Skip to main content

CHTh yn cyfarfod grŵp sy'n ceisio adfer King’s Road, Llandudno

Dyddiad

Ar 7 Tachwedd, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Chyfeillion King's Road, grŵp sydd newydd ei ffurfio sy'n gweithio i wella adnoddau'r ardal ar gyfer trigolion lleol ac i gael gwared â rhagfarnau ynglŷn â'r stryd ymysg rhai yn y dref. 

Mae'r Grŵp yn seiliedig yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned. Cafodd ei sefydlu ym mis Mai eleni fel grŵp cymunedol, gwirfoddol er mwyn gwneud newid positif yn yr ardal. Eisoes trefnwyd gwibdeithiau, digwyddiadau, ymgyrchoedd codi arian a ffyrdd eraill o helpu'r gymuned; yn ddiweddar, er enghraifft cynhaliwyd Parti Calan Gaeaf ar gyfer y plant yng nghanolfan Trinity.

Yn ystod ei ymweliad â King’s Road cyfarfu Andy Dunbobbin, SCCH Sarah Curry a Chris O’Melia â Cyfeillion King’s Road, Clara-Rose Molloy, aelodau eraill Paula a Sian, ynghyd â Gini Rivers o Gyfeillion Mostyn Street, a oedd yno ar ran grwpiau cymunedol eraill yn y dref. Yna aeth y Comisiynydd am dro o gwmpas yr ardal i gwrdd â thrigolion lleol i weld y gwaith maent wedi gwneud hyd yn hyn. 

Daeth y grŵp at ei gilydd wedyn i drafod yn y Ganolfan. Bwriad hwn oedd deall amcanion y grŵp, sut mae'n anelu dangos balchder trigolion lleol yn y gymuned a sut maent yn gobeithio ei ddatblygu. Y nod allweddol yw i'r Cyfeillion gynnwys pobl ifanc, fel modd o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, ond hefyd er mwyn sicrhau bod lleisiau trigolion ifanc yn cael eu clywed. Gyda hyn mewn golwg mae'r Cyfeillion wedi creu Pwyllgor y Plant er mwyn cynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio'r ardal.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn wych cwrdd â Chyfeillion King's Road ac i glywed mwy am eu balchder o fod yn byw mewn cymuned mor glos a chynnes. Roeddwn yn falch iawn o glywed am y gwaith rhagorol maent yn gwneud i wella golwg a naws y lle a'r gwaith maent yn gwneud yn cynnig gweithgareddau i bobl ifanc a lleihau unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Mae cefnogi dioddefwyr a chymunedau, a chyflawni cymdogaethau mwy diogel yn gonglfeini fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ac mae'n wych gweld yr amcanion hyn yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith Cyfeillion King's Road.   Rwyf yn dymuno pob llwyddiant iddynt!"

Dywedodd Clara-Rose Molloy, Cadeirydd Cyfeillion King's Road: “Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i wella bywydau pobl ifanc ein cymuned drwy ein mentrau, sy’n annog profiad y tu hwnt i’w hardal. Drwy feithrin cysylltiadau da rhwng yr hed a’r ifanc ein nod yw creu system gefnogi rhwng y cenedlaethau yn seiliedig ar ddealltwriaeth a chyfeillgarwch. Rydym wedi ymrwymo i adeiladau amgylchedd ble mae pob unigolyn, waeth beth eu hoed yn gallu fynnu a chyfrannu at ein cymuned hyfyw.”

Mae gan y King's Road hanes hir fel un o'r ardaloedd cyntaf yn Llandudno i gynnwys cartrefi cymdeithasol. ⁠Adeiladwyd y tai cyntaf ar ddiwedd y 19 Ganrif ond adeiladwyd y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer milwyr yn dychwelyd o'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1920. Roedd hyn yn rhan o ymgyrch ar gyfer ‘Homes Fit for Heroes’ gan y Prif Weinidog ac aelod seneddol Llandudno – David Lloyd George. Mae cofeb ar ddau gartref ar y ffordd wedi eu gosod ar 8 Hydref 1920 gan y Fonesig Margaret Lloyd George, gwraig y Prif Weinidog; a Mrs E. R. Woodhouse, gwraig Cadeirydd Cyngor Trefol Llandudno fel rhan o falchder y dref yn darparu cartrefi o safon i bobl leol.

Dysgwch fwy am waith Gyfeillion y King's Road, ewch i - https://www.facebook.com/groups/1405715143596225/