Skip to main content

CHTH yn cwrdd â Girlguiding Anglesey

Dyddiad

Girlguiding Anglesey (1)

Ar 21 Mehefin, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i Ganolfan Girlguiding Anglesey ym Mhenrhoslligwy i ddysgu mwy am y grŵp a'u gweithgareddau a sut y bydd arian o gronfa'r Comisiynydd, Eich Cymuned Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yr ynys.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.  Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill yn dod o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Girlguiding Anglesey yn rhan o Girlguiding UK, elusen i ferched o 4-18 oed. Mae'r gangen ar Ynys Môn yn cwrdd mewn nifer o leoliadau ar draws yr ynys, yn gwneud gweithgareddau gyda'r nod o annog aelodau'r grŵp i fod yn annibynnol ac yn wydn.  Mae gan GirlGuiding Anglesey dros 300 o aelodau a 90 o wirfoddolwyr sy'n oedolion.

Yn ystod yr ymweliad, bu’r Comisiynydd yn sgwrsio gyda’r merched o gwmpas y tân, ac aeth ar daith o gwmpas y safle gan ddysgu sut y bydd arian Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael eu ddefnyddio. Mae'r grŵp yn defnyddio'r arian i osod drysau ar storfa fawr yn y ganolfan gan sicrhau bod eiddo'r grŵp yn ddiogel.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru:-: "Rwyf wrth fy modd yn gweld Girlguiding Anglesey yn derbyn arian oddi wrth gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig dysgu sgiliau allweddol i bobl ifanc ym maes arweiniad a hyder er mwyn iddynt gael y dyfodol gorau posib.

"Roedd yn wych cael mynd i'r ganolfan i gwrdd â'r arweinwyr a'r bobl ifanc sydd yn amlwg yn frwdfrydig ynglŷn â gweithgareddau'r grŵp a'r hyn maent yn ei ddysgu.

Mae'r grŵp yn enghraifft wych o fenter gymunedol sy'n cyfateb i flaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn cyflenwi cymdogaethau mwy diogel ac yn cefnogi cymunedau yn y modd y maent yn rhoi cyfleoedd i ferched i fynegi eu hunain a chwarae rhan yn y gymuned ehangach ar draws Ynys Môn.

Dywedodd Elaine Green, Comisiynydd Sir Girlguiding Anglesey (Prif Wirfoddolwr):  “Mae'r sefydliad yn helpu merched i adeiladu sgiliau a hyder drwy ystod eang o weithgareddau yn cynnwys mwynhau'r awyr agored.

“Gan ein bod yn cynllunio mwy o anturiaethau mae angen mynediad hawdd arnom i'n hoffer. Gyda'r arian hwn, byddwn yn gallu newid ein hen ddrysau pren ar ein storfa a chael drws garej modern newydd. 

“Roedd yr hen ddrysau yn anodd eu hagor ac roeddent yn cau yn sydyn yn y gwynt, roedd llygod mawr yn gallu dod i mewn drwy'r bwlch yn y gwaelod gan nythu yn ein pebyll. Byddwn nawr yn gallu storio offer yn ddiogel er mwyn gwersylla a mynd ar wyliau yn yr haf."

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Rwyf yn cydnabod yr hyn mae Girlguiding Anglesey yn ei gyfrannu i'r cymunedau ar yr ynys ac rwyf yn falch ein bod ni wedi gallu eu helpu gydag arian ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol. Mae eu hymrwymiad i fagu hyder a hyrwyddo cynhwysiant yn ysbrydoledig a dyma pam rwyf yn credu eu bod yn haeddu Cyllid Eich Cymuned Eich Dewis." 

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: Rwyf yn credu mewn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf ac rwyf yn falch o fod wedi cael arian ar gyfer Girlguiding Anglesey i barhau eu gwaith. Mae'r grŵp yn dod â manteision i'r gymuned drwy rymuso merched ifanc drwy roi cyfleoedd unigryw iddynt ym maes arweinyddiaeth sy'n cyd-fynd â gweledigaeth yr Heddlu yn adeiladu cymunedau cadarn a diogel.

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk