Skip to main content

CHTh yn dangos cefnogaeth i ymgyrch i ddiweddu trais yn erbyn merched a genethod

Dyddiad

WRD2

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi dangos ei gefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, sy'n ceisio rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn merched a genethod. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cael ei gydnabod yn fudiad byd-eang ac eleni mae'n disgyn ar 25 Tachwedd.  Yn y DU arweinir y diwrnod gan White Ribbon UK, y brif elusen sy'n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn merched a genethod i ben.

Nod yr elusen Rhuban Gwyn yw atal trais yn erbyn merched a genethod drwy fynd i'r afael a gwraidd y broblem a newid agweddau, systemau ac ymddygiad hir dymor sy'n hybu anghyfartaledd a thrais dynion tuag at ferched. 

Fel ffordd o nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, mae rhubanau gwyn i'w gweld ar y coed sy'n arwain at Bencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Casglodd CHTh gynrychiolwyr at ei gilydd o rai o'r gwasanaethau y mae'n helpu i'w noddi i gefnogi merched a genethod sy'n dioddef trais yng Ngogledd Cymru. Daethant i ddangos eu cefnogaeth i'r fenter a'r ymgyrch.

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn darparu arian ar gyfer gwasanaethau sy'n helpu dioddefwyr trais ar draws Gogledd Cymru. Ymysg y rhai a ymunodd â'r CHTh yn y Pencadlys i helpu addurno'r ffordd sy'n arwain at yr adeilad roedd cynrychiolwyr o DASU, Gorwel a Chanolfan Cymorth Dioddefwyr. 

DASU - Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn darparu ystod o wasanaethau o ansawdd uchel a chyfrinachol sy'n gwerthfawrogi a pharchu goroeswyr Cam-drin Domestig.  Gorwel - Prif ffocws Gorwel yw darparu gwasanaethau cymorth ym maes trais domestig ac atal digartrefedd. Mae prosiectau Gorwel yn cynnwys lloches, cynlluniau tai cymorth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cymorth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghori trais domestig.  Mae Canolfan Cymorth Dioddefwyr  yn siop un stop ar gyfer dioddefwyr ledled Gogledd Cymru ac mae wedi'i lleoli ym mhencadlys rhanbarthol yr heddlu yn Llanelwy.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o groesawu Dasu, Gorwel a Chanolfan Cymorth Dioddefwyr i'r Pencadlys heddiw i ddangos ein hymroddiad i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a'r ymgyrch i ymgysylltu dynion a bechgyn mewn diweddu trais yn erbyn merched a genethod.

"Mae diweddu trais fel hyn yn ymgyrch bersonol i mi. Mae gen i wraig, mam, merch a nythod a llawer iawn o ferched a genethod yn fy nheulu a'r gymuned ehangach a rhaid i drais yn erbyn merched ddod i ben. Rwyf hefyd yn credu bod rhaid i hyn ddechrau gyda'r rhai sy'n achosi'r trais hwn - sef dynion a bechgyn. Dyna pam roeddwn am sicrhau bod y Pencadlys wedi ei addurno gan rhubannau gwyn a dyna pam wnes i wahodd nifer o'r gwasanaethau rwyf yn eu comisiynu i ymuno â mi fel y gallwn ddangos ein bod ni'n sefyll gyda'n gilydd - er mwyn y dioddefwyr ac er mwyn rhoi diwedd ar drais yn erbyn merched a genethod.    

Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn digwydd ar ddechrau Cwpan y Byd FIFA, ac mae ffocws yr ymgyrch eleni ar eu hymgyrch #TheGoal i godi ymwybyddiaeth am yr heriau a’r peryg y mae merched a genethod yn wynebu mewn cyd-destun gwrywaidd fel y cae pêl-droed, ond hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr y Rhuban Gwyn: “Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn canolbwyntio ar yr agwedd a'r ymddygiad y gall dynion a bechgyn fabwysiadu er mwyn symud oddi wrth ymddygiad treisgar.

"Mae dynion a bechgyn nawr yn disgwyl gwell gan eu cydweithwyr, ffrindiau a theulu yn sicrhau bod merched a genethod yn ddiogel. Rydym yn eich gwahodd chi i wisgo Rhuban Gwyn gan wneud adduned y Rhuban Gwyn   i beidio â chyflawni, esgusodi neu gadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn merched."

Ychwanegodd, "Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn syrthio ar yr un wythnos a lansio Cwpan y Byd FIFA i ddynion.  Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni ganolbwyntio ar y lles gall ddod o uno a chefnogi achos.  Mae #TheGoal yn gwneud hynny, mae'n dod â dynion a bechgyn at ei gilydd i drafod sut y gall gwneud gwahaniaeth positif  gael cydraddoldeb a diogelwch i ferched a genethod.”

Gwefan: www.whiteribbon.org.uk#