Skip to main content

Chwalu rhwystrau mewn cerddoriaeth er mwyn helpu trechu trosedd yn Sir y Fflint

Dyddiad

Ar 29 Mai, fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, ymweld â Rockworks Academy yn Sefydliad Coffa Rhyfel Penyffordd a Phenymynydd ym Mhenyffordd, Sir y Fflint. Mae'r sefydliad yn fenter gymdeithasol sydd wedi ymroi gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb, lle bynnag maen nhw'n byw a beth bynnag fo'u hamgylchiadau nhw, boed hynny'n ariannol, yn gorfforol neu'n gymdeithasol.

Yn ddiweddar, llwyddodd y grŵp wneud cais am arian gan y fenter Eich Cymuned, Eich Dewis leol ar gyfer eu prosiect 'Chwalu Rhwystrau' ac aeth yr ymwelwyr draw i glywed mwy am y cynlluniau. Nod y prosiect ydy darparu hyfforddiant, sesiynau grŵp, a dosbarthiadau meistr i hyd yn oed mwy o bobl a galluogi grwpiau fel pobl ifanc sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol ac sydd wedi ymddieithrio brofi cerddoriaeth a'i gyflwyno i'w bywydau.

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad. Mae'n derbyn help gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  Ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis dros un mlynedd ar ddeg yn ôl, mae bron i £600,000 wedi cael ei roi i 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu bröydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Gall Rockworks Academy gynnig sesiynau allanol neu yn eu stiwdios yn Wrecsam neu Sir y Fflint. Maen nhw'n darparu amrywiaeth o sesiynau cerddoriaeth addasol o dan arweiniad tiwtoriaid profiadol. Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio er mwyn hwyluso anghenion a galluoedd amrywiol, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn modd ystyrlon. Maen nhw hefyd yn cydweithio hefo grwpiau cymunedol lleol er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, gan sicrhau bod y rhai a allai elwa fwyaf o'u gwasanaethau yn ymwybodol ohonyn nhw ac yn gallu cael mynediad atyn nhw. Yn ogystal, maen nhw'n cynnig sioeau a pherfformiadau trwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Comisiynydd pa mor hanfodol ydy'r prosiect i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu nhw a'u gofalwyr nhw. Gwnaeth gyfarfod hefo'r cyfarwyddwr a'r tiwtoriaid a gwelodd effaith ddofn y prosiect ar bawb sy'n gysylltiedig.

Dywedodd Tanya Jones, Tiwtor a Chyfarwyddwr Drymiau yn Rockworks Academy: “Diolch i'r pres gafodd ei dderbyn gan y grant anhygoel hwn, gallwn hwyluso blwyddyn o sesiynau cerddoriaeth misol i'r Llwyth Ieuenctid. Grŵp o bobl ifanc niwroamrywiol sy'n mwynhau chwarae cerddoriaeth hefo'i gilydd. Gallwn ni ddarparu amgylchfyd saff, sych, cyfarwydd ac offer hefo tiwtoriaid cymwys wrth law i oruchwylio. 

"Mae'r fenter hon yn cael argraff wych a chadarnhaol ar y Llwyth Ieuenctid wrth iddyn nhw ddatblygu eu gwybodaeth a'u profiad nhw o wneud rhywbeth y maen nhw wrth eu bodd yn ei wneud. Mae gan chwarae cerddoriaeth hefo'ch gilydd gymaint o fanteision, gan gynnwys gwaith tîm; sgiliau gwrando gwell; cydlyniad, hyder a sgiliau cymdeithasol gwell. 'Da ni eisiau diolch i Eich Cymuned, Eich Dewis am roi'r cyfle gwych hwn i ni."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Dwi'n hynod falch fy mod wedi helpu ariannu sesiynau hynod o effeithiol Rockworks Academy. Mi wnes i weld yn ystod fy ymweliad yr awyrgylch a'r ymgysylltu cadarnhaol, a'r ymdeimlad brwd o gymuned sy'n cael ei arddangos gan bawb a gymerodd ran.

"Gall anabledd, profiadau negyddol yn y gorffennol ac eithrio economaidd a chymdeithasol i gyd olygu bod pobl yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn. Dwi'n falch iawn o weld Rockworks Academy yn chwalu rhwystrau ac annog pawb gymryd rhan a meithrin cariad at gerddoriaeth. Mae prosiectau fel hyn yn hynod bwysig i bobl a chymunedau Gogledd Cymru a dwi'n canmol eu hymdrechion nhw."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Mae cael rhywle i fynd lle gallan nhw fynegi eu hunain yn greadigol ac yn gerddorol yn hanfodol i bobl ifanc. Dyna pam rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu cyllid ar gyfer Academi Rockworks trwy'r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae hefyd yn dangos eto sut y gellir defnyddio'r pres a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr yn effeithiol wrth wasanaethu'r gymuned ehangach."

Dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch iawn o ariannu enghraifft wych arall o'r gwahaniaeth y mae Eich Cymuned, Eich Dewis Chi yn ei wneud i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae'n dangos sut mae'r celfyddydau a cherddoriaeth yn gallu helpu trechu ymddieithrio a throsedd. Mae sefydliadau fel hyn yn chwarae rhan ganolog yng nghymunedau Gogledd Cymru drwy ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau amhrisiadwy sy'n cael argraff gadarnhaol ar fywydau pobl."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar: www.pactnorthwales.co.uk

Er mwyn dysgu mwy am The Rockworks Academy, ewch ar: www.therockworks.org