Dyddiad
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Ddolgellau i weld sut mae gwasanaeth plismona symudol yn gwneud yn siŵr bod gan gymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru fynediad gwell i gefnogaeth gan yr heddlu a'u bod yn gwybod ble i fynd pan fyddant yn dioddef trosedd.
Mae'r cerbyd newydd hwn yn cynnig safle amlwg i Heddlu Gogledd Cymru a SCCH i ymgysylltu yn effeithiol gyda chymunedau Gogledd Cymru a chynnig gorsaf heddlu symudol. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio i ffwrdd oddi orsaf am gyfnodau hirach o amser, yn ogystal â gallu gwahodd y cyhoedd i mewn am gyfarfodydd neu benderfyniadau cyffredinol.
Mae'r cerbyd wedi cael ei ariannu ar y cyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru ac wedi ei addurnod gyda symbolau'r heddlu fel pob cerbyd Gwasanaethau Plismona'r Heddlu, sy'n golygu eu bod hi'n hawdd i'r cyhoedd ei adnabod fel cerbyd heddlu. Mae hefyd yn cynnwys logo'r Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd:
Serch hynny, yn wahanol i gerbydau eraill yr heddlu, mae hwn yn cynnig nifer o gyfleusterau sy'n golygu bod cymunedau gwledig yn gallu cwrdd â staff yr heddlu a mynegi eu barn mewn awyrgylch groesawgar, gyfeillgar a phreifat. Mae'n cynnwys bwrdd i bedwar, cegin fach, pwyntiau gwefru ar gyfer gliniaduron a ffonau, llwybrydd WI-Fi, gwres, golau ac adlen ychwanegol yn cynnig cysgod rhag y tywydd a gofod ychwanegol y tu allan.
Bu'r cerbyd yn ymweld â Maes Parcio'r Marian yn Nolgellau ar gyfer sesiwn ymgysylltu gyda'r gymuned ac i godi ymwybyddiaeth o system gymunedol Heddlu Gogledd Cymru. Yn ystod ei ymweliad, mi wnaeth Andy Dunbobbin gwrdd â SCCH Jason Jones, Mark Holland, Gill Duffy-Williams, Delyth Edwards a'r Rhingyll Simon Barlow o Heddlu Gogledd Cymru; Paul Williams, Swyddog Diogelwch Cymunedol NWFRS; Arwel Williams, Gwasanaeth Tai ADRA; a John Raghoobar, Maer Cyngor Tref Dolgellau.
Yn dilyn ei ymweliad â'r cerbyd newydd bu'r Comisiynydd yn cerdded o gwmpas Canolfan Dref Dolgellau gyda’s Maer i drafod materion plismona yn yr ardal.
Rhan allweddol o fanifesto'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyn ei ethol oedd darparu mwy o heddlu a gwella plismona gweledol er mwyn cynnig sicrwydd, casglu gwybodaeth a tharfu ar weithgareddau troseddol. Yn y Cynllun Heddlu a Throsedd a ddilynodd ei etholiad, mi wnaeth Andy Dunbobbin hefyd ymroi i gefnogi dioddefwyr a chymunedau a chyflawni cymdogaethau diogelach gan glustnodi cymunedau gwledig fel meysydd allweddol ar gyfer eu cyrraedd. Mae'r cerbyd newydd yn rhan allweddol o'r strategaeth hon.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymweld â'r Dolgellau i weld y cerbyd ymgysylltu newydd a'r orsaf heddlu symudol ac i gwrdd â swyddogion a staff sy'n gweithio'n galed i'w wneud yn bosib. Dw i'n credu mewn gwneud plismona’n hygyrch i'n holl gymunedau ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig i rai sy'n bell oddi wrth yr Orsaf Heddlu agosaf.
Gyda'r cerbyd newydd hwn, bydd cymunedau lleol ar draws Gwynedd a Môn yn gallu cael mynediad i wasanaethau plismona ar eu stepen drws, a chael mwy o gefnogaeth a chyngor oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn eu cadw nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel rhag trosedd."
Dywedodd Rhingyll Simon Barlow, Gwasanaethau Plismona Lleol, Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser cynorthwyo'r Comisiynydd i Ddolgellau ac i ddangos iddo'r cerbyd newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth pwysig yn y modd yr ydym yn gwasanaethu ardaloedd gwledig ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. Mae'r cerbyd yn golygu yr ydym yn gallu cwrdd â phobl yn eu cymunedau eu hunain ac yn helpu sicrhau bod plismona yn dod yn agosach at y gymuned. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU, a rhan o hynny yw gwneud yn siŵr ein bod mor hygyrch â phosib i drigolion ac ymwelwyr i'r ardal. Roedd ein sesiwn yn Nolgellau yn enghraifft wych o'r amcan hwn."
Bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio yn ardaloedd Ynys Môn, Gogledd Gwynedd a De Gwynedd ac yn cael ei reoli gan dimau plismona'r gymuned. Yn ogystal â gwasanaethu cymunedau lleol yn rheolaidd bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ystod wythnosau yn y gwyliau pan fydd llawer o bobl yn ymweld â'r ardaloedd hyn ac hefyd mewn digwyddiadau, sesiynau recriwtio a gweithrediadau plismona eraill.
Gall y trigolion ganfod ble y bydd y cerbyd newydd ym ymweld drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gogledd Cymru drwy Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru, y gwasanaeth negeseuon rhad ac am ddim i bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gogledd Cymru. Cofrestrwch yma: Hafan - Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru