Dyddiad
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi Amanda Blakeman, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, fel yr ymgeisydd gorau yn ei dyb ef i fod yn Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth. Ms Blakeman fydd y Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf yn hanes Heddlu Gogledd Cymru.
Mae penodiad Amanda Blakeman i'w gadarnhau gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a fydd yn digwydd ym mis Medi. Mae Paneli Heddlu a Throsedd yn gyrff craffu cynrychiolwyr lleol sy'n cadw llygad rheolaidd ar gyflawniad y Comisiynydd. Mae gofyn i’r Comisiynydd ymgynghori gyda’r Panel ar gynlluniau a chyllideb plismona, lefelau'r dreth gyngor a phenodiad Prif Gwnstabl newydd.
Mae Mr Dunbobbin wedi hysbysu'r Panel Heddlu a Throsedd am y dewis gorau yn ei dyb ef yn dilyn proses gyfweld drwyadl a chystadleuol yn erbyn ymgeiswyr cryf iawn.
Ymunodd Amanda Blakeman â Heddlu Gorllewin Mercia yn 1992 a thrwy gydol ei gyrfa, mae wedi cael sawl swydd. Treuliodd 11 mlynedd cyntaf ei gwasanaeth yn magu profiad a gwybodaeth amhrisiadwy ledled amrywiol rolau fel cwnstabl heddlu.
Yn 2003 cafodd ei dyrchafu i fod yn rhingyll. Ers hynny, ledled sawl rheng, mae wedi arwain wrth gyflwyno gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Mae wedi bod yn gyfrifol am swyddogaethau cuddwybodaeth a rhagweithiol. Mae wedi bod yn Uwch Swyddog Ymchwilio fel rhan o Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig yr Heddlu. Yn 2008, wedi cael secondiad i Uned Cudd-wybodaeth Rhanbarthol
Gorllewin Canolbarth Lloegr, fe arweiniodd ddatblygiad y prosesau hanfodol ynghylch nodi ac aflonyddu Grwpiau Trosedd Trefnedig. Ar ben hyn, mae wedi arwain i gyflawni ymgyrchoedd plismona ar lefel leol fel Pennaeth Ardal Plismona Lleol. Mae hefyd wedi bod yn Bennaeth Gwarchod y Cyhoedd a Phennaeth Cymorth Gweithredol i Heddlu Gorllewin Mercia a Heddlu Swydd Warwick. Mae wedi bod yn Bennaeth Drylliau Tanio Tactegol a Bennaeth Drylliau Tanio Strategol Arbenigol.
Mae gan Amanda radd baglor mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd mewn Trosedd a Throseddeg.
Penodwyd Amanda fel Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mercia ym mis Chwefror 2017. Roedd wedi bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Lleol, ers mis Hydref 2014, i Heddlu Swydd Warwick a Heddlu Gorllewin Mercia. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Gwent yn 2019.
Dywedodd Amanda Blakeman: "Mae'n fraint ac yn bleser i mi fod wedi cael fy newis fel yr ymgeisydd gorau i wasanaethu pobl Gogledd Cymru.
"Rwyf yn edrych ymlaen at gyfarfod y Panel Heddlu a Throsedd yn fy ngwrandawiad cadarnhau. Yn amodol arnynt yn cymeradwyo fy mhenodiad, rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at arwain swyddogion a staff ymroddedig a diwyd Heddlu Gogledd Cymru."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Bydd Amanda Blakeman yn gyfrifol am weithio gyda mi er mwyn cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, gyda ffocws mawr ar gynyddu amlygrwydd a gwella cyflawniad. Mae amlygrwydd a chyflawniad yn bwysig. Mae'n bwysig i ni, ein teulu, ein ffrindiau, a'n cymunedau ledled Gogledd Cymru. Rydym i gyd eisiau teimlo'n ddiogel ac eisiau derbyn cymorth os ydym byth yn gweld, neu'n dioddef trosedd. Mae'r Prif Gwnstabl newydd yn ymwybodol o'm safbwynt ac mae ganddynt fy nghefnogaeth lawn er mwyn ymdrin â holl broblemau gweithredol yn uniongyrchol. Rwyf yn edrych ymlaen at weld cynllun cyflawni diwygiedig Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ategu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd strategol.
"Penodi Prif Gwnstabl ydy un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddaf yn eu gwneud yn fy swydd. Mae cadw bron i 700,000 o bobl yn ddiogel yn fraint fawr ac yn gyfrifoldeb mawr, yn enwedig pan welaf i ni gyd fel teulu o Ogleddwyr. Fel y mwyafrif o deuluoedd, mae gennym farn wahanol ar brydiau, ond gellir cyfaddawdu ar brydiau. Bydd y mwyafrif ohonom yn cael gwell dealltwriaeth o'n gilydd, fel ein bod yn gallu symud ymlaen.
“Bydd Amanda Blakeman yn gyfrifol am rwystro ac atal trosedd er mwyn sicrhau fod Gogledd Cymru yn lle diogel i bobl a gweithio ynddo. Mae hi'n arweinydd heddlu rhagorol ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio mewn modd adeiladol a chadarnhaol.
"Mae Carl Foulkes wedi bod yn Brif Gwnstabl gwych a bydd yn parhau i arwain yr heddlu tuag at ei ymddeoliad. Mae Carl wedi moderneiddio'r heddlu ac wedi gorfod mynd i'r afael â'r heriau mawr y perodd y pandemig i ni a'r bygythiadau cyfnewidiol i ddiogelwch cyhoeddus."
Hysbysebwyd y swydd wedi i Carl Foulkes gyhoeddi ei ymddeoliad yn dilyn pedair blynedd fel Prif Gwnstabl.