Skip to main content

CHTh yn gwobrwyo'r arwyr am wneud gwahaniaeth

Dyddiad

PCC Awards 2023

Cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ddydd Iau, 1 Mehefin, er mwyn dathlu'r bobl yn ein cymunedau ledled y rhanbarth sy'n gwasanaethu eu cymunedau ac yn cefnogi'r heddlu yn eu gwaith. 

Bu'r digwyddiad yn y Quay Hotel and Spa yn Neganwy a gwelwyd dros 100 o westeion yn dod at ei gilydd. Yn eu plith roedd aelodau o’r cyhoedd, yr heddlu, y gwasanaethau brys, gwleidyddion lleol a chenedlaethol, elusennau a'r trydydd sector ehangach yng Ngogledd Cymru.

Mae'r gwobrau yn cydnabod yr arwyr lleol sy'n aml yn ddisylw sy'n gweithio yn y cefndir er mwyn cynorthwyo dioddefwyr, adsefydlu a lleihau tebygolrwydd ac effaith trosedd ledled y rhanbarth.  Dewiswyd yr enillwyr gan swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr o Heddlu Gogledd Cymru. 

Noddwyd pob gwobr gan fusnesau a sefydliadau sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru. Cyfrannodd bob cwmni £2500 i'w roi'n uniongyrchol i'r enillwyr er mwyn eu galluogi i fuddsoddi ac i adeiladu ar eu gwaith caled yn y gymuned. Naddwyd enw pob enillydd, ynghyd ag enw'r noddwr, ar y tlws gwydr arbennig a gyflwynwyd ar gyfer bob categori gwobr gan y Comisiynydd. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae'r bobl a'r sefydliadau sy'n cael eu cydnabod yn fy Ngwobrau Cymunedol wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl, gan fynd y filltir ychwanegol i helpu, cefnogi, hyrwyddo cyfiawnder, dod â heddwch i deuluoedd, lleihau trosedd, cynghori a bod yno. Rwyf yn diolch iddynt am eu gwasanaeth, eu hymdrech a'u gofal. Mae ein cymunedau yn gyfoethocach ac yn gryfach oherwydd eu gwaith..”

Y rhestr lawn o enillwyr yw:

Pencampwr Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt - Y wobr wedi'i noddi gan Undeb Amaethwyr Cymru

Tir Dewi - Tîm Gogledd Cymru

Mae Tir Dewi yn sefydliad sy'n gweithio o fewn ein cymunedau  gwledig, yn cynnig cyngor a chymorth i amaethwyr a theuluoedd amaethwyr.  Mae'r cymorth hwn yn cwmpasu mathau gwahanol o broblemau gan gynnwys cyngor ymarferol neu gymorth cymheiriaid o ran iechyd meddwl, galar neu ynysu.

Dywedodd Llinos Angharad Owen, Rheolwr Cyfathrebu a Chodi Arian ar gyfer Gogledd Cymru, Tir Dewi; a Ceinwen Parry, Arweinydd Clybiau Ffermydd, Tir Dewi: "Mae ennill a derbyn y gydnabyddiaeth hon yn anrhydedd mawr nid yn unig i ni ond hefyd i Tir Dewi fel elusen.  Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Troseddau Cefn Gwlad wedi rhoi cyfle arbennig i weithio gyda’n gilydd a chreu perthynas agos iawn yn nhermau rhoi cymorth a chefnogi'r gymuned amaethyddol. Gobeithio y bydd y bartneriaeth yn parhau am flynyddoedd i ddod."

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig - Noddir y wobr gan Spillane & Co.

John Widdowson - Ymddiriedolaeth Gymunedol CCPD Wrecsam

Fel rhan o fenter Strydoedd Diogelach ehangach Wrecsam, mae Ymddiriedolaeth Gymunedol CCPD Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru. Roedd hyn er mwyn cyflawni cyfres o fentrau sy'n ceisio ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc ar ddyddiau gemau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref. 

Gwobr Gwirfoddoli - Noddir y wobr gan PMAS

Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru

Mae'r naw tîm sy'n aelodau o'r Gymdeithas yn gwneud gwasanaeth eithriadol i drigolion ac ymwelwyr yn y rhanbarth. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, atebodd timau achub gwirfoddol y rhanbarth 628 o alwadau. Rhoddwyd bron i 22,000 awr o amser aelodau'r tîm gwirfoddol i'r galwadau hyn.

Dywedodd Tim Radford, Cadeirydd, Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru: "Mae Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn cynrychioli timau achub mynydd, tiroedd uchel, ogofeydd a thimau cŵn ar draws Gogledd Cymru. Ni yw'r adran fwyaf prysur yn y wlad, gyda 300 o aelodau yn gwirfoddoli i chwilio ac achub ar ran Heddlu Gogledd Cymru ac mae'r berthynas rhyngom yn un ardderchog.

