Dyddiad
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb yn rhedeg o heddiw 8-15 Hydref ledled y DU, gyda'r nos o fwrw goleuni ar bla trosedd casineb. Mae'r ymgyrch wythnos o hyd, a sefydlwyd yn 2009, yn annog y Llywodraeth, yr Heddlu, cynghorau lleol, elusennau a chymunedau a effeithir gan droseddau casineb, i weithio gyda'i gilydd er mwyn ymdrin â throsedd casineb lleol ledled y DU. Yn ôl y trefnwyr, mae'n "anelu dod â phobl at ei gilydd i sefyll mewn undod gyda'r bobl hynny a effeithir gan drosedd casineb, er mwyn cofio'r bobl hynny rydym wedi'u colli, a chefnogi'r bobl hynny sydd angen cymorth parhaus."
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth lwyr i'r ymgyrch. Mae'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi'r wythnos ac ymgysylltu gyda gwahanol gymunedau ledled y rhanbarth a effeithir gan drosedd casineb.
Yr wythnos ddiwethaf, ymwelodd y CHTh â safle GISDA yng Nghaernarfon ar gyfer eu Clwb Ieuenctid LHDTC+. Mae GISDA yn elusen a sefydlwyd yn 1985 sy'n rhoi cymorth dwys ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc bregus rhwng 16 a 25 oed yng Ngogledd Cymru. Mae ganddynt hefyd leoliadau ym Mhwllheli a Blaenau Ffestiniog. Fel rhan o'i gwaith, mae'n cynorthwyo pobl ifanc LHDTQ+ sydd angen cyngor, gwybodaeth a chymorth. Tra yn y sesiwn Clwb Ieuenctid, clywodd Andy Dunbobbin yn uniongyrchol gan y bobl ifanc am eu profiadau o drosedd casineb mewn ysgolion a'r gymuned ehangach, a sut mae hyn wedi'u heffeithio nhw.
Ar 11 Hydref, mae Andy Dunbobbin yn siarad mewn digwyddiad ar 'Edrych ar y Rhwystrau i Riportio Trosedd Casineb'. Wedi'i threfnu gyda Heddlu Gogledd Cymru, Canolfan Cymorth Casineb Cymru yng Nghymorth Dioddefwyr, a'r Timau Cydlyniad Cymunedol Gogledd Cymru, bydd y sesiwn awr o hyd hon yn gweld siaradwyr yn dod at ei gilydd gydag aelodau o'r cyhoedd er mwyn edrych ar y rhwystrau i hysbysu am drosedd casineb o fewn cymunedau Gogledd Cymru. Bydd yn cynnwys mewnwelediadau gan wasanaethau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda dioddefwyr ac edrychir ar yr hyn a ellir ei wneud o fewn cymunedau, a chan ddarparwyr gwasanaeth. Mae hyn er mwyn gallu cynnig y cymorth gorau i ddioddefwyr ac annog hysbysu.
Yna, ar 14 Hydref, mae Mr Dunbobbin yn y Rhyl ar gyfer dadorchuddio cyfres o fyrddau poster hysbysebu electronig yn annog pobl i hysbysu am drosedd casineb. Mae'r byrddau wedi'u dylunio gan Heddlu Gogledd Cymru ac mae'n cynnwys aelodau o'r gymuned leol yn dal arwyddion i fyny o'u dyluniad eu hunain o dan y slogan #MaeCasinebYnBrifo. Mae'r dyluniadau wedi'u creu gan ddefnyddio cyllid gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae'r ymgyrch #MaeCasinebYnBrifo yn anelu lledaenu'r neges fod unrhyw fath o drosedd casineb yn annerbyniol. Mae Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â chymunedau lleol, yn ei wrthsefyll.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Nid oes lle i droseddau casineb yng Ngogledd Cymru. Rwyf yn benderfynol o ddangos i ddioddefwyr fy mod yn sefyll gyda nhw. Rwyf hefyd yn benderfynol o ddangos i droseddwyr na oddefir eu rhagfarn. Rwyf yn falch o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Gogledd Cymru, er mwyn ymestyn allan at ein cymunedau lleol. Mae trosedd casineb yn benodol yn effeithio ar bobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl LHDTQ+. Rydym yn cymryd eu diogelwch o ddifrif. Dros yr Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb hon, rwyf yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef digwyddiad casineb i hysbysu amdano, fel y gallwn weithredu."
Dywedodd Lyndsey Thomas, Pennaeth Datblygu, GISDA: "Mae GISDA wedi cael partneriaeth dda gyda swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ers sawl blwyddyn ac rydym wedi derbyn cyllid gan grant PACT tuag at ein clwb LHDTQ+. Fel elusen yn cynorthwyo pobl ifanc o dan anfantais, rydym yn gweld o lygad y ffynnon ei bod yn hanfodol fod trosedd casineb yn cael ei gymryd a'i drin yn ddifrifol. Mae hyn er mwyn sicrhau fod pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu o fewn eu cymunedau, ond hefyd eu bod yn ymddiried yn y system. Mae'r gwaith yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb yn bwysig ond mae parhau i godi ymwybyddiaeth ar ôl i'r wythnos fynd heibio yn hanfodol.
"Mae'r CHTh a'i swyddfa wedi bod yn gefnogol iawn erioed i'n gwaith. Rydym yn sylweddoli wedi cymryd eu hamser i wrando ar leisiau pobl ifanc a'r bobl hynny sydd wedi dioddef trosedd casineb."
Dywedodd PC Richard Fishlock, Swyddog Amrywiaeth/Swyddog Trosedd Casineb yn Nhîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gogledd Cymru: "Ers ymuno â'r tîm llynedd, rwyf wedi gweld peth o'r effaith a'r dinistr mae trosedd casineb wedi ei achosi i unigolion a chymunedau.
"Gall ymosodiad personol ar rywun am fod pwy ydynt yn niweidiol, gan ddrysu dioddefwyr a'u gwneud yn ansicr ynghylch yr hyn i'w wneud nesaf. Mae defnyddio ymgyrchoedd ac ymgysylltu o fewn cymunedau yn hynod hanfodol er mwyn anfon neges glir a chyson i ddioddefwyr ar lle i hysbysu am faterion, wrth hefyd anfon neges at droseddwyr na oddefir yr ymddygiad hwn. Mae ymgysylltu cymunedol hefyd yn caniatáu creu cysylltiadau heddlu. Rwyf yn teimlo'n lwcus yn gallu gweithio gyda dioddefwyr a phartneriaid yn ceisio gwella profiadau, llesiant a thaith unigolion wrth fynd drwy unrhyw ymchwiliad neu adroddiad."
Mae digwyddiad casineb yn un lle mae'r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn meddwl ei fod ar sail rhagfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.
Os ydych angen hysbysu am drosedd casineb, gallwch gysylltu a Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (os ydych yng Ngogledd Cymru). Am wybodaeth ar ffyrdd eraill o hysbysu (gan gynnwys hysbysu trydydd parti a dienw) ewch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru. Ceir gwybodaeth bellach am drosedd casineb ar dudalennau cydraddoldeb gwefan yr Heddlu. Gellir hysbysu'r heddlu drwy asiantaethau hysbysu trydydd parti fel Cymorth Dioddefwyr. Mae'r asiantaethau hyn yn cynorthwyo'r rhai hynny sydd ddim eisiau ymdrin yn uniongyrchol gyda'r Heddlu.
Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Mae Trosedd Casineb yn anghywir. Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd. Hysbyswch amdano.