Skip to main content

CHTh a HGC yn annog trigolion i gadw llygad allan am dwyll rhamant

Dyddiad

Romance Fraud CY

Wrth i Ddydd San Ffolant nesáu, bydd llawer o bobl ar draws Gogledd Cymru yn meddwl am baru ar-lein. Ond mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd er mwyn rhybuddio trigolion fod yn wyliadwrus am dwyll rhamant. Maent yn gofyn i bobl gadw llygad am droseddwyr ac atal pobl rhag syrthio am sgiâm yn hytrach na syrthio mewn cariad. 

Mae gwefannau ac apiau paru yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gyfarfod pobl newydd. Ond yn anffodus, ymysg y proffiliau dilys, mae rhai ffug wedi'u creu gan droseddwyr gyda'r bwriad o ddylanwadu, manteisio a thwyllo pobl i drosglwyddo arian. Mae'r proffiliau ffug hyn wedi'u dylunio er mwyn ymddangos yn ddeniadol ac yn defnyddio lluniau a ddwynwyd oddi ar y rhyngrwyd er mwyn cuddio pwy ydy'r twyllwyr.  

Mae'r Comisiynydd a Heddlu Gogledd Cymru yn galw ar bobl i Bwyllo, Herio a Gwirio ar Ddydd San Ffolant:

  • Pwyllo - peidiwch byth ag anfon arian at rywun rydych wedi'u cyfarfod ar-lein, waeth beth ydy'r rheswm maent yn ei roi i chi. 
  • Herio - peidiwch â chael eich gorfodi i symud i ffwrdd o wefan baru swyddogol.
  • Gwirio meddyliwch yn ofalus am yr hyn a ddywedir wrthych chi ac os oes unrhyw ffordd er mwyn cadarnhau'r wybodaeth sydd gennych chi.

Mae sawl arwydd fel rhybudd sy'n amlygu cyfaill ar-lein fel twyllwr. Un ydy'r sefyllfa maent yn honni bod ynddi ar hyn o bryd. Fel arfer, gwnaiff troseddwr ddweud eu bod dramor mewn gwlad bell, yn gweithio ar lwyfan olew, yn y fyddin neu mewn gwaith arall sy'n ei gwneud hi'n anodd cadarnhau os ydy'r hyn maent yn ddweud wrth y dioddefwr yn wir. 

Arwydd arall ydy'r cyflymder y mae'r berthynas yn datblygu. Byddant yn wenieithus, sylwgar ac yn siarad am y berthynas fel bod yn rhamantus o fewn cyfnod byr. Byddant yn anfon negeseuon at y dioddefwr yn aml, yn creu ymddiriedaeth ac ymlyniad emosiynol a gallent hyd yn oed drafod problem bersonol sydd ganddynt er mwyn ennyn cydymdeimlad. 

Efallai byddant hefyd yn awgrymu symud y sgwrs i ffwrdd o'r wefan baru swyddogol neu'r wefan cyfryngau cymdeithasol at wasanaeth negeseuo mwy diogel. Bydd twyllwyr rhamant yn aml yn siarad am ddyfodol gyda'r dioddefwr ac ymddangos yn awyddus i gyfarfod yn y cnawd. Ond fe wnânt roi ystod o esgusodion ynghylch pam na all cyfarfod ddigwydd. Efallai byddent hefyd yn amharod i gymryd rhan mewn galwad fideo neu alwad llais a mynnu bod y sgwrs yn digwydd drwy neges yn unig.

Yn y diwedd, bydd y twyllwr yn dechrau gofyn am arian er mwyn cynorthwyo gyda phroblem ffug sydd ganddynt. Gwnânt ddylanwadu'r dioddefwr i deimlo'n euog os nad ydynt yn cydymffurfio gyda'u cais, gan ddefnyddio blacmel emosiynol ac ymdeimlad o frys. 

Efallai gofynnir i'r dioddefwr dderbyn arian i'w cyfrif banc gan ffynhonnell arall er mwyn anfon at yr un o dan amheuaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r arian yn debygol o fod wedi dod gan ddioddefwr twyll arall ac mae'r dioddefwr yn cael eu defnyddio i wyngalchu arian, sy'n drosedd. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae paru ar-lein wedi dod yn fwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Y rhan fwyaf o'r amser, mae'n ddiniwed ac o natur dda. Ond ynghyd a'r ceiswyr rhamant dilys ar y gwefannau hyn, mae twyllwyr rhamant hefyd sy'n chwilio'n greulon am eu dioddefwr nesaf.

