Skip to main content

Comisiwn Ieuenctid newydd am helpu i osod y ddeddf i lawr

Dyddiad

14062019  Deputy PCC Ann-36

Mae ymdrech ar droed yng ngogledd Cymru i ddod o hyd i bobl ifanc i gymryd rhan mewn menter arloesol er mwyn helpu i lunio blaenoriaethau plismona yr ardal.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn chwilio am dîm o 30 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i ddod yn aelodau o Gomisiwn Ieuenctid cyntaf Cymru a fydd yn cael ei oruchwylio gan ei ddirprwy, Ann Griffith.

Bwriedir ymgynghori â'r Comisiwn Ieuenctid ynghylch y blaenoriaethau plismona ar gyfer gogledd Cymru, yn enwedig yr elfennau sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Bydd yr aelodau'n cael eu hyfforddi gan Leaders Unlocked, menter gymdeithasol arbenigol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled y DU ac sydd wedi bod yn rhedeg wyth cynllun tebyg ar draws Lloegr ers 2013.

Mae recriwtio bellach wedi cychwyn gyda gwybodaeth a ffurflenni cais ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r bwriad yw penodi'r Comisiynwyr Ieuenctid o bob rhan o ogledd Cymru erbyn diwedd Gorffennaf er mwyn dechrau eu hyfforddi ym mis Awst.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf y 29ain a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dod o bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi dod i gyffyrddiad â’r gyfraith, a chyda phresenoldeb cynrychioliadol o siaradwyr Cymraeg.

Mae cyfarfod cyntaf y Comisiwn Ieuenctid newydd wedi'i drefnu ar gyfer Awst yr 16eg a dywedodd Kaytea Budd-Brophy, uwch reolwr gydag Leaders Unlocked a chyn Ddarlithydd: “Bydd y Comisiwn Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn adnabod a mynd i'r afael â materion brys sy'n effeithio ar bobl ifanc yng ngogledd Cymru.

Gall y pynciau gynnwys perthynas â'r heddlu, troseddau casineb, problem llinellau cyffuriau a'r fasnach gyffuriau, iechyd meddwl ac aros yn ddiogel ar-lein neu leihau troseddau ieuenctid.

Bydd y bobl ifanc eu hunain yn penderfynu pa faterion i'w codi a pha atebion i'w hawgrymu.”

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Ann Griffith, sydd â chyfrifoldeb arweiniol dros bobl ifanc fel rhan o'i swydd: “Mae’r cynllun hwn yn torri tir newydd ac rwy'n falch iawn bod gogledd Cymru yn arloesi yng Nghymru.

Rydym am sefydlu system gynaliadwy a strwythuredig ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed i ddylanwadu ar benderfyniadau am blismona a throseddu yng ngogledd Cymru

Mae'n bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc ac yn gwrando arnyn nhw i gael eu safbwyntiau nhw ar y materion trosedd a chymdeithasol sy'n eu hwynebu. Dyma un o'r ffyrdd y mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd yn gweithredu’r ymagwedd hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Mae angen i ni wrando ar bobl ifanc a chlywed eu safbwyntiau ar y materion y maen nhw’n eu hwynebu a rhoi ystyriaeth iddyn nhw yn hytrach na dim ond gosod ein barn ni arnyn nhw.”

Bydd penodi’r Comisiwn Ieuenctid yn broses dau gam gyda ffurflenni cais ar gael ar wefan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynwww.northwales-pcc.gov.uk/cy/Gweithio-mewn-Partneriaeth/Comisiwn-yr-Ifanc.aspx

Bydd angen i ymgeiswyr gynnwys enw noddwr ar eu ceisiadau, gweithiwr proffesiynol a enwir y maent wedi gofyn iddynt eu noddi, ac mi allai'r unigolyn hynny fod yn athro, yn weithiwr ieuenctid, yn rheolwr, neu'n ddarlithydd.

Yna bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn cael cyfweliad dros y ffôn a bydd Leaders Unlocked yn cynnal gweithdai gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus o'r Comisiwn Ieuenctid i sefydlu eu blaenoriaethau plismona ac i'w hyfforddi i gynnal eu hymgynghoriadau eu hunain - y Sgwrs Fawr - gyda'u cyfoedion.

Y gobaith cyffredinol yw gallu ymgysylltu â thua 1,500 o bobl ifanc ar draws gogledd Cymru i gytuno ar flaenoriaethau ac ysgrifennu adroddiad i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'w gyflwyno mewn cynhadledd arbennig a fynychir gan y Comisiynydd, y Prif Swyddogion yr Heddlu a chynrychiolwyr y cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith y Comisiwn Ieuenctid.

Ychwanegodd Kaytea Budd-Brophy: “Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael cydbwysedd - rydym yn awyddus i gael pobl ifanc sydd â phrofiad o'r system cyfiawnder troseddol.

Mae'n bwysig bod y Comisiwn Ieuenctid yn cynnwys pobl ifanc ar draws y sbectrwm cymdeithasol sydd eisiau cael llais, cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau.

Mae'n gyfle i bobl ifanc allu herio'r heddlu ac iddyn nhw siarad efo'r heddlu a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am y materion sy'n effeithio arnyn nhw.

Am y tro cyntaf rydym wedi gorfod mynd i'r afael â mater iaith wrth sefydlu Comisiwn Ieuenctid ac rydym wedi gweithio gyda CWVYS (Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru) ac mi fyddan nhw yn ein cynorthwyo i gyflwyno gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg i sicrhau bod y prosiect yn gynhwysol ac yn rheoli dewis iaith.”

Am ragor o wybodaeth ac i gael ffurflen gais ewch at: www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Gweithio-mewn-Partneriaeth/Comisiwn-yr-Ifanc.aspx