Dyddiad
Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru yn flaenoriaeth allweddol i Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru. Mae'r broblem yn rhan allweddol o'i Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y rhanbarth, sy'n cynnwys ymrwymiadau i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau a chyflawni cymdogaethau mwy diogel. Ers cael ei ethol yn 2021, mae'r CHTh wedi cyflwyno sawl mesur newydd ac arloesol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a meithrin Gogledd Cymru mwy diogel i bawb.
Mae cyhoeddiad Rishi Sunak AS, Prif Weinidog y DU, am ganolbwyntio newydd ar ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyfle i daflu goleuni ar y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud yng Ngogledd Cymru er mwyn trechu'r broblem hon, y rhesymau tu ôl iddi, a sut allwn ni ei hatal rhag digwydd yn y dyfodol. Mae'r broblem hon wedi bod yn ganolbwynt pellach gan weithredu diweddar gan Heddlu Gogledd Cymru yn caniatáu gorchmynion gwasgaru a thrafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg ynghylch achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau yn y rhanbarth.
Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddygiad lle mae gweithrediadau unigolyn neu grŵp yn achosi annifyrrwch, dioddefaint neu drafferth i unigolyn neu grŵp penodol neu'r gymuned ehangach. Gall enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys fandaliaeth, niwsans gyda cherbydau, yfed yn y stryd ac ymddygiad amhriodol gan gymdogion.
Mae'r CHTh wedi ymweld ag ardaloedd wedi'u heffeithio gan achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn dysgu o lygad y ffynnon sut mae mentrau wedi'u cyflwyno er mwyn atal trosedd ac edrych pa fesurau a ellir eu rhoi mewn lle yn y dyfodol ledled Gogledd Cymru, o Bwllheli, i Ddolgellau, Prestatyn, Bae Colwyn, Rhuthun a Wrecsam. Mae wedi ymuno â swyddogion heddlu lleol a mentrau cymunedol ledled Gogledd Cymru sy'n anelu atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo pobl ifanc a dioddefwyr trosedd, drwy Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned. Mae hon yn cynorthwyo mentrau lleol, fel gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol er mwyn cadw pobl ifanc yn brysur ac allan o helynt.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau gwledig yn bryder allweddol i'r CHTh. Mae comisiynu cerbyd ymgysylltu cymunedol mewn cymunedau gwledig – wedi'i dalu'n rhannol gan y Comisiynydd – wedi cyflwyno ffyrdd newydd i'r gymuned amlygu pryderon o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd tu allan i'r prif ganolfannau trefol mewn amgylchfyd croesawgar, cyfeillgar a phreifat. Mae'r cerbyd yn galluogi trigolion hysbysu am drosedd os nad oes ganddynt fynediad at orsaf heddlu neu os ydynt yn byw mewn cymuned heb un gerllaw. Mae'r Comisiynydd yn ddiweddar hefyd wedi cyfarfod gydag arweinydd NFU ac UAC lleol er mwyn trafod eu pryderon ynghylch ymddygiadau niwsans sy'n effeithio cymunedau amaethyddol.
Yn 2022, gwnaeth trefi yng Ngogledd Cymru elwa o gyllid gan brosiect Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, gyda chyfran o £1.5m yn cyfrannu at wella goleuadau stryd, gosod camerâu CCC a phrosiectau ymyrryd ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi, Wrecsam ac ardaloedd Shotton a Queensferry mewn ymgais i atal troseddau cymdogaethau. Mae ymgyrchoedd hysbysebu parhaus yn y cymunedau hyn hefyd yn rhannu negeseuon a chyngor calonogol i drigolion, gan eu hysbysu am y gwaith sy'n mynd ymlaen er mwyn cadw eu cymunedau'n ddiogel.
Mae'r CHTh yn comisiynu gwasanaethau hefyd yn cynorthwyo gwaith Timau Troseddu Ieuenctid ledled Gogledd Cymru, drwy ariannu rolau a gweithgareddau o fewn y timau, sy'n gweithio gyda phobl ifanc y problemau a all fod yn ffactor yn cymell Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fel camddefnyddio sylweddau a bywydau ansefydlog. Mae'r cyhoeddiad gan lywodraeth y DU am ganolbwyntio ar gyfiawnder adferol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol eisoes wedi'i adlewyrchu yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh, gyda phwyslais ar ei ddefnydd eang a'r cyfle i'r dioddefwr weld cyfiawnder ar waith, ond hefyd i'r troseddwr ddeall y niwed allent ei achosi.
Ar lefel leol, mae'r CHTh hefyd wedi cyfarfod gyda chynrychiolwyr cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol er mwyn trafod a chynorthwyo atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ddiweddar, mae'r Comisiynydd wedi cyfarfod cynrychiolwyr o Gyngor Tref Amlwch er mwyn trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd diwydiannol yn y dref, ynghyd ag arweinwyr lleol ym Mhrestatyn, Bwcle a Dyffryn Conwy. Ar lefel genedlaethol, mae'r CHTh yn amlwg iawn yn Un Llais Cymru – corff cenedlaethol sy'n cynrychioli cynghorau tref a chymunedol – ynghyd â chyfarfodydd y Bwrdd Cymunedau Diogelach. Ar ben hyn, mae'r Comisiynydd yn cydweithredu'n agos gyda'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eraill, Prif Swyddogion ac arweinwyr tri heddlu arall Cymru fel rhan o'r fforwm Plismona yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru.
Mae'r CHTh hefyd yn gefnogwr pybyr o'r Ymgyrch Ymwybyddiaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan addo ei gefnogaeth bob blwyddyn i'r ymgyrch gan annog cymunedau i wrthsefyll ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amlygu'r gweithrediadau a ellir eu cymryd gan y bobl sy'n ei brofi.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae gan drigolion yng Ngogledd Cymru yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. Fy nod ydy sicrhau y gall trosedd gwrthgymdeithasol gael ei atal cymaint â phosibl ac yr ymdrinnir â phobl sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yn briodol.
"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn manylu'r hyn rwyf yn ei wneud er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cynorthwyo sicrhau fod timau plismona cymunedol lleol yn amlwg. Rydym yn ffodus cael llawer o brosiectau eraill yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymdrin ag achos gwreiddiol ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd. Mae llawer wedi'u hariannu drwy fy menter Eich Cymuned, Eich Dewis.
"Rwyf yn ymfalchïo yn y camau rwyf wedi'u cymryd hyd yma wrth atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ond rwyf yn deall sut nad ydy nifer o bobl sydd wedi profi neu wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dod ymlaen a hysbysu'r awdurdodau perthnasol amdano ac rwyf eisiau newid hyn. Mae'n bwysig ein bod yn cael gwybod am drosedd yn eich ardaloedd er mwyn sicrhau y gallwn weithredu'n briodol. Buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau hysbysu am drosedd neu sydd ag unrhyw amheuon i hysbysu'r heddlu neu Crimestoppers."
Chwiliwch am gyngor am yr hyn ydy Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sut allwch hysbysu amdano yma: Ymddygiad gwrthgymdeithasol | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Cliciwch yma er mwyn darllen blaenoriaethau plismona Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: Cynllun Heddlu a Throsedd 2021 (northwales-pcc.gov.uk)