"Rwyf yn falch o weithio gydag Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru er mwyn gwneud pobl yn ymwybodol o'r peryglon a'u rhybuddio nhw i fod yn wyliadwrus o ran troseddwyr sy'n manteisio ar aelodau bregus o'n cymuned. Ni fyddai cariad posibl yn gofyn i chi am arian neu'n rhoi pwysau arnoch chi wneud rhywbeth rydych yn anesmwyth yn ei gylch. Felly, cadwch yn ddiogel ar-lein, sicrhewch fod yr un rydych yn siarad â nhw'n ddilys, a pheidiwch â chael eich twyllo. Cofiwch Bwyllo, Herio a Gwirio bob amser!"

Dywedodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Cam-drin Ariannol dros Heddlu Gogledd Cymru: "Ers y pandemig rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o dwyll rhamant a hysbysir amdanynt. Credir fod troseddwyr sy'n cyflawni'r math hwn o dwyll yn gweithredu o fewn grwpiau trosedd trefnedig ac y maent yn hynod argyhoeddiadol. Maent yn defnyddio tactegau penodol maent wedi'u datblygu dros amser er mwyn ynysu a dylanwadu ar eu dioddefwyr."

"Rwyf yn siarad â llawer o ddioddefwyr sy'n ei chael hi'n anodd derbyn fod popeth a ddywedir wrthynt yn gelwydd. Gall hyn, ynghyd â cholled ariannol fawr, lorio rhywun. Buaswn yn annog pawb sy'n cyfarfod â phobl eraill ar-lein i fod yn wyliadwrus a gwrthod unrhyw gais am arian. Mae'n bwysig cofio, ynghyd a'r gofid i ddioddefwyr yng Ngogledd Cymru, mae'r arian sy'n cael ei anfon at y troseddwyr hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu trosedd pellach, gan gynnwys masnachu pobl, troseddau cyffuriau a therfysgaeth hyd yn oed."

Dywedodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, sy'n ffurfio rhan o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: "Os yn chwilio am gariad ar-lein, byddwch yn ymwybodol o geisiadau i symud sgyrsiau i ffwrdd o'r apiau neu wefannau paru i sianeli mwy preifat fel e-bost, negeseuon testun neu negeseuon uniongyrchol.

"Ymchwiliwch yr un rydych yn siarad â nhw gan y gall lluniau proffiliau fod yn annilys. Byddwch yn wyliadwrus am anghysondebau mewn straeon. Gallwch wirio os ydy'r un rydych yn siarad â nhw yn ddilys drwy chwilio eu llun proffil, sy'n bosibl ar far chwilio rhai chwilotwyr lluniau.

"Os ydych yn meddwl fod ffrind neu aelod o'r teulu wedi dioddef twyll rhamant, siaradwch a nhw am eich pryderon ac anogwch nhw i hysbysu Action Fraud a/neu'r Heddlu. Gall y dioddefwr yn aml fod yr olaf i sylweddoli'r hyn sy'n digwydd gan y gall twyllwyr rhamant fod yn argyhoeddiadol iawn."

Stori dioddefwr

Yn ddiweddar, fe wnaeth dynes 68 oed yng Ngogledd Cymru ddioddef twyll rhamant. Dyma ei stori...

Yn ystod haf 2022, gwnaeth merch y dioddefwr gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru yn hysbysu bod ei mam wedi cyfarfod â rhywun ar-lein a'i fod wedyn wedi gofyn iddi am arian. Roedd ei merch yn amau bod ei mam eisoes wedi anfon dros £12,000. 

Ymatebodd swyddogion er mwyn siarad gyda'r dioddefwr. Eglurodd y dioddefwr ei bod wedi bod mewn cyswllt gyda nifer o ddynion yr oedd wedi cyfarfod â nhw wrth chwarae gêm ar-lein o'r enw Wordle. 

Gwnaeth un o'r dynion anfon llun o rywun wedi'u hanafu mewn ysbyty, yn honni mai llun ohono ef ydoedd, gan ofyn am arian ar gyfer biliau ysbyty. Gwnaeth dyn arall ddweud wrthi ei fod yn feddyg yn Irac a'i fod angen arian er mwyn torri ei gytundeb gyda Byddin yr UD fel y gallai ddychwelyd adref at ei ferch. Dywedodd dyn arall wrthi  fod etifeddiaeth yn ddyledus iddo gan lywodraeth Twrci a gofynnwyd i'r dioddefwr dalu £20,000 mewn ffioedd cyfreithiol er mwyn rhyddhau miliynau o ddoleri.