"Rydym yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth gan CHTh am ein gwaith dros y blynyddoedd. Mae'r wobr hon ar gyfer ein haelodau i gyd boed yn weinyddwyr, y rhai sy'n gwneud y te a'r rhai sy'n mentro mewn tywydd garw bob awr o'r dydd i helpu'r rhai mewn angen."

Gwobr Gwirfoddoli - Noddir y wobr gan Bier Llandudno

Nina Roberts

Wynebodd Nina hunllef waethaf unrhyw fam pan gyflawnodd ei merch hunanladdiad. Ond roedd yn benderfynol o gynorthwyo pobl eraill er cof am ei merch. Gwnaeth hyn drwy wella ymwybyddiaeth a'r cymorth sydd ar gael i'r teuluoedd a adawyd ar ôl.  Dechreuodd Nina Enfys Alice fel ei ffordd hi o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. 

Dywedodd Nina Roberts: "Mi wnaeth colli fy merch i hunanladdiad fy ninistrio.  Newidiodd bywyd mewn eiliad. Hyd yn oed pan fydd y gwaethaf yn digwydd, mae gennym ddewis sut i'w wynebu. Mi wnes i ddewis gwneud gwahaniaeth. 

"Roeddwn am helpu eraill gan weithio gyda'r gymuned i atal hunanladdiad, a phan fydd yn digwydd, sicrhau nad oes rhaid i neb ei wynebu ar ei ben ei hun ac i ddangos bod gobaith i gael hyd yn oed yn yr amgylchiadau gwaethaf. Rwyf yn hynod ddiolchgar o dderbyn y wobr hon fel mam Alice, ac yn arbennig o falch o'i dderbyn fel rhan o MonSAR. Rydym yn ddiolchgar am gael ein cydnabod am helpu eraill."

Gwobr Pencampwr Dioddefwr - Noddir y wobr gan Unite the Union

Paul Williams  

Tra allan yn siopa, gwelodd Paul Williams drosedd yn erbyn dioddefwr ifanc.  Heb betruso, heriodd a daliodd Paul yr un o dan amheuaeth.  Fe ddywedodd wrth yr un o dan amheuaeth yr hyn roedd wedi'i weld ac aeth ag ef at y swyddogion diogelwch lle galwyd yr heddlu.   Cafodd yr un o dan amheuaeth eu harestio wedyn.

Dywedodd Paul Williams: "Rwy'n falch o dderbyn yr anrhydedd gan ei fod yn hollol annisgwyl. Mi wnes i'r hyn oedd yn teimlo'n iawn ar y pryd ac rwyf yn falch ei fod wedi bod o help."

Gwobr Pencampwr y Gymuned - Noddir y wobr gan No1 CopperPot Credit Union

Daniel Andrews - Prif Hyfforddwr, Clwb Bocsio Ieuenctid y Rhyl

Mae Daniel Andrews yn un o brif hyfforddwyr Clwb Bocsio Ieuenctid y Rhyl sydd wedi'i sefydlu ers blynyddoedd.  Mae'r clwb wedi'i leoli yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Ngogledd Cymru ac mae wedi bod yn le i bobl ifanc fregus fynd a rhoi rhywbeth i ganolbwyntio arno, dod yn heini a chyflwyno disgyblaeth a strwythur i'w bywydau.

Dywedodd Daniel Andrews: "Er bod y wobr hon yn cael ei gyflwyno i mi, bydd yn cael ei rannu gyda'r holl hyfforddwyr eraill yn y clwb oherwydd heb eu help ni fuaswn i wedi ennill. 

"Mae hefyd yn wobr y byddaf yn ei rannu gyda hyfforddwyr blaenorol fel Paddy Kenny, sylfaenydd y clwb nôl ym 1958, nid yw Paddy gyda ni mwyach; heb Paddy ni fyddai Clwb Bocsio Ieuenctid y Rhyl yn bodoli.  ⁠Hefyd, Mr Ken Coulton, un arall nad yw gyda ni bellach a Mike Eccleston a fu'n fy hyfforddi ers pan oeddwn yn 14 oed. Heb eu harweiniad, rwyf wir yn credu y buaswn wedi mynd ar gyfeiliorn a chael fy hun mewn trafferth gyda'r heddlu.  Felly, mae gen i lawer i ddiolch iddynt a dyma'r rheswm y byddaf bob amser yn gwneud fy ngorau i sicrhau y bydd gan bobl ifanc y Rhyl glwb bocsio y gallant fynd iddo er mwyn eu helpu i gadw ar y llwybr iawn." 

