Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae cronfa arloesol yn dod ag Angylion i strydoedd Gogledd Cymru

Dyddiad

ROC Street Angels

Ar nos Iau 19 Ionawr, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, i ddigwyddiad recriwtio ar gyfer menter newydd sy'n anelu cynorthwyo pobl fregus yn economi nos y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno. Mae prosiect yr Angylion Stryd yn bwriadu lansio dros y Pasg. Roedd y digwyddiad yn Antioch Bae Colwyn yn gweld gwirfoddolwyr posibl yn dod i noson agored er mwyn dysgu mwy am y cynlluniau a'r hyfforddiant sydd ar gael, holi cwestiynau a gweld sut allent gymryd rhan. 

Mae'r Angylion Stryd yn wirfoddolwyr lleol sy'n rhoi cymorth i bobl ar noson allan, fel clust i wrando, pâr o fflip-fflops i'r rhai hynny sy'n methu cerdded mewn esgidiau anghyfforddus, cymorth cyntaf sylfaenol ac eitemau a chyngor i gynorthwyo atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nodwyd yr angen am Angylion Stryd yn yr ardal mewn cyfarfod yn Nhywyn fis Medi 2022. Trefnir y prosiect ledled tair tref gan ROC (Redeeming Our Communities). Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi dod o fenter Arloesi i Dyfu'r Comisiynydd, sy'n cynorthwyo ffyrdd newydd ac arloesol o ddatrys y problemau a all arwain yn aml at ymddygiad troseddol mewn cymunedau. Bydd yr arian yn mynd tuag at hyfforddi, darparu a gweinyddu'r Angylion wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn wych cael clywed mwy am gynlluniau Angylion Stryd ROC er mwyn cynnig cymorth i bobl yn y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno. Mae lletygarwch a'r economi nos yn hanfodol i'n hardal leol, ond mae'n bwysig fod pobl yn gallu mwynhau eu hunain mewn ffordd ddiogel. Rwyf yn fodlon y gwnaiff Angylion Stryd ROC gynorthwyo cadw pobl fregus y gymuned yn ddiogel ar noson allan.

"Rwyf yn benderfynol o gynorthwyo prosiectau cyffrous, arloesol a buddiol i gynorthwyo ymdrin â throseddau ar draws y rhanbarth. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol sy'n meddwl ac yn gweithredu mewn ffyrdd amrywiol er mwyn atal troseddu rhag digwydd. Cyflwynodd Angylion Stryd ROC gynnig cryf ac uchelgeisiol ynghylch sut maent yn dymuno cael dylanwad a chynorthwyo cymunedau yng Ngogledd Cymru. Y ffordd orau i wneud hyn ydy atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Gall cynnig cymorth i bobl ar noson allan fel mae'r Angylion Stryd yn ei wneud fod yn ffordd o sicrhau nad ydynt yn dod ar draws unrhyw drosedd yn hwyrach tra maent mewn cyflwr bregus neu ofidus. Hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant yn derbyn cyllid drwy'r fenter Arloesi i Dyfu.

"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn ymroi i gyflawni cymdogaethau mwy diogel yng Ngogledd Cymru, i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol i bawb. Buaswn yn annog unrhyw sefydliad sy'n meddwl eu bod yn gweddu i feini prawf  Arloesi i Dyfu i gysylltu ac ymgeisio, fel y gallent weithredu gyda ni er mwyn ychwanegu at eu gwaith gwych a chyflawni Gogledd Cymru mwy diogel rydym ni gyd yn dymuno ei weld."

Dywedodd Paul Blakey MBE, sylfaenydd yr Angylion Stryd: "Dechreuodd yr Angylion Stryd yn 2005 yn Halifax fel ymateb i anghenion a phroblemau ar nos Wener a nos Sadwrn yng nghanol y dref. O fewn deuddeg mis roedd gostyngiad o 42% mewn troseddau treisgar. Daeth Angylion Stryd yn fodel arfer gorau sydd wedi ysbrydoli dros gant o brosiectau lleol sy'n gweithio ar y strydoedd, tu mewn i dafarndai a chlybiau, mewn gwyliau cerddorol, o fewn cymunedau a thrwy gaplaniaeth. Mae Angylion Stryd yn ymateb i broblemau lleol gyda'r eglwys a'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn cynnig ymateb rheng flaen ymarferol."

Dywedodd y Prif Arolygydd Jeff Moses o Uwch Dîm Rheoli Plismona Lleol: "Mae gan gynllun yr Angylion Stryd fanteision clir wrth gadw ein strydoedd yn fwy diogel a gwneud pobl deimlo'n fwy diogel, sy'n bwysig. Yn digwydd bod, ni sydd hefo'r cyfraddau trosedd isaf yn y DU. Ond mae bob trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd yn creu dioddefwyr. Gall yr effeithiau niweidiol fod yn sylweddol i'r bobl hynny. Bydd y cynllun yn ein cynorthwyo ni leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd yn lleihau'r nifer o droseddwyr sy'n dod i'r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn ddiolchgar i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ddyrannu arian grant er mwyn gallu sefydlu'r cynllun."

Mae'r fenter Arloesi i Dyfu yn ategu'r blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd â'i ymdriniaeth o Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o brosiectau sy'n gymwys i gael cymorth Arloesi i Dyfu yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. Y peth mwyaf pwysig yw eu bod yn cynnig dulliau newydd a dyfeisgar o ddatrys y problemau a all arwain at droseddu.

Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun Arloesi i Dyfu er mwyn cynorthwyo prosiectau hyd at flwyddyn, gyda'r pwyslais ar arloesi. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ar draws dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000.

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Arloesi i Dyfu ac am sut i ymgeisio, ewch ar wefan SCHTh.


Ceir mwy o wybodaeth ar yr Angylion Stryd ar www.streetangels.org.uk/angylionystryd