Skip to main content

CHTh Gogledd Cymru yn gweld sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cynorthwyo Sgowtiaid Conwy i fynd hwnt ac yma

Dyddiad

ConwyScouts1

Ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â Chapel Curig ar 17 Medi er mwyn ymuno a Sgowtiaid Ardal Conwy yn eu gwersyll lleol. Tra yn y lleoliad hyfryd drws nesaf i gaffi Moel Siabod, fe wnaeth gyfarfod ag Arweinwyr y Grŵp a Sgowtiaid lleol. Dysgodd fwy am eu gweithgareddau, a gwelodd sut mae arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr wedi'u cynorthwyo nhw brynu bws mini mawr ei angen. Mae hyn er mwyn eu cynorthwyo yn eu gwaith. 

Yn gynharach eleni, derbyniodd Sgowtiaid Ardal Conwy £2,500 gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Roedd hyn er mwyn cynorthwyo i brynu bws mini ardal, y mae Sgowtiaid Conwy'n teimlo sy'n hanfodol wrth ddarparu gweithgareddau ar gost isel neu ddim cost i blant lleol.  

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), yn ei nawfed flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros £400,000 wedi'i roi i achosion haeddiannol ac mae llawer ohono wedi'i adennill drwy'r Ddeddf Enillion Trosedd, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, gyda'r gweddill yn dod o Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae pris llogi cerbydau wedi cynyddu'n ddramatig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn golygu fod prynu cerbyd un pwrpas ar gyfer yr ardal hyd yn oed yn bwysicach er mwyn galluogi Sgowtiaid Conwy ddarparu eu gweithgareddau hanfodol i bobl ifanc, fel caiacio, canŵio, padl-fyrddio, dringo ac archwilio cloddfeydd. Rŵan, yn hytrach na thalu am gludiant, mae'r costau bach mae'r Sgowtiaid yn eu gwneud am weithgareddau yn gallu cyfrannu at wneud eu darpariaeth yn gynaliadwy a darparu arian er mwyn amnewid hen offer.

Mae gan Ardal Conwy naw o Grwpiau Sgowtiaid ledled Aberconwy - Abergele, Betws y Coed, Colwyn Uchaf, Conwy, Llandudno, Llanfairfechan, Hen Golwyn a Llandrillo yn Rhos. Daethant i gyd at ei gilydd ar gyfer y diwrnod arbennig hwn yn Eryri.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu Andy Dunbobbin a Ashley Rogers (Cadeirydd PACT), arweinyddion y Sgowtiaid, a’r bobl ifanc eu hunain gan ddysgu sut y maent wedi elwa o’r cerbyd. Mi wnaethon nhw hefyd weld y Sgowtiaid yn ail-greu brwydrau o’r oesoedd canol, yn gwneud gwaith metel, ac yn cynnal gweithgareddau awyr agored.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: Roedd yn wych ymweld â Chapel Curig a gweld y gwaith caled mae Sgowtiaid Ardal Conwy yn ei wneud wrth ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc lleol. Mae'r gweithgareddau hyn, a gwerthoedd Sgowtio, yn creu hyder a pharch o oedran cynnar ac yn hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol gyda'r gymuned. Gyda'r cyllid o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis ar gyfer eu bws mini newydd, rydym yn gallu ehangu mynediad a chynorthwyo pobl ifanc i fynd allan i'r Awyr Agored na fyddai â'r cyfle fel arall. Rhan greiddiol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd ydy cynorthwyo cymunedau. Roedd yr ymweliad hwn yn enghraifft wych o'm gwerthoedd ar waith. Mae hefyd yn dangos faint o arian gan droseddwyr a ellir eu defnyddio i wneud daioni mewn cymdeithas."

Dywedodd Rob Rands, Comisiynydd Ardal, Sgowtiaid Conwy: "Canolbwynt ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf ydy darparu gweithgareddau anturus o fewn y dirwedd wych o'n hamgylch ni yng Ngogledd Cymru. Un o'r prif rwystrau i allu gwneud ydy cost trafnidiaeth, sy'n gwthio'r cyfrifoldeb ar rieni un ai drwy dalu costau mawr neu gludo eu hunain. Mae llawer wedyn yn cael eu heithrio oherwydd amgylchiadau'r teulu. Ein nod ydy bod yn sefydliad cynhwysol sy'n darparu rhaglen newid bywyd gyffrous o weithgareddau cyffrous i bawb, waeth beth ydy eu statws cymdeithasol. 

"Drwy'r bws mini newydd hwn, gallwn bellach ddarparu'r gweithgareddau hyn i'n plant heb gost, ynghyd a datblygu pobl ifanc o Gonwy i ddod yn wirfoddolwyr y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis am ein cynorthwyo ni gyrraedd ein nod o fynd ar y ffordd."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Daw rhan o'r cyllid ar gyfer y prosiect Eich Cymuned, Eich Dewis o enillion trosedd ac mae'n iawn fod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a'i roi yn ôl i sefydliadau cymunedol fel Sgowtiaid Ardal Conwy.

"Mae hyn yn helpu i droi arian drwg yn arian da ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu problemau lleol a sut i'w datrys. Mae plismona yn rhan o'r gymuned, ac mae'r gymuned yn rhan o blismona, a chynlluniau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd bositif o adeiladu ymddiriedaeth mewn plismona."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae'r gwobrau ariannu hyn yn bwysig gan eu bod yn cynorthwyo prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru. Y cymunedau eu hunain sy'n penderfynu lle gellir gwario'r arian orau. Nod llawer o'r hyn rydym yn ei ariannu yw darparu rhywbeth i bobl ifanc gymryd rhan yn eu hamser hamdden, gweithgareddau a all gynorthwyo meithrin sgiliau ac iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, ac mae Sgowtiaid Ardal Conwy yn enghraifft wych o hyn."


Am fwy o wybodaeth ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru ewch at https://www.northwales-pcc.gov.uk/en/home.aspx ac am fwy o wybodaeth ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Heddlu Gogledd Cymru ewch at https://www.pactnorthwales.co.uk/