Roedd yr un o dan amheuaeth diweddaraf wedi bod mewn cyswllt gyda'r dioddefwr am oddeutu blwyddyn ac wedi gofyn am arian drwy gydol yr amser hwnnw. Roedd wedi dweud wrth y dioddefwr ei fod yn gweithio ar lwyfan olew oddi ar arfordir yr Alban ond roedd yn wreiddiol o'r UD. Roedd yn ymwybodol am golled ariannol flaenorol roedd y dioddefwr wedi'i gael. Gwnaeth gynnig ei chynorthwyo hi gael ei harian yn ôl drwy ei rhoi mewn cysylltiad gyda ffrind yn yr FBI. Arweiniodd hyn at y dioddefwr yn credu ei fod yn ddilys a byddai'n gallu ei chynorthwyo hi.

Roedd y dioddefwr wedi anfon arian at yr un o dan amheuaeth er mwyn trefnu cludiant oddi ar y llwyfan olew fel y gallent gyfarfod, ond roedd yr un o dan amheuaeth wedi canslo sawl gwaith am sawl rheswm. Roedd hyd yn oed wedi anfon negeseuon e-bost at y dioddefwr yn honni mai ei ferch 9 oed oedd yn gofyn am arian.

Dywedwyd hefyd wrth y dioddefwr fod yr un o dan amheuaeth ag offer wedi'i ddifrodi ar y llwyfan olew yr oedd disgwyl iddo dalu amdano. Ond roedd yn honni ei fod wedi colli'i ffôn a'i waled yn y môr, felly roedd ei gyfrifon banc wedi'u hatal. Gofynnodd i'r dioddefwr fenthyg arian iddo ddychwelyd adref fel y gallai dali am drwsio'r offer. Sicrhawyd y dioddefwr y byddai'n ei thalu'n ôl unwaith roedd wedi dychwelyd adref o'r llwyfan olew. Er mwyn cynorthwyo'r un o dan amheuaeth, fe gymerodd dioddefwyr fenthyciadau a chardiau credyd allan. Fe wnaeth anfon dros £12,000 i gyd.

Wedi cyswllt cychwynnol gyda swyddogion, gwnaeth y dioddefwr wrthod derbyn ei bod wedi dioddef twyll. Gwnaeth y Swyddog Diogelu Cam-drin Ariannol gysylltu gyda'r dioddefwr eto ac roeddent yn gallu profi fod y lluniau a dderbyniodd o'r un o dan amheuaeth, ynghyd a dogfennau amrywiol, yn ffug. Roedd yr arian roedd wedi'i anfon wedi'i drosglwyddo allan o'r DU, gan ei wneud yn amhosibl i'w gasglu. Yn y diwedd, derbyniodd y dioddefwr ei bod wedi dioddef twyll. Cafodd ei chynghori i ddod a phob cyswllt i ben gyda'r rhai o dan amheuaeth, i stopio anfon arian a pheidio derbyn arian gan bobl eraill nad oedd yn eu hadnabod. Cynigiwyd cymorth parhaus gan Gymorth Dioddefwyr ac aelodau o'i theulu. Cafodd ei banc wybod hefyd fel y gellid gwarchod ei chyfrifon. 

Yr hyn i'w wneud os byddwch yn dioddef twyll rhamant

Os ydy'r drosedd ar waith ac mae rhai o dan amheuaeth yn bresennol, hysbyswch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 yn uniongyrchol neu ffoniwch 999.

Fel arall, dylech hysbysu'r mater wrth Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ar www.actionfraud.police.uk. Action Fraud ydy'r ganolfan hysbysu genedlaethol am dwyll ledled Cymru a Lloegr. 

Canolfan Cymorth Dioddefwyr 

Mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn comisiynu ei gwaith, yma i wrando a chynnig cymorth, ac fe'ch anogir i ddefnyddio eu gwasanaethau. Gyda'u gwybodaeth arbenigol, gallent:

  • Cynorthwyo pobl edrych ar ffyrdd i hawlio arian yn ôl
  • Cynorthwyo pobl greu cadernid er mwyn atal unrhyw droseddau eraill
  • Rhoi cymorth personol
  • Gwrando gyda thosturi a chynorthwyo pobl ganfod ffyrdd o deimlo'n fwy diogel.
  • Gweithredu fel eiriolwr wrth gwyno wrth fanc neu ombwdsmon ariannol (gyda chaniatâd y dioddefwr). 

Mae'r staff yn y ganolfan yn deall yr embaras a'r cywilydd mae dioddefwyr yn ei deimlo ar ôl profi twyll.  Mae rhai pobl yn beio eu hunain, ond nid dioddefwyr sydd ar fai.

Peidiwch a phetruso cysylltu â'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr os ydych wedi dioddef twyll ac os hoffech wybod mwy am sut y gallent eich cynorthwyo.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan dwyll yng Ngogledd Cymru, ffoniwch dîm eich Canolfan Cymorth Dioddefwyr lleol ar 0300 303 0159. Oriau agor yw dydd Llun – dydd Gwener 8.00am-8.00pm a dydd Sadwrn 9.00am-5.00pm.