Skip to main content

CHTh yn falch o barhau cymorth i ddioddefwyr yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'i Ddirprwy, Wayne Jones i ymweld â Swyddfa Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy i ddysgu mwy am eu gwaith yn y gymuned, am bwysigrwydd derbyn arian pellach o swyddfa'r CHTh ar gyfer y gwaith a chyfarfod y tîm sy'n gweithio i sicrhau fod gan ddioddefwyr trosedd ledled Gogledd Cymru rywle i droi am gymorth pan maent ei angen.

Mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, a gyflenwir gan yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr yn siop un stop ar gyfer dioddefwyr ledled Gogledd Cymru.  Wedi i atgyfeiriad gael ei wneud, bydd Swyddog Cymorth Dioddefwr yn cysylltu â'r dioddefwr i ofyn iddynt am eu profiad, ac i ddarganfod pa gymorth sydd ei angen a'r dewisiadau sydd ar gael. Gellir rhoi cefnogaeth dros y ffôn, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb. Gall unrhyw un sy'n dioddef trosedd neu ddigwyddiad trawmatig gael cefnogaeth o'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr. Os yw rhywun yn dewis riportio i Heddlu Gogledd Cymru, gallant gyfeirio'r person hwnnw i'r Ganolfan Gymorth.  Gall dioddefwyr hefyd gyfeirio eu hunain os nad ydynt yn dymuno riportio’r digwyddiad i'r heddlu.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ariannu'r gwasanaeth fel rhan o'i gwaith i wneud Gogledd Cymru'n fwy diogel i drigolion. Mae hefyd yn adlewyrchu'r Cynllun Heddlu a Throsedd a gyhoeddwyd y llynedd, sy'n amlinellu ei weledigaeth i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau ledled Gogledd Cymru.  Mae'r adnewyddu cytundeb yn ddiweddar yn sicrhau gwasanaethau'r Ganolfan ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnwys sawl maes lle mae mwy o ddarpariaeth i ddioddefwyr.

Mae'r ganolfan yn cynnwys arbenigwyr gweithwyr achos fel cam-drin domestig, iechyd meddwl a lles, twyll, caethwasiaeth fodern a throseddau difrifol, yn ychwanegol i'r maes mwyaf diweddar - gweithiwr achos plant a phobl ifanc.  Mae gan y ganolfan hefyd dîm o staff wedi eu hyfforddi sy'n gallu cefnogi pobl sydd wedi dioddef troseddau o bob math fel lladrad, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymosodiadau. Mae staff y ganolfan yn cael help pellach gan wirfoddolwyr sy'n helpu dioddefwyr ar draws gogledd Cymru. Ers i'r ganolfan agor yn 2015 mae wedi helpu dros 6,500 o ddioddefwyr bob blwyddyn.

Yn ystod ei ymweliad, clywodd Andy Dunbobbin am y cyffro ynghylch adnewyddu’r cytundeb, y problemau y mae'r dioddefwyr yn eu hwynebu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol a rheoli'r Ganolfan. Siaradodd Andy hefyd hefo gweithwyr achos unigol am eu meysydd arbenigedd penodol. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy. Dwi'n falch bod fy swyddfa unwaith eto wedi gallu helpu ariannu y gwaith gwerthfawr ar ran dioddefwyr yng Ngogledd Cymru.

"Er mai fy rôl i fel CHTh ydy gweithredu fel llais y bobl ym maes plismona, mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn enghraifft arall o'r gwaith mae fy nhîm a minnau hefyd yn ei wneud wrth ariannu gwasanaethau sy'n cynnig cyngor a help i bobl ledled Gogledd Cymru. Yn ogystal â hyn, mae gan fy nhîm rôl allweddol hefyd wrth graffu ar waith y gwasanaethau hyn fel eu bod yn cynnig gwerth am arian ac ansawdd darpariaeth ardderchog i bobl yr ardal.

"Dwi hefyd yn falch o weld y twf a'r amrywiaeth yn y tîm yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, hefo mwy o help arbenigol mewn meysydd trosedd penodol. Mae hyn yn golygu bod y dioddefwr yn sicr o gyngor arbenigol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, ac y gall pobl yng Ngogledd Cymru wybod, os bydd y gwaethaf yn digwydd, bod rhywun yno i helpu yn unol â'r flaenoriaeth yn fy nghynllun i frwydro yn erbyn troseddau yng Ngogledd Cymru ac o gefnogi dioddefwyr a chymunedau ble bynnag y maen nhw."

Dywedodd Jessica Rees, Rheolwr Ardal Cymorth Dioddefwyr: “Rydym wrth ein bodd o gael y cyfle i barhau i roi cymorth i ddioddefwyr troseddau yng Ngogledd Cymru. Bydd ein gwasanaeth arbenigol yn gweld gweithwyr achos sy'n deall yr ardal leol yn teilwra cefnogaeth i anghenion unigol pobl. Fel elusen annibynnol, gall dioddefwyr gael mynediad i'n gwasanaethau p’un ai ydynt wedi riportio digwyddiad i'r heddlu ai peidio. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyflenwi'r gefnogaeth orau posib i ddioddefwyr."

Er mwyn gwybod mwy am y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, ewch ar: Gogledd Cymru - Cymorth Dioddefwyr