Skip to main content

CHTh Gogledd Cymru yn ymddangos ger bron Pwyllgor Materion Cartref ar ymchwiliad i ddefnydd cyffuriau

Dyddiad

PCC at HASC

Ar ddydd Mercher 15 Mehefin, gwahoddwyd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i ymddangos ger bron y Pwyllgor Dethol Materion Cartref i drafod ymdriniaeth yr heddlu i atal trosedd casineb.

Roedd y gwrandawiad yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i ddefnydd cyffuriau anghyfreithlon a'i effeithiau ar gymdeithas a'r economi. Siaradodd fel rhan o banel o Gomisiynwyr er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau a lleihau niwed. 

Amlygodd Andy Dunbobbin, David Sidwick (CHTh Dorset) a Zoe Metcalfe (Comisiynydd Heddlu, Tân a Throsedd Swydd Efrog) yr angen am weithio mewn partneriaeth agos gydag asiantaethau eraill er mwyn datblygu ymateb cynhwysfawr i ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau. Roedd pob un yn crybwyll sut maent wedi gweithio gyda phartneriaid iechyd, llywodraeth leol ac addysg i ymdrin â heriau lleol.

Holwyd y Comisiynwyr hefyd ar ddefnydd hamddenol o gyffuriau, cynlluniau dargyfeiriol a rhaglenni lleihau niwed.

Amlygodd Andy Dunbobbin enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth llwyddiannus gydag asiantaethau lluosog ledled Gogledd Cymru. Amlygodd bwysigrwydd datganoli grymoedd cyfiawnder a phlismona pellach i Gymru. Galwodd hefyd am ddiwygio'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau er mwyn ei gwneud yn fwy ymatebol i'r byd heddiw ac adlewyrchu newidiadau mewn agweddau i gyffuriau a throsedd ers iddi ddod i rym yn 1971.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Andy Dunbobbin: "Ledled Gogledd Cymru, mae gennym enghreifftiau nodedig ac effeithio o sut rydym yn cynorthwyo i leihau'r niwed a achosir i gymdeithas gan gyffuriau.  Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau'n well, a hefyd cyflwyno system cyfiawnder troseddol tecach a mwy effeithiol, sy'n amcanion creiddiol fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Fe wnaeth David Sidwick, CHTh Dorset, sydd hefyd yn Arweinydd ar y Cyd Dibyniaethau a Chamddefnyddio Sylweddau Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, amlygu llwyddiant Prosiect ADDER yn y 13 ardal lle mae ar waith ar hyn o bryd.  Galwodd am gyflwyno'r prosiect yn genedlaethol er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf yn elwa ohono. 

Pwysleisiodd Zoe Metcalfe, CHTTh Gogledd Swydd Efrog werth cydweithredu a rhannu arfer gorau er mwyn deall y dystiolaeth ar gyfer cynlluniau amrywiol.  Lleisiodd gefnogaeth am roi'r hyblygrwydd i ardaloedd lleol weithredu cynlluniau sy'n gweithio orau i'r gymuned yn hytrach nac ymdriniaeth 'addas i bawb'.

Parhaodd Andy Dunbobbin: "Roedd yn braf cael gwahoddiad i siarad ger bron y Pwyllgor a rhoi fy marn ar leihau camddefnyddio a niwed cyffuriau. 

"Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor wrth fynd ymlaen ac edrych ar y ffyrdd y gallwn wneud y gyfraith weithio'n well yn y maes hwn."