Skip to main content

CHTh, Maer Gorllewin Swydd Efrog a Dirprwy Faeri Llafur yn ymuno â galwadau am Gyfraith Hillsborough

Dyddiad

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi uno gyda'r saith Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Maer Gorllewin Swydd Efrog a'r tri Dirprwy Faer Plismona Llafur ledled Cymru a Lloegr er mwyn ymuno â'r alwad am

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y 12 gwleidydd Llafur: "Rydym yn ymuno gyda'n gilydd i gefnogi'r galwadau gan Faeri Metro Manceinion Fwyaf a Glannau Mersi, ynghyd â llawer o ffigyrau amlwg iawn eraill o bob cefndir a phlaid, am 'Gyfraith Hillsborough'.

"Roedd yr hyn ddigwyddodd yn Hillsborough ym mis Ebrill 1989 yn gwbl ddinistriol.  Roedd y celu a ddilynodd yn warth cenedlaethol. 

"Dim ond oherwydd penderfyniad, dyfalbarhad a nerth y teuluoedd a'r ymgyrchwyr dros 33 mlynedd syfrdanol y daeth y gwir i'r amlwg o'r diwedd.

"Yn anffodus, mae gormod o enghreifftiau o bobl iawn sydd wedi dioddef trallod y tu hwnt i'r dychymyg. Maent wedi gorfod brwydro'n llawer rhy hir, ac yn llawer rhy galed, yn erbyn mawredd y wladwriaeth a chael y cyfiawnder maent yn ei haeddu.

"Pobl sydd eisoes wedi dioddef yn fawr, yn gorfod mynd drwy'r trawma wrth iddynt frwydro yn erbyn y system honno a ddylai fod yno i'w gwarchod.

"Hir yw bob ymaros am newid. Mae angen gweithredu'n awr er mwyn gwella'r system gymorth i deuluoedd galarus yn dilyn trychineb cyhoeddus.

"Byddai Cyfraith Hillsborough yn cyflwyno pecyn o fesurau yr ydym yn credu fyddai'n cynorthwyo i fantoli clorian cyfiawnder. Byddai'n sicrhau fod teuluoedd galarus yn cael eu trin mewn ffordd decach a mwy cyfiawn. Byddai'n eu hatal rhag dioddef yr artaith â'r rhai hynny a effeithiwyd gan Hillsborough a chymaint o drychinebau eraill. 

"Byddai'n rhoi mwy o rôl i deuluoedd galarus ddweud eu dweud mewn cwestau, drwy gynrychiolaeth gyfreithiol wedi'i hariannu'n gyhoeddus. Byddai'n darfod gwario cyfreithiol diderfyn gan gyrff cyhoeddus sy'n ceisio celu neu amddiffyn drygioni.

"Fel Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a Dirprwy Feiri plismona, mae gennym rôl hanfodol mewn craffu'r heddlu. Rydym yn barod yn mynd ati i weithio i gynyddu atebolrwydd a thryloywder o fewn ein system gyfiawnder. Byddai cyflwyno dyletswydd o ddidwylledd statudol ar holl weision cyhoeddus yn gam pellach i'w groesawu yn y broses hon. 

"Mae teuluoedd sydd bellach wedi'u heffeithio gan y fath boen a dioddefaint yn haeddu'r cymorth gorau posibl. Rydym yn benodol yn cefnogi'r argymhelliad am benodi Dadleuwr Cyhoeddus i weithredu ar eu rhan.

"Byddai'r fath symudiad yn sicrhau fod gan y teuluoedd rywun ar eu hochr nhw. Byddant yno i'w cynorthwyo i gael y wybodaeth maent ei hangen. Byddant yno i lywio cymhlethdodau'r system gyfreithiol, a sicrhau eu bod yn cael cymorth bob cam o'r ffordd er mwyn cael y cyfiawnder maent yn ei haeddu.

Ni ddylai neb fyth orfod dioddef yr un boen a'r artaith ag y profodd teuluoedd Hillsborough. Ni ddylai neb beidio cael y gwirionedd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylai neb fyth eto gael eu siomi gan y system.

"Rhaid i ni sicrhau nad yw fyth yn cael ei ailadrodd.

"Pan mae trasiedïau’n digwydd, rhaid i ni wneud popeth sy'n bosibl i gynorthwyo'r teuluoedd a sicrhau'r rhai hynny a effeithir i gael y gwirionedd a chael cyfiawnder.

"Rydym yn ymuno ag Andy, Steve, a chymaint o rai eraill, wrth annog y Llywodraeth i ymroi i gyflwyno #CyfraithHillsboroughNawr.

"Nid oes amser i’w ddisgwyl."


Emily Spurrell - CHTh Glannau Mersi

Tracey Brabin - Maer Gorllewin Swydd Efrog

Alison Lowe - Dirprwy Faer Gorllewin Swydd Efrog

Sophie Linden - Dirprwy Faer Llundain

Y Farwnes Bev Hughes - Dirprwy Faer Manceinion Fwyaf

Joy Allen - CHTh Durham

Alan Billings - CHTh De Swydd Efrog

Jeff Cuthbert - CHTh Gwent

Andy Dunbobbin - CHTh Gogledd Cymru

Simon Foster - CHTh Gorllewin Canolbarth Lloegr

Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael - CHTh De Cymru

Kim McGuiness - CHTh Northymbria

Tracey Brabin