Dyddiad
Mae prosiect cymunedol yn Sir y Fflint yn dod a'r gymuned at ei gilydd drwy gerddoriaeth er mwyn cynorthwyo i ddarfod unigedd a herio Trosedd Casineb
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru i Siop Hipi RainbowBiz yn yr Wyddgrug ar 17 Tachwedd. Roedd hyn er mwyn gweld sut mae cyllid o'i fenter Arloesi i Dyfu yn cynorthwyo prosiect er mwyn cynorthwyo trigolion sy'n dioddef unigedd, wedi profi Trosedd Casineb, neu sy'n cael trafferth ymdopi gyda'u hiechyd meddwl.
Mae'r prosiect, o'r enw Musical Mates, wedi'i greu gan y tîm tu ôl i RainbowBiz C.I.C a Siop Hipi RainbowBiz yn deillio o anghenion amrywiol y bobl mae'r sefydliad yn ei gynorthwyo. Yn ystod y pandemig, roedd llawer o'r bobl a gynorthwywyd gan y sefydliad yn cael trafferth ymdopi oherwydd bod llawer ohonynt eisoes yn unig cyn y pandemig, ac oherwydd eu bod yn aml yn fwy mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl a chael eu cam-drin. Gall hyn fod drwy uniaethu fel aelodau o grwpiau lleiafrifol o fewn y gymuned, fel LHDT+, o allu gwahanol, neu o grŵp ethnig lleiafrifol.
Nod Musical Mates ydy herio Trosedd Casineb yn Sir y Fflint drwy ddod a phobl at ei gilydd o amrywiol gefndiroedd a hunaniaethau, i gyd gyda galluoedd cymysg yn feddyliol a chorfforol. Mae'r grŵp yn cynnig lle diogel i unigolion ddysgu am ei gilydd gyda chanolbwyntio ar gerddoriaeth, creu a therapi. Mae amrywiol offerynnau cerddorol y gall pobl ddewis eu chwarae, un ai fel rhan o grŵp neu ar eu pen eu hunain os ydynt yn cael trafferth ymdopi gyda gorbryder o amgylch pobl eraill. Mae'r cyllid o gronfa Arloesi i Dyfu'r CHTh wedi cynorthwyo talu am yr offerynnau cerddorol a ddefnyddir yn y prosiect.
Tra yn y siop, gwnaeth y CHTh gyfarfod Sarah Way ac Ian Forrester, Cyfarwyddwyr o RainbowBiz CIC. Siaradodd â chyfranogwyr yn y prosiect. Clywodd hefyd sut mae cerddoriaeth yn eu cynorthwyo nhw i gysylltu gyda'u cyfoedion a'u cymuned leol.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn braf iawn gweld sut mae sefydliadau lleol fel RainbowBiz yn cynorthwyo eu cymunedau lleol. Hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant wrth gael cyllid drwy'r fenter Arloesi i Dyfu.
"Rwyf yn benderfynol o gynorthwyo prosiectau cyffrous, arloesol a gwerth chweil er mwyn cynorthwyo i ymdrin â throsedd a gwrthodiad ledled y rhanbarth. Er mwyn wneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi mewn prosiectau ar lefel gymunedol sy'n meddwl ac yn gweithredu mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar er mwyn atal trosedd o'r cychwyn. Cyflwynodd Rainbow Biz gynnig cryf ac uchelgeisiol ynghylch sut maent yn dymuno cael dylanwad a chryfhau'r gymuned maent yn gweithio ynddi.
"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn ymroi i gyflawni cymdogaethau mwy diogel yng Ngogledd Cymru. Mae'n cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol i bawb. Buaswn yn annog unrhyw sefydliad sy'n meddwl eu bod yn gweddu i feini prawf Arloesi i Dyfu i gysylltu ag ymgeisio, fel y gallent weithredu gyda ni er mwyn ychwanegu at eu gwaith da a chyflawni'r cymdogaethau mwy diogel rydym i gyd yn dymuno eu gweld."
Dywedodd Sarah Way, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr RainbowBiz CIC: "Mae'r cyllid hwn a oedd fawr ei angen wedi galluogi ein sefydliad i gynnig profiad mwy amrywiol i'r bobl rydym yn eu cynorthwyo. Mae gweld y llawenydd mae chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd mewn man diogel yn hynod braf ac yn rhywbeth mae'r tîm i gyd yn falch iawn ohono. Rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi'r cymorth rydym wedi'i dderbyn gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd."
Fel sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr, mae RainbowBiz wedi cyflawni llawer. Fe wnaeth ennill gwobr amrywiaeth a chynhwysiant cenedlaethol yn ddiweddar yng Nghaerdydd ar gyfer eu mentrau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR). Cafodd ei sefydlu yn 2015 fel Menter Gymdeithasol. Wedi sawl blwyddyn o fasnachu mewn digwyddiadau a gwyliau amrywiol, roeddent yn gallu agor eu safle eu hunain yn y Siop Hipi yn yr Wyddgrug yn 2017.
Mae'r fenter Arloesi i Dyfu yn ategu'r blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd â'i ymdriniaeth o Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o brosiectau sy'n gymwys i gael cymorth Arloesi i Dyfu yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. Y peth mwyaf pwysig yw eu bod yn cynnig dulliau newydd a dyfeisgar o ddatrys y problemau a all arwain at droseddu.
Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun Arloesi i Dyfu er mwyn cynorthwyo prosiectau hyd at flwyddyn, gyda'r pwyslais ar arloesi. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ar draws dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000.
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Arloesi i Dyfu ac am sut i ymgeisio, ewch ar: Gwefan SCHTh.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Musical Mates, cysylltwch ag Ian Forrester ar e-bost ar ian@rainbowbiz.org.uk