Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae pobl ifanc Sir y Fflint yn fwy bywiog, diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr

Dyddiad

Dyddiad
Aura multi sports

Ar 26 Medi, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ag Ysgol Uwchradd y Fflint, i weld sut mae sesiynau chwaraeon cymunedol yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc, drwy ddefnyddio arian a gymerwyd  oddi ar droseddwyr.

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal gan Aura a mae’r prosiect, o’r enw Canolfan Chwaraeon Cymunedol, yn cynnwys pêl-droed, badminton, bocsio, dawns a gweithgareddau aml-chwaraeon ar draws y Fflint, Glannau’r Dyfrdwy, Treffynnon a Chaerwys.

Mi dderbyniodd Aura fuddsoddiad  ar gyfer sesiynau yng Nglannau’r Dyfrdwy fel rhan o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, sy’n cynorthwyo prosiectau llawr gwlad,  gyda chefnogaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), a Heddlu Gogledd Cymru.

Mae buddsoddiad Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol o arian a’i hatafaelwyd drwy’r llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau 2002, efo’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Dros yr un mlynedd ar ddeg ers i Eich Cymuned, Eich Dewis ddechrau, mae bron i £600,000 wedi ei wobrwyo i bron i 200 o brosiectau sy’n gweithio i leihau trosedd yn eu cymdogaethau, ac i gynorthwyo blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Tra yn Ysgol Uwchradd y Fflint, ‘roedd CHTh Andy Dunbobbin yng nghwmni Dave Evans o PACT, ac mi wnaethon nhw gyfarfod efo Josh McEwan a Bethan Daly o Aura, er mwyn trafod y prosiect efo nhw. Mi welodd yr ymwelwyr gydweithwyr Aura eraill, oedd yn gweithio efo’r pobl ifanc oedd yn mynychu’r Hyb Chwaraeon Cymunedol, oedd yn cymryd rhan mewn gwersi gymnasteg o dan do, a phêl-droed y tu allan ar y maes 4G. Gallai’r niferoedd yn mynychu’r sesiwn yn y Fflint fod hyd at 30 o bobl ifanc lleol, ac ‘roedd y pobl ifanc i gyd yn frwdfrydig am y gweithgareddau gwych ‘roedd y tîm yn darparu, a faint ‘roedd yn ei olygu iddyn nhw. Mi soniodd rhai o’r bechgyn oedd yn chwarae pêl-droed – Toby, Fin, Lyle a Bailey – am y budd ‘roedden nhw’n ei gael o’r sesiynau, sy’n eu galluogi i weld eu ffrindiau a chael hwyl. Mi ychwanegodd y bechgyn mai eistedd adref yn chwarae gemau ar gyfrifiadur buasen nhw’n ei wneud, a dim llawer o bethau i’w gwneud ar ôl yr ysgol, oni bai am y gweithgareddau ar gael.

Dywedodd Josh McEwan, Cydlynydd Chwaraeon Ysgolion a’r Gymuned: “’Da ni wrth ein boddau i dderbyn y rhodd drwy gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae’r arian wedi ein helpu ni i gynorthwyo pobl ifanc Sir y Fflint, drwy ddarparu cyfleodd i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau, mewn amgylchedd hwyliog, atyniadol a diogel, tra hefyd yn helpu i fynd i’r afael  ag unrhyw faterion neu beryglon sy’n wynebu bobl ifanc  ar hyn o bryd. ‘Da ni’n hapus iawn i groesawu’r ymwelwyr ac i ddangos iddyn nhw’r gwahaniaeth mae’r buddsoddiad yn ei wneud i bobl ifanc Sir y Fflint.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “’Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Uwchradd y Fflint i weld sut mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn  cynorthwyo pobl ifanc yn Sir y Fflint. Mae bod yn  heini a chael hwyl yn ran bwysig iawn o fod yn berson ifanc, ac mae’n helpu i fagu cyfeillgarwch, sgiliau a hyder, sy’n aros efo ni wrth i ni dyfu. Mae’r prosiect yn esiampl o elfen allweddol o fy mlaenoriaeth i hybu cymdogaethau mwy diogel ar draws Gogledd Cymru, drwy ddarparu gweithgareddau cadarnhaol i bobl ifanc. Fel preswyliwr lleol, a hefyd fel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ‘dwi’n ymwybodol yn barod o’r gwaith mae Aura wedi ei wneud yng nghymunedau ledled Sir y Fflint, a ‘dwi’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn parhau i dyfu.”

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Bwriad Eich Cymuned, Eich Dewis ydy i greu cyfleodd i bawb, ac i ddathlu be’ sy’n ein gwneud yn gryf fel cymuned. Mae’r ffaith bod arian Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod oddi wrth enillion trosedd hefyd yn golygu bod pobl yn gweld cyfiawnder ar waith yn eu cymdogaeth. ‘Dwi wrth fy modd bod Aura wedi medru cynnal y sesiynau chwaraeon cymunedol ar draws Sir y Fflint, a bod Eich Cymuned, Eich Dewis wedi medru eu helpu ar eu cennad i wasanaethu’r bobl ifanc leol, ac i annog ffordd iach o fyw.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans: “Mae chwaraeon yn ffordd ardderchog i bobl ifanc gadw’n heini ac i gyfeirio eu hegni tuag at nod sy’n gadarnhaol ac yn magu hyder. Mae hefyd yn medru lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy ymgysylltu pobl ifanc mewn gweithgareddau hwyliog sy’n rhoi boddhad. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i weithio efo pobl ifanc a’u cymunedau, i greu Gogledd Cymru mwy diogel, ac ‘da ni wrth ein bodd  yn cefnogi prosiect chwaraeon Aura, yn enwedig gan ei bod yn ymwneud â dychwelyd enillion trosedd yn ôl i’r cyhoedd.”

Am ragor o wybodaeth am PACT, ewch i: www.pactnorthwales.co.uk

Am ragor o wybodaeth am Aura, ewch i: www.aura.wales