Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae Y Bont yn cau'r gagendor rhwng bywyd yn y carchar a bywyd teulu i ferched yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Aeth Andy Dunbobbin i Benygroes i weld sut mae elusen Y Bont yn helpu merched Gogledd Cymru sy'n gadael y carchar ac yn rhoi cymorth iddynt i ddychwelyd at fywyd teuluol.

Y Bont

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru i bencadlys Y Bont ym Mhenygroes ar 8 Rhagfyr i weld sut mae arian o'i fenter Arloesi i Dyfu yn cynorthwyo i helpu merched a'u teuluoedd yn cael eu heffeithio gan garchar yng Ngogledd Cymru.

Mae'r prosiect o'r enw Cwlwm yn cael ei arwain gan Y Bont, i ateb anghenion plant a phobl ifanc sydd am ba bynnag reswm wedi eu gwahanu - neu sydd mewn perygl o gael eu gwahanu - oddi wrth eu teuluoedd ac i roi cefnogaeth iddynt.

Nod y prosiect Cwlwm yw cynnig cyfle i bob merch yng Ngogledd Cymru sy'n gadael Carchar Styal yn Swydd Gaer i gael mynediad i Wasanaeth Datrys Gwrthdaro Y Bont fel y gallant greu cysylltiadau ar ôl gadael y carchar a gwneud trefniadau byw ar gyfer eu plant.

Bydd pob merch sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn gallu cael mynediad i Gynhadledd Grŵp Teulu'r Bont (FGC) a'r gwasanaeth cyfryngu i helpu hwyluso'r cynlluniau ar gyfer y plant.  Cyfarfod yw FGC ble mae teuluoedd yn gwneud cynlluniau a phenderfyniadau am blentyn neu oedolyn. Mae gwerthoedd ac egwyddorion FGC a chymodi yn seiliedig ar adnabod cryfderau'r teulu a thrwy wneud hyn mae'r Bont yn rhoi hyder i deuluoedd, yn hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd ac yn galluogi'r teulu i helpu'r ferch a'i phlant.

Mae'r gwasanaeth sy'n gyfan gwbl ddwyieithog yn cysylltu â phob merch o Ogledd Cymru sydd yng Ngharchar Styal. Mae cynrychiolwyr o'r Bont yn ymweld â'r carchar yn fisol i gynnal sesiwn galw i mewn ar gyfer y merched a gwneud cofnod o'r rhai a fydd ar lwybr i adael Styal ac a fyddai'n dymuno gwneud cynlluniau ar gyfer eu plant.

Yn ystod ei amser ym Mhenygroes cyfarfu Andy Dunbobbin â staff ac ymddiriedolwyr a chafodd ddiweddariad ar brosiect Cwlwm a gwaith pellach Y Bont. Yn bresennol o’r Bont roedd Gwyn Hefin Jones, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr; Val Owen, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Mel Phillips, Cydlynydd FGC a Maureen Japp, Rheolwr y Prosiect.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Roedd hi'n ysbrydoledig gweld gwaith Y Bont a gweld sut y maent yn helpu a chefnogi teuluoedd i gadw'n gryf ac yn unedig yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf anodd pan fydd rhiant yn gorfod mynd i'r carchar. Mae'r gweithgareddau hefyd yn cefnogi fy Strategaeth Cyfiawnder i Ferched yn benodol ymgartrefu ar ôl dod allan o'r carchar a'r cyfleoedd sydd ar gael i ferched ar ôl iddynt gwblhau eu dedfryd.

"Rwyf yn benderfynol o gefnogi prosiectau cyffrous, dyfeisgar a gwerthfawr i helpu mynd i'r afael â throseddau ac eithrio ar draws yr ardal. I wneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi mewn prosiectau ar lefel gymunedol sy'n meddwl ac yn gweithredu mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar i atal troseddu ac ail-droseddu.  Mi wnaeth Y Bont wneud cais cryf ac uchelgeisiol o gwmpas sut y maent yn dymuno gwneud gwahaniaeth a chryfhau'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw. Hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant yn derbyn cyllid drwy'r fenter Arloesi i Dyfu.

"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn ymroi i gyflawni cymdogaethau mwy diogel yng Ngogledd Cymru, i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol i bawb. Buaswn yn annog unrhyw sefydliad sy'n meddwl eu bod yn gweddu i feini prawf  Arloesi i Dyfu i gysylltu ag ymgeisio, fel y gallant weithredu gyda ni er mwyn ychwanegu at eu gwaith da a chreu’r cymdogaethau diogelach rydym i gyd yn dymuno eu gweld."

Dywedodd Maureen Japp, Rheolwr Prosiect Y Bont: "Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yma i weld Y Bont ac i weld ein gwaith.  Gobeithio mai canlyniad prosiect Cwlwm yw cyfathrebu gwell rhwng teuluoedd a chynlluniau diogel a meddylgar ar gyfer bywyd teulu. Rydym yn credu bod iechyd meddwl a llesiant mamau sy'n gadael y carchar yn gwella pan fyddant yn rhan o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'u plant."

Mae Y Bont wedi bod yn rhedeg Gwasanaeth FGC ers 1994 a Gwasanaeth Cyfryngu ers 2010. Maent yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Theuluoedd yn Gyntaf yn darparu gwasanaethau i deuluoedd yn cynnwys atal yn ystod cyfnodau cynnar anghenion gofal ac ymyrraeth pan fydd plant yn y system ddiogelu neu mewn gofal.

Mae'r fenter Arloesi i Dyfu yn ategu'r blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd â'i ymdriniaeth o Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru.   Mae enghreifftiau o brosiectau sy'n gymwys i gael cymorth Arloesi i Dyfu yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod.  Y peth mwyaf pwysig yw eu bod yn cynnig dulliau newydd a dyfeisgar o ddatrys y problemau a all arwain at droseddu.

Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun Arloesi i Dyfu i gefnogi prosiectau hyd at flwyddyn, gyda'r pwyslais ar fentergarwch.  Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ar draws dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,00

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Arloesi i Dyfu ac am sut i ymgeisio, cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth am Y Bont ewch i: https://www.bont.org.uk/en/