwy ymarfer corff hygyrch addas i bob oed a gallu. Yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ymroddedig, mae'r grŵp wedi mynd o nerth i nerth, hefo 180 aelod wedi cofrestru bellach. 

Derbyniodd y grŵp grant er mwyn cynyddu eu gweithgareddau gan Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae'r fenter yn helpu prosiectau llawr gwlad ar draws Gogledd Cymru ac mae'n cael help Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r cyllid ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, hefo'r gweddill yn dod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Mae cerdded Nordig yn fodd o ymarfer corff lle mae pobl yn defnyddio polion wedi'u dylunio'n arbennig er mwyn gwella eu profiad cerdded naturiol, gan sicrhau ymarfer corff cyfan. Mae'r dechneg unigryw yn caniatáu pobl hefo gallu a sgiliau amrywiol gael ymarfer corff yn saff.

Mae'r grwp yn cynnig rhaglen chwarterol o ddigwyddiadau. Mae'r rhain yn cynnwys tair taith gerdded reolaidd ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Sadwrn mewn lleoliadau amrywiol yn ardaloedd Wrecsam, y Waun a Llangollen. Mae'r rhaglen yn cael ei hategu gan Ddyddiau Cwrdd i Ffwrdd i fynd ar deithiau cerdded hirach. Er enghraifft ar Lwybr Mawddach, i Gastell Powis ac o amgylch  Llyn Brenig.  Mae bob taith yn cael ei dilyn gan gyfarfod cymdeithasol anffurfiol yn rhoi cyfle gwych er mwyn datblygu a meithrin cyfeillgarwch. Hefo dim ffioedd ymuno a hyfforddiant am ddim, mae'r grŵp ond yn dibynnu ar gyfraniad gwirfoddol o £1 am bob taith. 

Gwnaeth yr Uchel Siryf, a SCCH lleol Alison Heron o Heddlu Gogledd Cymru, ac Andy Dunbobbin gyfarfod y grŵp yn eu safle ar Stad Erddig yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe wnaethant ymuno hefo aelodau ar gyfer dechrau eu taith gerdded cyn mynd i gaffi yr ystâd i gael trafodaethau pellach am gerdded Nordig a chynlluniau'r grŵp.

Dywedodd Gareth Lloyd, Swyddog Gweithredol, Cerddwyr Nordig Erddig: "Fe wnaethon ni fwynhau croesawu'r Uchel Siryf a'r CHTh i'n taith gerdded grŵp a'u cyflwyno nhw i bleserau Cerdded Nordig. Mae Cerddwyr Nordig Erddig yn hyrwyddo manteision corfforol Cerdded Nordig – ymarfer corff, ffitrwydd, iechyd a lles. Fodd bynnag, 'da ni'n rhoi ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch wrth atal effeithiau ynysu cymdeithasol, unigedd a manteision hyn ar iechyd meddwl. Bydd y grant yn prynu silffoedd ar gyfer ein storfa, troli ar gyfer cario offer a chyfrannu at ein costau teithio ar gyfer gweithgareddau 'dyddiau cwrdd i ffwrdd'. Mae'r holl refeniw sy'n cael ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu ein rhaglen digwyddiadau ac er budd pob aelod."

Dywedodd Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd: "Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â Cherddwyr Nordig Erddig a dysgu mwy am eu gweithgareddau. Gyda thystiolaeth gynyddol am fanteision treulio amser y tu allan wedi'i amgylchynu gan natur a'r rhodd fach iawn a gobeithio y gofynnir am gyfraniad fforddiadwy i gymryd rhan, mae'r grŵp yn cynnig manteision enfawr a chynaliadwy i iechyd corfforol a meddyliol, cydlyniant cymdeithasol a lles. Felly, pam ddim rhoi cynnig arni ...?'

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymuno hefo Cerddwyr Nordig Erddig yn ystod un o'u cyfarfodydd grŵp rheolaidd. Mae fy nghynllun ar gyfer trechu trosedd yng Ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni cymdogaethau saffach a helpu cymunedau. Mae hyn yn rhywbeth mae Cerddwyr Nordig Erddig yn ei wneud bob wythnos. Maen nhw'n dod ag aelodau hŷn cymdeithas at ei gilydd gan helpu hyrwyddo cwmnïaeth a lleihau ynysu cymdeithasol. ”

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis ynghylch helpu grwpiau ar draws y rhanbarth gael y cyllid hanfodol er mwyn eu galluogi nhw wneud eu gwaith. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu helpu Cerddwyr Nordig Erddig. Mae eu pwyslais ar fynd allan i'r awyr iach, cyfarfod ffrindiau, a gwneud ymarfer corff yn esiampl i ni gyd ei dilyn. Mae'n dangos yn gadarnhaol sut mae cyllid wedi'i gymryd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol mewn cymdeithas. ”

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: ⁠“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch fod Cerddwyr Nordig Erddig wedi gallu elwa o arian a gafodd ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae sefydliadau fel hyn yn gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau er mwyn rhoi help i grwpiau amrywiol o bobl. Mae eu rôl yn cael ei gwerthfawrogi gan dimau plismona cymdogaethau ac arweinwyr Heddlu Gogledd Cymru. 'Da ni'n cydnabod y rôl werthfawr maen nhw'n ei chwarae wrth ymgynghori hefo'r gymuned er mwyn helpu ei chadw hi'n saff."

Dros yr un mlynedd ar ddeg ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis, mae bron i £600,000 wedi cael ei roi i 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu bröydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. 

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar: www.pactnorthwales.co.uk

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Gerddwyr Nordig Erddig ac ar sut i ymuno, ewch ar: www.erddignordicwalkers.co.uk