Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymgysylltu gyda ffermwyr ifanc ledled Gogledd Cymru

Dyddiad

YoungFarmersEvent

Yn ddiweddar, gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc ledled Gogledd Cymru ledled Gogledd Cymru er mwyn cyfarfod a phobl ifanc sydd ynghlwm, arddangos pa offer a thechnoleg sydd ar gael i'r Heddlu, a chlywed unrhyw bryderon ac ateb cwestiynau gan y cyhoedd. Roedd hefyd yn gyfle i ddangos ymrwymiad Heddlu Gogledd Cymru ac Andy Dunboobin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, i sicrhau diogelwch ein cymuned wledig ledled y rhanbarth. 

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yn rhan bwysig o fywyd gwledig ledled y wlad. Mae'r Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc yn dweud fod y clybiau rhoi 'cyfle unigryw' i'w 22,000 o aelodau 10 i 28 oed 'ddatblygu sgiliau, gweithio gyda'u cymunedau lleol, teithio dramor, cymryd rhan mewn rhaglen cystadlaethau amrywiol a mwynhau bywyd cymdeithasol dynamig.' Mae 581 o glybiau yng Nghymru a Lloegr wedi ymroi i gynorthwyo pobl ifanc mewn amaethyddiaeth a chefn gwlad. [1]

Bu'r digwyddiadau ymgysylltu dros dair noson (20 a 27 Medi a 4 Hydref) yn y Ganolfan Cyfathrebiadau ar y Cyd yn  Llanelwy, sef prif ganolfan alwadau gwasanaethau brys ledled Gogledd Cymru. 

Gwnaeth Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, sydd wedi gwneud trechu troseddau cefn gwlad yn elfen greiddiol o'i Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y rhanbarth, fynd i'r digwyddiad ar 27 Medi. Croesawodd swyddogion bron i 40 o bobl ifanc o Glybiau Ffermwyr Ifanc o Lansannan a Betws yn Rhos. Gwelodd nosweithiau eraill bobl ifanc yn dod mor bell â Llangollen a Cherrigydrudion, gyda thros 100 yn dod i'r tri digwyddiad.

Gwelodd y Ffermwyr Ifanc arddangosfeydd a chyflwyniadau dangos a dweud gan swyddogion o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad, y Gynghrair Arfog (tîm ymateb drylliau tanio Heddlu Gogledd Cymru, sy'n gweithredu ar y cyd gyda Heddlu Swydd Gaer), y Tîm Rhwystro, yr Uned Plismona Ffyrdd a'r Tîm Dronau. Yn dilyn hyn roedd sgwrs gan staff o'r Gwasanaethau Cyfiawnder am beth o'r gwaith sy'n digwydd tu ôl i'r llenni, ynghyd a chyflwyniad a thaith o'r cyfleusterau gan dîm yr Ystafell Reoli, lle mae'r staff sy'n ateb galwadau brys gan y cyhoedd wedi'u lleoli. 

Roedd problemau a godwyd gan y Ffermwyr Ifanc gyda swyddogion yn cynnwys dwyn beiciau pedair olwyn o ffermydd a sut i warchod eiddo fferm, troseddau bywyd gwyllt fel rhai gydag adar ysglyfaethus, ac ymosodiadau gan gŵn ar dda byw.  Anogwyd y ffermwyr hefyd i ymuno a chynllun Gwarchod Ffermydd Heddlu Gogledd Cymru, sydd bellach yn cwmpasu dros 800 o ffermydd ledled Gogledd Cymru. 

Dywedodd yr Arolygydd Simon Evans, Heddlu Gogledd Cymru, a drefnodd y digwyddiadau ymgysylltu: "Yn Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn cydnabod pa mor bwysig ydy ymgysylltu gyda'n cymunedau cefn gwlad, ac yn enwedig pobl ifanc, er mwyn sicrhau ei bod yn gwybod at le i droi pan mae trosedd yn digwydd.  Mae hefyd yn hanfodol eu bod yn gwybod ein bod yma i'w cynorthwyo a'u gwarchod nhw a'u bywoliaeth. Roedd yn bleser gweithio gyda'r Clybiau Ffermwyr Ifanc lleol a'u gwahodd nhw i weld y gwaith rydym yn ei wneud. Roeddwn yn falch o'r diddordeb a'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan y bobl ifanc."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae ymdrin ac atal troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn rhan hanfodol o'm cynllun plismona yng Ngogledd Cymru ac rwyf yn benderfynol o wrando a gweithredu ar bryderon y gymuned gefn gwlad.  Roeddwn yn falch iawn o weld Heddlu Gogledd Cymru yn ymgysylltu gyda ffermwyr yfory a dangos pa mor ddifrifol rydym yn cymryd diogelwch y ffermydd, tyddynnod, a chefn gwlad Gogledd Cymru."


[1]FfCCFfI – Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno a'r Cynllun Gwarchod Ffermydd, ewch i: https://www.rhybuddcymunedolgogleddcymru.co.uk/