Dyddiad
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb yn cael ei chynnal rhwng 14 a 21 Hydref ledled y DU, gyda'r nod o daflu goleuni ar bla trosedd casineb. Mae'r ymgyrch wythnos o hyd, a sefydlwyd yn 2009, yn annog y Llywodraeth, yr Heddlu, cynghorau lleol, elusennau a chymunedau a effeithir gan droseddau casineb, i weithio gyda'i gilydd er mwyn ymdrin â throsedd casineb lleol ledled y DU. Yn ôl y trefnwyr, mae'n "anelu dod â phobl at ei gilydd i sefyll mewn undod gyda'r bobl hynny a effeithir gan drosedd casineb, er mwyn cofio'r bobl hynny rydym wedi'u colli, a chefnogi'r bobl hynny sydd angen cymorth parhaus."
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth lwyr i'r ymgyrch. Mae'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi'r wythnos ac ymgysylltu hefo gwahanol gymunedau ledled y rhanbarth a effeithir gan drosedd casineb.
- Ddydd Llun, mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn helpu trefnu digwyddiad ar 'Deall Trosedd Casineb a Bregusrwydd yng Ngogledd Cymru'. Yn ystod y drafodaeth ar-lein, bydd Andy Dunbobbin yn ymuno hefo Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a Thimau Cydlyniad Cymunedol Gogledd Cymru. Taflir goleuni pellach ar y pwnc gan wasanaethau sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru, yn enwedig hefo pobl anabl.
- Ddydd Mawrth, mae'r Comisiynydd yn siarad hefo myfyrwyr gradd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam lle bydd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb a rôl yr heddlu wrth herio Trosedd Casineb.
- Ddydd Mercher, bydd y Comisiynydd yn ymuno hefo tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gogledd Cymru ar y bws rhif 12 rhwng Llandudno a'r Rhyl. Mae hyn fel rhan o fenter cymhorthfa bws er mwyn sgwrsio hefo cymunedau lleol a deall eu pryderon o ran trosedd casineb.
- Fore dydd Gwener, bydd y Comisiynydd yn Ysgol Uwchradd Penarlâg hefo tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru er mwyn siarad hefo myfyrwyr, amlygu troseddau casineb ar-lein a phrofiadau pobl ifanc o'r mathau o droseddau hyn.
- Yna yn y prynhawn mae'r Comisiynydd yn ymweld â Chaergybi a mynd am daith gerdded o amgylch y dref hefo cynghorwyr lleol a Heddlu Gogledd Cymru. Gwnaiff y Comisiynydd drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau eraill o drosedd yn yr ardal a deall ymdrechion ymdrin â throseddau yn nhref fwyaf Ynys Môn.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb yn ffordd hanfodol o amlygu'r niwed gall casineb ei roi ar gymunedau. Buaswn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef achos o gasineb i'w riportio, fel y gallwn weithredu. Mae trosedd casineb yn benodol yn effeithio ar bobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl LHDTQ+. Tra mai dim ond wythnos o hyd ydy'r ymgyrch hon, mae'r ymgyrch ehangach er mwyn herio Trosedd Casineb yn parhau drwy'r flwyddyn. Dwi'n benderfynol o weld Gogledd Cymru lle nad oes lle i Drosedd Casineb."
Dywedodd PC Richard Fishlock, Swyddog Amrywiaeth/Swyddog Trosedd Casineb yn Nhîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi helpu dioddefwyr trosedd casineb sef yr hyn 'da ni'n neud hefo'n partneriaid yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr a gwasanaethau cymorth eraill. Mae'n bwysig cofio hefyd y gwnaiff Heddlu Gogledd Cymru bob dim a allwn i daclo troseddwyr ac ymddygiad troseddol.
“'Da ni'n cymryd trosedd casineb o ddifrif ac yn gwneud bob dim er mwyn gwneud yn siŵr fod troseddwyr yn cael eu dwyn yn atebol ac yn dod o flaen eu gwell."
Mae digwyddiad casineb yn un lle mae'r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn meddwl ei fod ar sail rhagfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.
Os 'da chi angen riportio am drosedd casineb, gallwch chi gysylltu hefo Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (os 'da chi yng Ngogledd Cymru). Am wybodaeth ar ffyrdd eraill o riportio (gan gynnwys riportio trydydd parti ac yn ddienw) ewch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru. Ceir gwybodaeth bellach am drosedd casineb ar dudalennau cydraddoldeb gwefan yr Heddlu. Gellir hysbysu'r heddlu drwy asiantaethau hysbysu trydydd parti fel Cymorth Dioddefwyr. Mae'r asiantaethau hyn yn cynorthwyo'r rhai hynny sydd ddim eisiau delio yn uniongyrchol hefo'r Heddlu.
Os ydyw'n argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Mae Trosedd Casineb yn anghywir. Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd. Riportiwch.