Skip to main content

Clwb ieuenctid o Gaernarfon yn derbyn cyllid gan y CHTh er mwyn cynyddu ei waith

Dyddiad

Dyddiad

Volunteers
PCC and attendees

Yn ddiweddar, derbyniodd Clwb Ieuenctid Porthi Dre yng Nghaernarfon gyllid gan gynllun Arloesi i Dyfu Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru sef  Andy Dunbobbin. Roedd hyn er mwyn ehangu gwaith y clwb. Ymwelodd y Comisiynydd ar 16 Hydref er mwyn dysgu mwy am waith gwerthfawr y sefydliad yn y gymuned a gweld sut y bydd y cyllid o fudd iddyn nhw.

Mae'r clwb ieuenctid yng Nghaernarfon ac yn rhedeg bob nos Fercher rhwng 6-8pm.  Mae'n lle i helpu ac ysbrydoli pobl ifanc a lle gallan nhw sgwrsio hefo'i gilydd a gwneud ffrindiau. Mae'n cynnig ystod eang o weithgareddau i'r bobl ifanc ac yn paratoi prydau bwyd iddyn nhw bob tro y byddan nhw'n mynd.

Bydd y cyllid yn helpu cynyddu gweithgareddau cerddoriaeth yn y clwb, gan y cydnabyddir nad ydy gwersi a hyfforddiant cerddoriaeth traddodiadol yn aml yn hygyrch i blant sy'n mynychu'r clwb o gartrefi incwm is. Nod allweddol arall y prosiect ydy sefydlu dosbarthiadau ar ddiogelwch ar-lein a dechrau trafodaeth ynghylch cynnwys y mae pobl ifanc yn ei weld ar-lein. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu gwella iechyd meddwl a helpu deall y cynnwys y gallan nhw ei weld yn well.

Rhan arall o'r cynllun ydy uwchraddio'r cyfleusterau yn y clwb drwy greu lle mwy deniadol ac ymarferol i'r aelodau. Bydd hyn yn creu amgylchfyd saff fydd yn help pellach hefyd, sy'n hanfodol er mwyn lleihau achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfrannu at amgylchfyd cymunedol saffach.

Wrth fod ym Mhorthi Dre, cyfarfu'r CHTh Andy Dunbobbin hefo'r staff a'r mynychwyr yn y clwb ieuenctid a thrafod sut y bydd y cyllid gan SCHTh o fudd iddyn nhw. Gwelodd y CHTh y gweithgareddau sydd ar gael i aelodau'r clwb ieuenctid a gwelodd o lygad y ffynnon sut mae'r clwb ieuenctid yn helpu'r bobl ifanc.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â chlwb ieuenctid Porthi Dre yng Nghaernarfon. Mae'r clwb ieuenctid yn darparu amgylchfyd saff a chefnogol i bobl ifanc y gymuned. Mae'n hynod bwysig i mi fel CHTh Gogledd Cymru helpu mentrau fel hyn. Mae'r clwb ieuenctid yn lle hanfodol i bobl ifanc yng Nghaernarfon gymdeithasu a datblygu ac mae'n bwysig bod ganddyn nhw le saff lle maen nhw'n gallu mynd iddo.

"Dwi'n gobeithio y bydd y cyllid gan fy swyddfa i'n eu helpu'n llawn wrth ddatblygu'r clwb ieuenctid ymhellach a helpu'r gymuned leol yng Nghaernarfon."

Dywedodd staff Porthi Dre: “'Da ni'n hynod ddiolchgar am y cyllid gan swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â'r help parhaus gan ein heddlu lleol ni. Mae'r cyllid hwn yn hanfodol, gan ein galluogi ni gadw ein drysau ar agor bob nos Fercher drwy gydol y gaeaf, gan ddarparu lle diogel lle gall plant fwynhau pryd poeth am ddim, cymdeithasu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae hefyd yn helpu talu am gost bwyd ac yn ein galluogi ni ddod â gweithwyr llawrydd i mewn er mwyn cynnal gweithdai a allai sbarduno diddordebau newydd yn y plant.

Ein nod ni ydy cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn y Clwb Ieuenctid, gan roi cyfle i bobl ifanc edrych ar wahanol sgiliau a diddordebau. Er enghraifft, yn ystod ymweliad y Comisiynydd Andy Dunbobbin, byddwn yn cynnal gweithdy hefo arlunydd lleol. Mae'r help hwn o fudd nid yn unig i'r plant ond i'r gymuned ehangach hefyd, gan helpu greu strydoedd saffach, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhoi cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i lawer o bobl leol."

Daw'r cyllid ar gyfer Porthi Dre o gynllun Arloesi i Dyfu y CHTh. Mae'n targedu ac yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n delio hefo achosion sylfaenol troseddu ledled Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol o atal a mynd i'r afael â cham-drin. Er mwyn cael gwybod mwy am sut i wneud cais am y cynllun, ewch ar: www.northwales-pcc.gov.uk/innovate-grow 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Porthi Dre ewch ar: https://www.porthidre.cymru/