Skip to main content

Clwb criced yn trefnu bws er mwyn cludo plant i sesiynau hyfforddi criced

Dyddiad

010321 PCC Cricket-1

Mae clwb criced lleol blaengar ar genhadaeth i gael plant yn Wrecsam i chwarae'r gêm eto gyda rhaglen hyfforddi a chwarae uchelgeisiol – y telir amdani gydag arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Mae Clwb Criced Brymbo, un o dimau mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru a’r fan lle dysgodd capten presennol Morgannwg David Lloyd y gêm, yn gobeithio darganfod seren nesaf gogledd Cymru.

Mae’r clwb yn lansio rhaglen hyfforddi fawr, Criced Cymunedol Brymbo, ym mis Mai yn cynnwys 12 ysgol leol diolch i grant o £2,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cefnogir menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 23 oed eleni.

Dyma wythfed flwyddyn y cynllun dyfarnu arian ac mae llawer o’r dros £280,000 a roddwyd i achosion haeddiannol yn yr amser hwnnw wedi'i atafaelu trwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a gymerwyd oddi wrth droseddwyr gyda'r gweddill yn dod gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at sefydliadau sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Arfon Jones.

Eleni rhoddir 21 o grantiau i gefnogi cynlluniau gan sefydliadau cymunedol gyda phleidlais ar-lein yn penderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus o blith y nifer fawr o brosiectau a gyflwynwyd gyda thros 32,000 o bleidleisiau yn cael eu bwrw.

Y prosiectau llwyddiannus eraill o Sir Wrecsam yw tîm pêl-droed dan 15 oed Rhostyllen, sy’n bwriadu uwchraddio eu cyfleusterau a phrosiect Cyngor Tref y Waun ar gyfer campfa awyr agored, sydd hefyd wedi derbyn £2,500 yr un.

Mae Brymbo yn bwriadu trefnu bws i gludo pobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i sesiynau hyfforddi wythnosol dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwysedig Cymdeithas Criced Cymru ar eu cae trawiadol yn Nhanyfron.

Dywedodd is-gadeirydd y clwb a’r cyn-fatiwr agoriadol Dafydd Rhys: “Mae gennym  safle gwych yma ac roedden ni eisiau datblygu perthynas efo’r ysgolion i gael mwy o bobl ifanc, bechgyn a merched, i ddod i mewn i’r gêm.

“Mae gennym ddau o hyfforddwyr cymwysedig Cymdeithas Criced Cymru, Adam Meredith a Tush Maitra, sydd ar gael yn ystod y dydd a’r haf diwethaf roedd gennym hyd at 30 o bobl ifanc yn bennaf o ysgolion uwchradd yn ymarfer criced yma’n rheolaidd.

“Mae’r cyfnod clo wedi effeithio’n wael ar chwaraeon ond gobeithio bod yr amser yn iawn bellach i ni ddechrau paratoi ar gyfer criced unwaith eto ac rwy’n siŵr y bydd llawer o blant yn ysu i gymryd rhan.

“Mae llawer o ffocws addas wedi bod ar les corfforol a meddyliol pobl ifanc ac rydym am chwarae rhan wrth helpu i wella hynny.

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Comisiynydd am y grant hwn a fydd yn caniatáu i ni ddod â'r plant i'r cae bob wythnos ac rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol hyd yn hyn gan ysgolion uwchradd a chynradd lleol.”

Mae Brymbo hyd yn oed wedi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith os yw’r cyfnod clo parhaus yn ei gwneud hi'n anodd cludo plant i'r cae gyda'u hyfforddwyr a'u chwaraewyr yn paratoi i ymweld ag ysgolion os bydd angen.

Mae'r clwb wedi ailwampio eu cyfleusterau gyda grant gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr ar gyfer rhwydi ymarfer newydd ac yn gobeithio cyrraedd hyd at 300 o blant trwy'r rhaglen allgymorth a fydd yn rhedeg ym misoedd Mai a Mehefin, gan gyrraedd uchafbwynt mewn cystadleuaeth ar eu cyfer i gyd.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Clwb Jane Roberts, yr oedd ei gŵr Nigel, cadeirydd y Clwb, yn fatiwr medrus ac yn seren tîm Siroedd Llai Cymru: “Nod ein Clwb yw cynnig cyfle i chwarae criced, yn rhad ac am ddim, i bobl ifanc yn y gymuned leol; rhoi cyfle iddyn nhw chwarae a chymdeithasu efo cyfoedion mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chefnogol.

“Rydyn ni’n siŵr bod yna ddigon o dalent allan yna. Mae criced yn gêm y gallwch gymryd rhan ynddi a'i mwynhau am nifer o flynyddoedd ac rydyn ni'n gobeithio y bydd llawer ohonyn nhw'n cario ymlaen ac yn gwneud hynny."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Y llynedd mi wnaethon ni ofyn am geisiadau a oedd yn anelu at adeiladu cymunedau cydnerth ac eleni rydym wedi parhau â'r thema honno gyda phrosiectau sy'n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd - gan gynnwys cynigion sy'n mynd i'r afael â thueddiadau troseddol sy'n dod i'r amlwg fel Llinellau Cyffuriau a Throsedd Cyllyll.

“Mae wedi bod yn flwyddyn hynod heriol i ni i gyd ond rwy’n falch iawn bod fy nghronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ledled y Gogledd am yr wythfed flwyddyn.

“Mae'r gronfa unigryw hon yn caniatáu i'n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol trwy ein system bleidleisio ar-lein a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn talu sylw penodol i'r pwyntiau hynny sydd wedi'u nodi fel rhai hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu eu hunain.

“Rwy’n anelu at sicrhau bod ffocws clir yn parhau o amgylch troseddau llinellau cyffuriau - math arbennig o ddieflig o droseddu sy’n ecsbloetio’r ifanc a’r bregus ac rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn anelu at gefnogi ein pobl ifanc.

“Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, a helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn rhai o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn y DU.”

Ychwanegodd cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae eich cymuned eich dewis yn ffordd werthfawr iawn o gefnogi cymunedau a rhoi’r dewis o ba brosiectau sy’n cael eu cefnogi yn eu dwylo nhw.

“Mae'n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwy'n credu ei bod wedi bod yn gynllun mor hirhoedlog a llwyddiannus.

“Mae'n brosiect hyfryd i fod yn rhan ohono a gallwch weld yn uniongyrchol y budd o'r arian wrth gryfhau ein cymunedau.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae'r arian hwn yn cynnwys arian parod o asedau a atafaelwyd gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges arbennig o allweddol oherwydd trwy broffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chyda chefnogaeth y Llysoedd, rydym yn gallu taro'r troseddwyr lle mae'n brifo - yn eu pocedi.

“Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddu difrifol gan gynnwys troseddau sy’n croesi ffiniau, lladrad arfog, defnydd troseddol o ynnau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

“Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant hwn gyda gwybodaeth leol yn cael ei rhoi i’n swyddogion sy’n ein helpu i ddod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.

“Mae'n anfon neges gadarnhaol iawn bod arian a gymerwyd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian gwael yn arian da sy'n cael ei ddefnyddio at bwrpas adeiladol.”