Skip to main content

CHTh yn ymweld â Phwllheli i weld sut yr ymdrinnir ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref

Dyddiad

Pwllheli2

Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweld prosiectau yn cynorthwyo i ymgysylltu gyda phobl ifanc oedd ffocws ymweliad gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i Bwllheli ar ddydd Iau, 21 Gorffennaf. Daeth yr ymweliad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac mae'n ffurfio rhan o ffocws y Comisiynydd am y flwyddyn ar y broblem o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yng Ngogledd Cymru'n ddiogel.

Gan redeg rhwng 18 a 22 Gorffennaf, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022 yn anelu i annog cymunedau wrthsefyll ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amlygu'r camau a ellir eu cymryd gan y rhai hynny sy'n ei brofi. Mae wedi'i threfnu gan Resolve, prif sefydliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y DU, ac mae'r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU sy'n cynnwys cynghorau, heddluoedd, cymdeithasau tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon. 

Dros y 12 mis diwethaf mae 192 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn yr ardal yng Ngogledd a De Pwllheli. Mae'r heddlu'n gweithio gyda'r gymuned i ymdrin â'r problemau hyn ac ymdrin â'r ymddygiad gwael hwn. 

Cafodd Mr Dunbobbin a Mr Jones gwmni Dr Peter Harlech Jones (Ymddiriedolwr o Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned [PACT]), Eric Price (Clerc Cyngor Tref Pwllheli), a Andrew Owen ac Annette Ryan (Gweithwyr Ieuenctid Cyngor Gwynedd). Gwnaeth hefyd gyfarfod SCCH Jason Jones a Mark Holland o Heddlu Gogledd Cymru yng Ngorsaf Heddlu Pwllheli yn yr Ala. Gwnaeth ymweld â lleoliadau sydd wedi gweld pryderon diweddar o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys Pentre Poeth, a'r safleoedd bws a'r maes parcio ar Y Maes. Mae'r safleoedd bws, sydd mewn cyflwr gwael, i fod i gael eu huwchraddio gan y cyngor lleol yn fuan er mwyn gwella'r cyfleusterau sydd ar gael. 

Pwllheli1

Yn ystod ei ymweliad â Phwllheli,  gwnaeth Mr Dunbobbin a Mr Jones ymweld hefyd â dau brosiect a dderbyniodd gyllid yn gynharach eleni gan PACT yn y Ganolfan Hamdden a'r Clwb Pêl Droed. Lansiwyd PACT yn 1998 i gynorthwyo mentrau cymunedol, yn enwedig rhai sy'n ymwneud â'r heddlu ac sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd drwy leihau trosedd ac ofn trosedd yng nghymunedau Gogledd Cymru. Mae PACT yn annog ceisiadau gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol, mewn partneriaeth gyda'u Timau Plismona Cymdogaethau a fydd yn cael effaith gadarnhaol mewn cymunedau lleol ac annog amgylchfyd diogelach ac ansawdd bywyd cynyddol.

Derbyniodd Clwb Pêl Droed Pwllheli gyllid tuag at ailddatblygu'r clwb. Mae cynlluniau i gynnal sesiynau i'r bobl ifanc yn y clwb drwy greu cyfleuster y gall yr ieuenctid ei ddefnyddio.  Y gobaith ydy y bydd y cyllid yn cynorthwyo i barhau'r berthynas rhwng y Tîm Plismona lleol a phobl ifanc Pwllheli a'r cyffiniau. Bydd yn caniatáu’r clwb pêl droed i ymgysylltu gyda'r bobl ifanc lleol a chynorthwyo i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Yn y Ganolfan Hamdden, aeth cyllid tuag at greu wal graffiti er mwyn dod â'r gymuned at ei gilydd a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd oddeutu 50 o bobl ifanc lleol ynghlwm yng nghreu'r wal. Mae cyllid pellach o'r un ffynhonnell wedi mynd tuag at gamerâu CCC newydd sydd wedi'u gosod gan Gyngor Tref Pwllheli ar hyd Ffordd y Cob.

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Roeddwn yn falch o ymweld â Phwllheli heddiw i sgwrsio gyda swyddogion lleol a chyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd yn ystod fy nhaith o amgylch y dref. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem sy'n bla ar gymunedau ac mae'n rhywbeth yr wyf yn benderfynol o fynd i'r afael â hi. Mae cyflawni cymdogaethau mwy diogel a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau yn gonglfeini yn Cynllun Heddlu a Throsedd. Rhoddodd fy ymweliad a Phwllheli'r cyfle i weld sut mae fy nghynllun yn cael ei weithredu ar lawr gwlad a gweld ymroddiad ac ymrwymiad swyddogion a staff ymroddedig Heddlu Gogledd Cymru i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU."