Dyddiad
Siaradodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â myfyrwyr ail flwyddyn lleol o'r cwrs Gradd Plismona Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos ar 25 Hydref er mwyn trafod ei rôl a sut mae'n gweithio. Siaradodd am ei gynllun i leihau trosedd yng Ngogledd Cymru a sut all pobl ifanc a'u cymunedau gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn trosedd.
Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnig gradd BSc (Anrh) israddedig mewn Plismona Proffesiynol, wedi'i thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Mae'r rhaglen yn paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau iawn er mwyn addasu ar gyfer cymhlethdod proffesiynol plismona modern gan gynnwys natur newidiol trosedd a galwadau ar wasanaethau'r heddlu. Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu mewn lleoliadau amrywiol ac yn defnyddio arbenigedd mewn troseddeg a gweithdrefn heddlu o'r ddau sefydliad.
Drwy gydol y cwrs, mae myfyrwyr yn cael cip ar arfer presennol yr heddlu ynghyd â dealltwriaeth o ymchwil a damcaniaeth i achosion trosedd a rheoli trosedd. Gyda'r cyfuniad hwn o wybodaeth ar weithdrefn yr heddlu a chipolwg academaidd i blismona, gall graddedigion ddilyn gyrfaoedd yn yr heddlu ynghyd ag asiantaethau eraill sydd â chyswllt â phlismona. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cael ei chyflwyno yng Ngholeg Llandrillo, yr ail flwyddyn yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol Bangor a'r drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r rhaglen yn manteisio ar gysylltiadau agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill yn yr ardal wrth gynorthwyo myfyrwyr gydag opsiynau gyrfa. Mae'r radd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn. Mae nifer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddechrau rolau amrywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a chynorthwyo'r gwasanaethau brys ehangach.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymweld â Choleg Llandrillo er mwyn trafod fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda myfyrwyr o'r radd Plismona Proffesiynol. Mae'n hynod bwysig i mi ymgysylltu gyda phobl ifanc, yn enwedig rhai sy'n dangos diddordeb brwd mewn plismona a gwasanaethu eu cymunedau.
"Cefais fy syfrdanu gan y cyfleusterau rhagorol mae Coleg Llandrillo yn ei gynnig i'w fyfyrwyr a chan wybodaeth ac ymroddiad arweinwyr y cwrs gradd Plismona Proffesiynol. Fe wnes i hefyd werthfawrogi clywed am y cysylltiadau sy'n bodoli rhwng y cwrs a Heddlu Gogledd Cymru, a sut allwn ni gydweithio er mwyn gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel."
Dywedodd Dewi Roberts, Arweinydd Rhaglen y cwrs Gradd Plismona Proffesiynol: "Roedd o fantais i'r CHTh Andy Dunbobbin ddod i Goleg Llandrillo heddiw a thrafod ei rôl a'i Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer 2021 i 2024. Mae'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i fyfyrwyr ail flwyddyn sut mae ein cymunedau'n cael eu plismona a'u cynorthwyo yng Ngogledd Cymru."
Mae Dyddiau Agored yn yr wythnosau nesaf ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Llandrillo ac mae manylion ar gael ar eu gwefannau priodol.