Skip to main content

CHTh yn ymweld â Chanolfan Cymorth Dioddefwyr i glywed am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

VS visit

CHTh yn ymweld â Chanolfan Cymorth Dioddefwyr i glywed

am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau yng Ngogledd Cymru

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i weld y Swyddfa Cymorth Dioddefwyr yn  Llanelwy ar 22 Mehefin i ddysgu mwy am ei gwaith yn y gymuned, a chyfarfod y tîm sy'n gweithio i sicrhau fod gan ddioddefwyr trosedd ledled Gogledd Cymru rywle i droi am gymorth pan maent ei angen.

Mae'r swyddfa, o'r enw'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, yn siop un stop ar gyfer dioddefwyr ledled Gogledd Cymru ac wedi'i lleoli ym mhencadlys rhanbarthol yr heddlu ym Mharc Busnes  Llanelwy. Mae'r ganolfan yn dod â gwasanaethau cymorth Heddlu Gogledd Cymru ac Uned Gofal Tystion Gwasanaeth Erlyn y Goron at ei gilydd. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ariannu'r gwasanaeth fel rhan o'i waith i wneud Gogledd Cymru'n fwy diogel i drigolion. Mae hefyd yn adlewyrchu ei Gynllun Heddlu a Throsedd a gyhoeddwyd llynedd, sy'n amlinellu ei weledigaeth i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau ledled Gogledd Cymru.  

Yn ystod ei ymweliad, clywodd Andy Dunbobbin am y strwythur staff a sut y rhedir y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr o ddydd i ddydd. Clywodd sut mae'n adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ei gwaith a sut y daliodd staff i weithio yn ystod y pandemig. Siaradodd Andy hefyd i weithwyr achos unigol sy'n gyfrifol am droseddau difrifol, iechyd a llesiant meddyliol, caethwasiaeth fodern a thwyll. Roedd hyn er mwyn dysgu mwy am eu meysydd arbenigedd penodol.  

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymweld â'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn  Llanelwy. Mae'n enghraifft wych o sut y gall fy nhîm a minnau gomisiynu ac ariannu gwasanaethau sydd ag effaith barhaol a dofn i bobl ledled Gogledd Cymru.

"Mae hefyd yn arddangos yn wych sut y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau gwirioneddol i bobl – o Heddlu Gogledd Cymru i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, i Gymorth Dioddefwyr. Ein gorchwyl ydy lleihau trosedd ac atal pobl rhag dioddef yn y lle cyntaf. Ond pan mae rhywbeth anffodus yn digwydd, mae pobl angen gwybod fod rhywun yno i'w cynorthwyo nhw. Mae'r tîm yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn gwneud gwaith gwych o roi cymorth arbenigol a hysbysu pobl yn eu cyfnodau mwyaf bregus."

Dywedodd Sioned Jacobsen, Rheolwr Gweithrediadau yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr: "Roedd yn bleser croesawu Andy Dunbobbin i'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr a dangos iddo'r gwaith rydym yn ei wneud yn ddyddiol i gynorthwyo'r dioddefwyr mwyaf bregus yn ein cymunedau. Rydym yma i gynorthwyo unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan drosedd ar unrhyw bwynt yn eu bywydau. Rydym yn anelu i gynorthwyo dioddefwyr symud tu hwnt i'r drosedd ac ymdopi gyda bywyd bob dydd. Mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi'n fawr yn barod gyda'r offer a'r sgiliau angenrheidiol i greu cadernid dioddefwyr a'u cynorthwyo i ddatblygu mecanweithiau ymdopi. 

Pan mae rhywun yn dioddef trosedd, mae Cymorth Dioddefwyr yn cael eu manylion gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn galluogi'r tîm i gysylltu. Pan gysylltir â nhw ac maent yn cael eu hasesu, mae bob dioddefwr yn derbyn ymateb wedi'i deilwra'n benodol i'w sefyllfa. Mae 13 aelod tîm yn y ganolfan, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Dioddefwyr sy'n gwneud cyswllt cychwynnol gyda'r dioddefwyr. Ar hyn o bryd, mae pum gweithiwr achos arbenigol ledled iechyd meddwl, trosedd casineb, twyll, trosedd difrifol a chaethwasiaeth fodern. Cynorthwyir y niferoedd hyn gan wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo dioddefwyr ledled gogledd Cymru. 

Ers i'r ganolfan agor yn 2015, mae wedi cynorthwyo dros 190,000 o ddioddefwyr. Yn fwyaf diweddar, mae'r ganolfan wedi cynorthwyo 20,380 yn 2020/21, sy'n cynnwys dioddefwyr trosedd ffyrdd, cam-drin domestig, trais rhywiol a cham-drin plant yn rhywiol.  Er mwyn gwybod mwy am y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, ewch ar: Gogledd Cymru – Cymorth Dioddefwyr