Skip to main content

CHTH a’r Prif Gwnstabl yn cyfarfod Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr

Dyddiad

DA Commissioner visit

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 1, cyfarfu Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, Nicole Jacobs, yn DASU (Uned Diogelwch Cam-drin Domestig)) yn Wrecsam i drafod problemau yn ymwneud â chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, darparu gwasanaethau, a sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cyflenwi yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Roedd y Prif Gwnstabl newydd, Amanda Blakeman, a ddechreuodd ei rôl newydd ar ddydd Llun yn bresennol hefyd i gwrdd â’r Comisiynydd, staff DASU ac eraill sy’n gweithio i gadw dioddefwyr gam-drin domestig yng Ngogledd Cymru yn ddiogel.