Skip to main content

CHTh Swydd Gaer yn ymweld â Gogledd Cymru

Dyddiad

Cheshire PCC visit

Dydd Mawrth 30 Awst, gwnaeth Andy Dunbobbin groesawu John Dwyer, CHTh Swydd Gaer ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn ar gyfer trafodaethau am faterion plismona a chydweithredu trawsffiniol. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r Gynghrair Arfog gyda Heddlu Swydd Gaer gan rannu arbenigedd a gallu. Roedd y Rhingyll Kalum Davies o HGC yn bresennol i arddangos rhai o offer y Gynghrair i’r ddau Gomisiynydd a dangos sut mae’r timau’n gweithio i gadw Gogledd Cymru a Swydd Gaer yn ddiogel.