Skip to main content

CHTh yn ymweld â Llangefni i weld adnodd newydd sy'n helpu dod â chyfiawnder yn agosach at ddioddefwyr

Dyddiad

Gorwel1

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Langefni ar 20 Gorffennaf i weld adnodd newydd sy'n galluogi dioddefwyr a thystion mewn achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol i roi tystiolaeth gyda chyswllt byw, ymhell oddi wrth adeiladau'r llys. Mae'r Safle Tystiolaeth o Bell yn golygu bod rhai sydd wedi dioddef troseddau yn gallu rhoi tystiolaeth yn nes at eu cartref, ac yn cynnig lleoliad llai brawychus na llys traddodiadol.

Un o amcanion Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru yw'r sefydlu safleoedd Tystiolaeth o Bell newydd dros gyfnod 2021-22.  O ganlyniad i arian gan Lywodraeth Cymru, mae tair safle tystiolaeth wedi cael eu creu yng Ngogledd Cymru ac wedi dechrau cael eu defnyddio i roi tystiolaeth.

Mae'r safle yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru yn cael ei gynnal gan DASU Gogledd Cymru yn Wrecsam.  Mae'r safleoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru yn Llangefni a Dolgellau o fewn Siop Un Stop sy'n cael eu trefnu gan Gorwel, sefydliad sy'n cynnig gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu yn cefnogi pobl sydd mewn peryg o golli eu cartrefi ac yn ceisio atal digartrefedd yn yr ardal. Mi wnaeth y safleoedd beilota eu hachos troseddol cyntaf ym mis Chwefror 2022 a chafodd yr achos Llys Teulu ei beilota ym mis Mawrth 2022. Bu Andy Dunbobbin yn ymweld â Llangefni, ynghyd â chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022.

Gorwel2

Yn ystod ei ymweliad â'r safle yn Ffordd yr Efail bu'r Comisiynydd yn teithio drwy'r adeilad gan gwrdd â'r tîm yn y ganolfan gan glywed am y gefnogaeth sy'n cael ei roi i'r dioddefwyr a'r tystion. Bu'n siarad â Rhiannon Edwards, Cynghorydd Rhanbarthol Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Gogledd Cymru am sut y daeth y prosiect i fodolaeth, sut mae'n gweithio fel rhan o'r dull Cymru gyfan, sut y trefnwyd y cyllid a sut y bydd y prosiect yn cael ei gynnal.

Mae gan bob safle'r TG angenrheidiol ac mae wedi ei ddodrefnu yn unol â gofynion y llysoedd.  Mae gan bob un system ddiogelwch i'r adeilad, yn ogystal â'r ystafell ei hunan ac mae adnoddau yn eu lle ar gyfer tyst neu dystion i aros pan fo angen.

Bydd unrhyw dystion sy'n cael cefnogaeth gan Gynghorydd Trais Domestig neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol yn derbyn cefnogaeth yn yr ystafell dystiolaeth ddiogel. Gellir gwneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Tystion, a fydd yn cefnogi’r tystion mewn ymweliad cyn yr achos ac yn yr achos ei hun. Yn ychwanegol i ddefnyddio achosion troseddol, gall yr ystafelloedd gael eu defnyddio i gefnogi tystion mewn gweithrediadau'r Llys Teulu, gyda chytundeb y Llys.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Roedd hi'n bleser ymweld â Safle Tystiolaeth o Bell Llangefni heddiw ac i glywed am y gefnogaeth a roddir i ddioddefwyr trais domestig a thrais rhywiol ac i weld beth sy'n cael ei wneud i wneud eu profiad o roi tystiolaeth mor ddidrafferth a chyfforddus â phosib.

"Mae fy nghynllun Heddlu a Throsedd wedi bod yn cefnogi dioddefwyr a chymunedau ac mae mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn greiddiol iddo. Rwyf yn benderfynol o sicrhau bod pob dioddefwr yn dilyn y llwybr rhwyddaf tuag at gyfiawnder â phosib.  Gall llysoedd fod yn lefydd brawychus ac mae Safleoedd Tystiolaeth o Bell yn golygu bod merched a dioddefwyr eraill yn gallu rhoi tystiolaeth yn nes at eu cartrefi a’u teuluoedd ac mewn amgylchedd gefnogol a diogel. Gobeithio y bydd y tri safle ar draws Gogledd Cymru yn rhoi cyfiawnder i'r dioddefwyr.

Dywedodd Rhiannon Edwards, Cynghorydd Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru: “Gall rhoi dystiolaeth yn y llys fod yn brofiad anodd a phryderus, mae hyn yn arbennig o wir am rai sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn ogystal â'r trawma yn gysylltiedig â gorfod ail-fyw y cam-drin, rhaid i dystion wynebu nid yn unig yr un a wnaeth ymosod arnynt, ond hefyd eu ffrindiau a'u teulu, a gall hyn ychwanegu at y trawma.

"Mae darparu Mesurau Arbennig ar gyfer tystion bregus yn bositif, ond mae'n rhaid i ddioddefwyr fynd i'r llys serch hynny.  Mae darparu ystafelloedd Tystiolaeth Ddiogel o fewn Siopau Un Stop yn eu cymunedau lleol yn helpu i'r broses hon ganolbwyntio mwy ar y dioddefwr gan wneud y peth yn fwy diogel iddynt yn y pen draw."

Am fwy o gyngor ynglŷn â thrais yn erbyn merched neu fenywod, cam-drin neu drais rhywiol, cysylltwch â Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu info@livefearfreehelpline.wales