Skip to main content

CHTh yn cyfarfod â chymuned amaethyddol Gogledd Cymru

Dyddiad

FUW Farmhouse Breakfast Week

Gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyfarfod ag aelodau o'r gymuned amaethyddol leol yng Ngogledd Cymru ar fore 27 Ionawr fel rhan o Wythnos Brecwastau Ffermdai Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), sydd wedi cael ei chynnal rhwng dydd Llun 23 Ionawr a dydd Sul 29 Ionawr 2023. 

Trefnwyd y digwyddiad, yn fferm Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed sef cartref Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a'i deulu gan Gangen Sir Gaernarfon o'r Undeb. Mae'n cynorthwyo i godi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn at achosion da. Cynhaliwyd chwe brecwast ledled Sir Gaernarfon dros yr wythnos.

Mae Wythnos Brecwastau Ffermdai wedi cael ei chynnal ers bron i ugain mlynedd. Fe'i sefydlwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru gyda'r nod o hyrwyddo'r bwyd rhagorol, maethlon a chynaliadwy mae ffermwyr yn ei gynhyrchu ar ein cyfer. Mae'n dod â phobl rownd bwrdd i rannu eu meddyliau a'u pryderon er mwyn meithrin iechyd meddwl da. Mae'n ymgysylltu gyda ffigyrau gwleidyddol lleol a rhanddeiliaid eraill er mwyn amlygu pam fod ffermio'n bwysig mewn ffyrdd sydd brin yn cael eu sylweddol. Enghraifft o hyn ydy'r ffordd mae'r diwydiant yn cynorthwyo busnesau yn yr ail sector a'r trydydd sector ac yn cadw olwynion yr economi wledig i droi.

Mae bob sir yng Nghymru yn trefnu cymaint o frecwastau a phosibl yn ystod yr wythnos. Mae'r digwyddiadau hefyd yn rhoi cyfle i godi arian i elusen Llywydd yr Undeb ac achosion lleol pwysig eraill. 

Daeth Peter Evans, Rhingyll Troseddau Cefn Gwlad a Prif Uwcharolygydd Sian Beck o Heddlu Gogledd Cymru, a Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i'r digwyddiad ynghyd a'r CHTh. Gwnaeth y pedwar siarad ag aelodau o'r gymuned amaethyddol leol. Gwnaethant wrando ar eu pryderon a'u sylwadau o ran trosedd mewn ardaloedd gwledig, sy'n faes sy'n cael sylw arbennig gan y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint cael mynd i un o Frecwastau Ffermdai Undeb Amaethwyr Cymru yn Nylasau Uchaf. Rwyf yn ddiolchgar i Gwynedd Watkin a Changen Sir Gaernarfon o'r Undeb am y gwahoddiad. Ein ffermwyr ydy asgwrn cefn economi Gogledd Cymru. Maent yn cynorthwyo i'n darparu ni â chynnyrch gwych. Mae'r Wythnos Frecwastau yn ffordd ddau o ddangos yr holl waith caled hwn gan godi arian angenrheidiol at achosion da yn ogystal.

"Mae troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn rhan hanfodol o'm Cynllun Plismona a Throsedd yng Ngogledd Cymru. Rwyf wedi ymroi i ymdrin â phryderon y gymuned amaethyddol o ran trosedd yng nghefn gwlad. Gall y troseddau amrywio, o ddwyn peiriannau i anafu da byw. ⁠Ond mae ffermwyr hefyd yn bobl busnesau bach a gallent ddioddef troseddau ar-lein a seiber. Ni ddylem anghofio fod pobl yng nghefn gwlad yn gallu dioddef trais domestig a mathau eraill o drosedd a all effeithio unrhyw un ar draws ein cymdeithas. Mae ymgysylltu gyda'r gymuned cefn gwlad yn bwysig i mi. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau fy sgyrsiau gyda chymunedau ledled Gogledd Cymru yn y misoedd nesaf."

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Rydym yn cyffroi'n arw am ein brecwastau ffermdai bob blwyddyn. Gallwn ddechrau'r dydd gyda theulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach a chodi arian yr un pryd at achos da, ac eleni yr achos hwnnw ydy Sefydliad DPJ. Mae'n deg dweud bod dechrau iach yn ddaioni i galon iach a meddwl iach yn ogystal."

Er mwyn dysgu mwy am Undeb Amaethwyr Cymru a'r Wythnos Brecwastau Ffermdai, ewch yma.

Er mwyn darllen mwy am Gynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a sut mae'n berthnasol i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, ewch yma.