Gwobr Pencampwr Gwrth-Gaethwasiaeth - Noddir gan ClwydAlyn

Ali Ussery - Hafan o Oleuni

Mae Ali wedi bod yn ffagl ac yn frwdfrydig iawn pan mae'n dod i ddeall ac ymdrin â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng Ngogledd Cymru.  Gyda nifer o flynyddoedd o brofiad mewn gwaith datblygu rhyngwladol, daeth â'i arbenigedd adref i Ogledd Cymru yn 2013, gan gynorthwyo a datblygu cynllun caethwasiaeth fodern strategol newydd ar gyfer yr ardal. 

Dywedodd Ali Ussery: "Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd erchyll sy'n cael effaith andwyol ar fywydau miloedd o ddynion, merched a phlant o gwmpas y byd. Mae'n anodd derbyn gwobr wrth i ni weld nifer o bobl yn cael eu cam-drin, eu gorfodi i weithio ac yn dioddef cam-fanteisio rhywiol. Wedi gweithio yn y maes gwrth-gaethwasiaeth yng Ngogledd Cymru am y deng mlynedd diwethaf, credaf ei fod yn bwysig iawn ein bod ni yn gweithio gyda'n gilydd i atal y cam-drin hwn, codi ymwybyddiaeth a gofalu am y rhai sy'n dioddef. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r CHTh am y gydnabyddiaeth hon."

Gwobr Pobl Ifanc - Noddir y wobr gan Clogau

Clwb Ieuenctid Penysarn 

Mae Clwb Ieuenctid Penysarn yn glwb ieuenctid gwledig bach gydag oddeutu 40 aelod 11-19 oed.  Gyda chymorth arweinyddion bywiog a brwdfrydig, mae'r clwb yn hwyluso llawer o gyfleoedd a gweithgareddau gwahanol i'r bobl ifanc sy'n bresennol.  

Dywedodd Carol Whitaker, Arweinydd Ieuenctid, Clwb Ieuenctid Penysarn:  ⁠"Mae ennill y wobr hon fel clwb bach gwledig yn gydnabyddiaeth o'r ymrwymiad a'r gwaith caled y mae'r bobl ifanc yn gwneud o wythnos i wythnos.  ⁠Rydym yn falch o'n pobl ifanc a'u hymroddiad i'r clwb. Bydd y wobr hon yn helpu iddynt fagu hyder a chydnabod eu gwaith caled. Gobeithio y bydd yn eu helpu i barhau i ehangu eu gorwelion a mynd ymlaen i gyflawni eu potensial mewn bywyd."

Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant -  Wedi'i noddi gan y Quay Hotel and Spa, Deganwy

Prosiect GISDA LGBTQ+ 

Mae Clwb Ieuenctid LHDT+ GISDA wedi bod yn rhedeg ers 2017. Sefydlwyd y clwb fel man cyfarfod i bobl ifanc LHDT+ deimlo'n ddiogel, cyfforddus a hapus.  Mae'n fan lle gallant gynorthwyo ei gilydd, mynegi eu hunain yn rhydd ac uniaethu â phobl eraill.

Dywedodd Stacey Roebuck, Arweinydd Tîm Prosiect LHDT+: Rydym yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth am ein gwaith yn helpu creu lle diogel ar gyfer pobl ifanc LHDT+. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Comisiynydd ac yn edrych ymlaen at ddod at ei gilydd gydag enillwyr eraill i ddathlu'r gwaith da sy'n digwydd yn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru."

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Helga Uckermann

Bu farw Helga Uckermann yn gynharach eleni. Roedd yn adnabyddus drwy ei gwaith gyda Chymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru, lle'r oedd ganddi rôl allweddol yn hyrwyddo a grymuso llais y bobl hynny sy'n wynebu anfantais drwy anabledd, salwch, oedran neu wrthodiad cymdeithasol.

Dywedodd gŵr Helga Uckermann, Graham Heathorn: “Nid oedd Helga yn gofyn am gydnabyddiaeth, roedd hi'n teimlo mai ei dyletswydd oedd sefyll i fyny dros eraill! ⁠A dyna y gwnaeth hi!

"Gwarchod ein hamgylchedd, rhoi cydraddoldeb i bob hil, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, a gallu meddyliol neu gorfforol oedd ei nod. Roedd yn casáu anghyfiawnder o unrhyw fath a hyd yn oed yn gwrthod edrych ar ffilm os oedd rhywun yn cael bai ar gam.

“Rwyf yn falch iawn o holl lwyddiant Helga, nid yn unig gyda NWAAA a'i grwpiau hunan-eiriolaeth ond hefyd drwy gydol ei gyrfa a'i bywyd personol. Cafodd gymaint o effaith ar gymaint o bobl.

"Wedi byw gyda Helga am 20 mlynedd, hoffwn feddwl fy mod i'n berson gwell o'i nabod hi.  Rwyf yn falch o dderbyn y wobr hon ar ei rhan. Mae wir yn ei haeddu. Diolch".