Skip to main content

CHTh yn ymweld â Phorthi Dre i gwrdd ag enillwyr y gronfa gymunedol

Dyddiad

YC YC

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld clwb ieuenctid Porthi Dre i gwrdd â staff ac aelodau ac i ddysgu mwy am eu gwaith gwerthfawr yn y gymuned a sut y gall arian sydd wedi ei atafaelu gan droseddwyr gael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yn ardal Caernarfon. 

Roedd Porthi Dre yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned Eich Dewis. Mae'r fenter yn cefnogi prosiectau llawr gwlad a sefydliadau ac yn cael ei chefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.  Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. 

Mae'r clwb ieuenctid wedi ei leoli yng Nghaernarfon ac yn rhedeg bob noson o 6 tan 8 ar gyfer pobl ifanc. Mae'n cynnig lle diogel a chlyd lle gall pobl ifanc ymgysylltu â'i gilydd a gwneud ffrindiau. Mae'r clwb yn cynnig gweithgareddau i bobl ifanc a chyfle iddynt ymlacio. Mae hefyd yn hyrwyddo ymddygiad positif ac yn meithrin teimlad o berthyn yn y gymuned. Mae gan y clwb ieuenctid staff sy'n gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth i fynd i'r afael â phroblemau neu heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Mae'r clwb ieuenctid hefyd yn paratoi prydau ar gyfer y bobl ifanc a bydd yr arian yn helpu cefnogi'r clwb ieuenctid yn y gwaith mae'n gwneud. 

Yn ystod yr ymweliad â'r clwb ieuenctid, cyfarfu'r Comisiynydd â staff Porthi Dre a bwyta bwyd gyda nifer o'r bobl ifanc sy'n mynd i'r clwb.  Cafodd y Comisiynydd hefyd y cyfle i gwrdd â'r Cadeirydd, arweinwyr y clwb a Phennaeth y Gymuned. Clywodd y Comisiynydd am gynlluniau'r clwb a chafodd weld beth mae'r bobl ifanc yn gwneud yno, a sut mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu eu cynnal. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae rhoi rhywbeth positif i bobl ifanc ei wneud a threulio amser gyda ffrindiau yn hynod bwysig ac mae'r clwb ieuenctid yn gwneud gwaith gwych yn rhoi cyfle gwerth chweil i bobl ifanc gwrdd, mwynhau eu hunain a dysgu sgiliau newydd.  Mae hefyd yn addas iawn bod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae'n dangos fod y cronfeydd hyn yn gallu cael eu defnyddio er budd y gymuned, yn enwedig pobl ifanc."

"Mae cefnogi cymunedau yn rhan allweddol o fy nghynllun ar gyfer plismona a thaclo trosedd ac mae Porthi Dre yn sefydliad pwysig i bobl ifanc Caernarfon a'r ardal ehangach."

Dywedodd y grŵp o Porthi Dre: "Rydym yn ddiolchgar iawn i CHTh Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a PACT am gefnogi ein clwb ieuenctid gyda'r arian hyn. Sefydlwyd y clwb ieuenctid gan wirfoddolwyr tua blwyddyn yn ôl ac ers hynny mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth.  Mae'r clwb ieuenctid yn syniad syml iawn: mae'r bobl ifanc yn cael cinio poeth, rhywle cynnes a sych i fynd iddo gyda'r hwyr, cael cyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau syml os dymunant. Mae'n amlwg bod pobl ifanc Caernarfon yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth pwysig hwn gan fod y niferoedd yn cynyddu bob wythnos. Fel grŵp, rydym yn dibynnu ar garedigrwydd y gymuned a nawdd fel hyn.  Diolch o galon i chi i gyd unwaith eto!"

Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT: “Roedd hi'n bleser gallu cefnogi clwb ieuenctid Porthi Dre drwy Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae’r clwb yn rhoi cymorth a chyngor i bobl ifanc a fydd gobeithio yn eu galluogi i lwyddo hyd yn oed ymhellach mewn gwaith, astudio, neu beth bynnag arall y maent yn dewis eu wneud.  Mae’r nod hwn o roi’r offer i gymunedau newid a siapio eu dyfodol wrth galon Eich Cymuned, Eich Dewis”.

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: “Dw i'n falch o weld arian Eich Cymuned Eich Dewis yn cael ei wario ar brosiectau fel Porthi Dre sy'n gwneud gwahaniaeth ⁠mawr i fywydau pobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Mae clybiau a sefydliadau fel hyn yn chwarae rhan allweddol yn hyrwyddogweithgareddau cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc. Gall hyn helpu lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned drwy roi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain”.

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk

I wybod mwy am Porthi Dre ewch i Hafan | Porthi Dre, Caernarfon