Skip to main content

CHTh yn dangos cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022

Dyddiad

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yng Ngogledd Cymru'n ddiogel.

Gan redeg o 18 i 22 Gorffennaf, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022 yn anelu i annog cymunedau wrthsefyll Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac amlygu'r gweithrediadau a ellir eu cymryd gan y rhai hynny sy'n ei brofi.

Wedi'i drefnu gan Resolve (prif sefydliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y DU), mae'r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU sy'n cynnwys cynghorau, heddluoedd, cymdeithasau tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.

Er mwyn nodi dychweliad Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022, mae'r Comisiynydd yn ymweld â Llangefni, Pwllheli a Wrecsam drwy gydol yr wythnos er mwyn gweld prosiectau sydd ar y gweill i ymgysylltu a chynorthwyo pobl ifanc lleol a dioddefwyr trosedd. Bydd hefyd yn ymuno â swyddogion heddlu ar batrôl i weld gweithgarwch yn digwydd er mwyn atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol. 

Canfu ymchwil diweddar gan YouGov a gomisiynwyd gan Resolve fod mwy na hanner o bobl (56%) yn credu bod 'mwy angen ei wneud' i ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn eu cymuned. Fodd bynnag, ar ôl iddynt weld neu brofi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dywedodd cyfran debyg o'r cyhoedd (57%) na wnaethant hysbysu neb amdano. 

Mae Andy Dunbobbin yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio dioddef yn dawel os ydynt yn profi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gellir hysbysu'r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Cyngor lleol neu'r Heddlu am ddigwyddiadau os ydy pobl yn teimlo eu bod mewn risg uniongyrchol neu mewn perygl.

Mae cyflwyno cymdogaethau mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr Gogledd Cymru yn rhan allweddol o Gynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld sawl menter i atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gwneud strydoedd yn fwy diogel.

Er enghraifft, mae cyllid ar gael i ymgysylltu pobl mewn gweithgareddau cadarnhaol drwy'r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, a gefnogir hefyd gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a'r Heddlu Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r cyllid ar gyfer hyn yn aml yn cael ei gasglu drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr. Mae cyllid hefyd wedi mynd i grwpiau Sgowtiaid lleol, clybiau crefft ymladd a mentrau fel yr Youth Shedz ym Mae Cinmel ac Abergele.  

Mae arian hefyd wedi'i sicrhau er mwyn gwella diogelwch ledled ein rhanbarth. Yn Wrecsam, mae cyllid wedi cynorthwyo i leihau'r nifer o droseddau sy'n cynnwys trais yn erbyn merched a genethod. Mae’r fenter Strydoedd Diogelach yn cynnwys gwella CCC, creu lleoedd mwy diogel i ferched a genethod ynghyd a rhoi hyfforddiant ac addysg.

Mae cyllid hefyd wedi mynd tuag at atal llecynnau trosedd ym Mae Colwyn a Bangor. Mae hefyd yn targedu gangiau a throseddwyr trefnedig sy'n dod o du allan i'r ardal drwy dechnoleg fel adnabod platiau rhif awtomatig. 

Yn ein cymunedau cefn gwlad, mae prosiect Future Farms Cymru yn cael ei gynllunio'n gyfan gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad arloesol Heddlu Gogledd Cymru. Fel rhan o'r cynllun, mae synwyryddion sy'n cysylltu â larwm ap y mae ffermwyr yn ei dderbyn ar unwaith os ydy unrhyw beth yn cael ei ddwyn.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bla ar ein cymunedau ac yn un rwyf yn benderfynol o ymdrin ag o fel rhan o'm Cynllun Heddlu a Throsedd, mewn cydweithrediad agos â Heddlu Gogledd Cymru.  Mae gan bobl yr hawl i deimlo'n ddiogel a ddylai neb fod ag ofn neu gael eu brawychu yn eu bywyd a'u busnes bob dydd. 

"Mae ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ffordd werthfawr iawn o amlygu'r cymorth sydd ar gael i drigolion ac ymwelwyr sy'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Buaswn yn annog unrhyw un i hysbysu eu swyddogion Cyngor lleol neu'r tîm plismona lleol am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol maent yn ei brofi

"Drwy gydol yr wythnos hon, rwyf yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda thrigolion lleol a swyddogion heddlu, ac at weld popeth sy'n cael ei wneud ledled Gogledd Cymru. Mae hyn er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo cymunedau lleol."

Dywedodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth hon ac mae’n cynnig cyfle i bwysleisio problemau ASB a’r effaith y gall hyn gael ar gymunedau.”   

“Mae pobl yn haeddu teimlo’n ddiogel, ac mae ein gweithgareddau yr wythnos hon yn pwysleisio’r gwaith yr ydym yn gwneud gyda phartneriaid yn ddyddiol yn cefnogi eich cymunedau ac yn mynd i'r afael ag ASB.”

Ychwanegodd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve: "Nid ydy Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn drosedd lefel isel.  Gall gael effaith hirhoedlog ar fywydau dioddefwyr a chymunedau a gall ragflaenu trosedd mwy difrifol.

"Mae'n bwysig fod her Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gael y flaenoriaeth mae ei angen fel bod pobl ym mhobman yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau.

"Rydym yn falch fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'i swyddfa yn cefnogi’r ymgyrch hynod bwysig hon. Mae'n hanfodol datblygu partneriaethau ledled cymunedau er mwyn ymdrin gyda'r heriau cynyddol ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol."

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - ewch ar

www.resolveuk.org.uk/asbawarenessweek