Skip to main content

CHTh yn taflu goleuni ar HGC ar ran trigolion

Dyddiad

Dyddiad
PCC & DPCC

Un o rolau allweddol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) yng Nghymru a Lloegr ydy dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu lleol o ran y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh. Mae'r cynllun hwn yn cael ei roi at ei gilydd mewn ymgynghoriad â thrigolion ac, yng Ngogledd Cymru, blaenoriaethau'r CHTh lleol Andy Dunbobbin ydy cyflawni cymdogaethau mwy diogel, system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau. 

Mae'r CHTh yn craffu gwaith Heddlu Gogledd Cymru drwy amrywiaeth eang o ffyrdd, gan gynnwys y Bwrdd Gweithredu Strategol. Yn y cyfarfod hwn, mae'r CHTh a'i dîm yn cyfarfod gyda'r Prif Swyddogion er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu ar y cyfan, gan gynnwys o ran blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd. Yn y cyfarfod diweddaraf, a fu ar 15 Chwefror, edrychodd y CHTh dros gyflawniad yr Heddlu o ran amlygrwydd, ymgysylltu a byrgleriaeth.

Edrychodd y CHTh ar feysydd gan gynnwys: 

  • Y ffordd mae Heddlu Gogledd Cymru yn gwrando ar gymunedau a'u pryderon. 
  • Y ffordd mae Timau Plismona Cymdogaethau'n diweddaru cymunedau ar faterion sydd wedi'u codi. 
  • Y trefniadau ar gyfer ymweliadau rheolaidd i ardaloedd er mwyn cynyddu amlygrwydd a siarad â phobl yn eu dinasoedd, trefi lleol a phentrefi. 
  • Y ffordd gall Heddlu Gogledd Cymru fod yn fwy hygyrch i gymunedau gan ddefnyddio llwyfannau fel gwefan yr Heddlu a Rhybudd Cymunedol.

Roedd gan y CHTh hefyd gyfarwyddyd manwl ar sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio byrgleriaethau.  Roedd hyn yn cynnwys sut yr ymatebir i fyrgleriaeth unwaith yr hysbysir amdano, sut yr ymchwilir, a sut mae'r fenter "Dangos y Drws i Drosedd" yn cael ei chyflwyno ledled Gogledd Cymru.  Mae hon yn ymgyrch sydd â ffordd holistaidd o atal troseddau caffael a'r niwed maent yn achosi. Troseddau caffael ydy troseddau fel byrgleriaethau a lladradau, lle mae'r troseddwr yn elwa o'r drosedd.

Yn y cyfarfod, clywodd y CHTh hefyd sut mae troseddau'n cael eu hymchwilio a sut mae troseddwyr yn cael eu targedu a'r defnydd o waith heddlu confensiynol a chudd. Ar fyrgleriaeth, mae'r CHTh yn gosod pwyslais mawr ar droseddau'n cael eu hatal yn y lle cyntaf. Ond os ydynt yn digwydd, mae'n pwysleisio ymateb proffesiynol ac effeithiol gan Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd y CHTh Andy Dunbobbin: ⁠"Rwyf wedi bod yn glir yn fy maniffesto ac yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd mai plismona cymdogaethau ydy sylfaen y cynllun hwn a'r sylfaen lle cyflawnir yr holl flaenoriaethau eraill. Mae'r Bwrdd Gweithredu Strategol yn fy ngalluogi i archwilio sut mae'r Prif Gwnstabl yn cyflawni yn y meysydd hanfodol hyn. 

"Yn y cyfarfod diweddaraf o'r Bwrdd, edrychais ar ystod eang o ddata cyflawniad ac roeddwn eisiau canolbwyntio ar feysydd amlygrwydd, ymgysylltu a byrgleriaeth. Mae'r angen i'r cyhoedd weld presenoldeb amlwg a gallu siarad â swyddogion a staff yn hynod galonogol pan gyflawnir yn effeithiol. Rwyf yn gwybod o'r llawer o gyfarfodydd, digwyddiadau a thrafodaethau cyffredinol sydd gennyf gyda'r cyhoedd fod cael presenoldeb heddlu calonogol yn hynod bwysig i'n cymunedau.

"Rwyf yn llwyr gefnogi'r Prif wrth gyflwyno'r fenter "Dangos y Drws i Drosedd" sy'n anelu ymdrin â byrgleriaeth a throseddau eraill o'r fath. Yn y Bwrdd cefais fy nghalonogi fod y Prif yn canolbwyntio ar yr holl feysydd allweddol hyn, a byddaf yn parhau i graffu sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn cyflawni o ran y materion hyn."

Gall trigolion ddysgu mwy am y Bwrdd Gweithredol Strategol a darllen cofnodion cyfarfodydd o'r gorffennol ar wefan SCHTh yma: Craffu Gwasanaethau Plismona | Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (northwales-pcc.gov.uk).