Skip to main content

CHTh i ddechrau cymorthfeydd misol

Dyddiad

Andy Dunbobbin - The Quay Hotel, Deganwy 2

25/01/23: Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin yn lansio cymorthfeydd misol i drigolion fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd.

Bydd cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi, mewn ardaloedd gwledig a rhai trefol ar draws y chwe sir. Cynhelir y cyfarfodydd cyntaf yn nhrefi y Bala, Rhuthun, Pwllheli, Bangor a'r Bermo.  Cyhoeddir lleoliadau eraill yn 2023 maes o law.

Mae'r comisiynydd yn hapus i siarad am faterion sy'n effeithio trigolion yn eu cymunedau lleol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael 15 munud i siarad â'r Comisiynydd. Bydd yntau yno yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth mwyaf posib i'r cyhoedd. ⁠Bydd y sgyrsiau yn aros yn gyfrinachol a bydd y Comisiynydd a'i staff yn gallu cynnig awgrymiadau eraill os oes modd i asiantaethau a sefydliadau eraill ddelio â’r problemau yn well.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'n fraint cyhoeddi cychwyn fy nghymorthfeydd misol ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Rwyf bob amser yn ceisio gwrando'n astud ar yr hyn y mae pobl yn dweud wrthyf ac mewn ymgynghoriad diweddar yn ymwneud â'r presaept plismona roedd hi'n glir i mi fod nifer o bobl am gael perthynas agosach a mwy personol gyda phlismona, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig.

“Rwyf yn annog pobl leol i gysylltu, archebu lle i gwrdd â mi ac i drafod eu problemau, fel y gallwn wneud ein gorau i fynd i'r afael â nhw. Fel CHTh sy'n rhan o'r gymuned, rwyf yn benderfynol o wneud plismona a’r ffordd mae’n gweithio yn fwy gweladwy -  yn agosach i gymunedau a chymdogaethau ar draws Gogledd Cymru."

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd bedwar dyletswydd, dyma'r blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona; ac i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol.  ⁠Mae'r cymorthfeydd yn enghraifft o'r blaenoriaethau allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin i gyflenwi cymdogaethau, cefnogi dioddefwyr a chymunedau a chreu system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol.

Amserlen y cymorthfeydd

23 Chwefror - y Bala - prynhawn

23 Mawrth -  Rhuthun - bore

19 Ebrill - Pwllheli - prynhawn

25 Mai -  Bangor - prynhawn

21 Mehefin - y Bermo - prynhawn

Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd y cymorthfeydd CHTh yn cael eu cynnal yn fisol mewn nifer o leoliadau hygyrch ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 15 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth gyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu. Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.